Mae’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu’r Strategaeth Gydnabyddiaeth ar gyfer y Brifysgol ac am bennu’r gydnabyddiaeth honno a’r amodau a thelerau ar gyfer yr Is-ganghellor ac aelodau o’i Uwch-dîm Rheoli. Mae’n ystyried fforddiadwyedd a gwybodaeth gymharol am y gydnabyddiaeth, y buddion a’r amodau cyflogi yn y sector Prifysgolion, ac yn ehangach lle bo’n briodol, er mwyn sicrhau’r canlynol:
• Y gall y Brifysgol recriwtio a chadw arweinwyr o safon ym meysydd Academia a’r Gwasanaethau Proffesiynol;
• Y caiff targedau ac anogaeth perfformiad priodol eu pennu ac y caiff canlyniadau eu monitro er mwyn i’r arweinwyr hynny ddatblygu llwyddiant parhaus y Brifysgol
Mae’r pwyllgor hefyd yn adolygu argymhellion a wnaed gan yr Uwch-dîm Rheoli mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol i Athrawon a Chyfarwyddwyr ar radd 11.
Dilynwch y ddolen hon i weld Datganiad Tâl 2023.