Prif Swyddog Cyllid
Sarah Jones yw'r Prif Swyddog Cyllid ac mae’n gyfrifol am roi arweinyddiaeth ariannol strategol, cyfarwyddyd a chyngor arbenigol ar bob mater ariannol ar draws gwasanaethau gweithredol y Brifysgol, yn ogystal â rhoi mewnbwn sylweddol i'r penderfyniadau strategol ynghylch buddsoddi. Ar lefel weithredol, mae ei thîm yn darparu cyngor ariannol o safon, ynghyd â phrosesau ariannol cadarn a systemau sy'n helpu aelodau o staff i gyflawni uchelgeisiau strategol y Brifysgol.
Dechreuodd Sarah yn y swydd ym mis Chwefror 2020, gan gynnig profiad sylweddol o'r sector addysg uwch. Ar ôl ennill BA mewn Seicoleg o Brifysgol Sheffield, enillodd ei chymwysterau fel Cyfrifydd Siartredig gyda'r cwmni Ernst & Young ym 1992. Dechreuodd ei gyrfa ym maes addysg uwch ym Mhrifysgol Sheffield cyn iddi dderbyn swydd Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol ym Mhrifysgol Plymouth ym 1998. Dros yr 20 mlynedd nesaf – fel Cyfarwyddwr Cyllid yn ystod y 10 mlynedd olaf – arweiniodd Sarah sawl cyfnod o leihau costau ac ad-drefnu sylweddol, yn ogystal â gwella ansawdd gwybodaeth ariannol, llywodraethu, cynllunio a gwneud penderfyniadau. Mae'n frwd dros gyllid ac fe'i hystyrir yn alluogwr yn y Brifysgol, gan sicrhau hefyd fod pwyslais ar ragoriaeth ymhlith aelodau'r tîm ac o ran popeth y maent yn ei wneud.