Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn mynd yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae’n bodoli mewn gwahanol ffurfiau, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod, llafur gorfodol a masnachu pobl. Mae pob un o'r rhain ag elfen gyffredin, sef bod un person neu grŵp yn amddifadu unigolyn neu unigolion o'u rhyddid er mwyn cam-fanteisio arnynt er mantais bersonol neu fasnachol.
Gwneir y datganiad hwn yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a hwn yw ein datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Gorffennaf 2025.
Mae Prifysgol Abertawe yn mynnu ar ymagwedd dim goddefgarwch mewn perthyna â chaethwasiaeth fodern.
Strwythur y Sefydliad
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad uchelgeisiol, sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil, ac mae ganddi 24,600 o fyfyrwyr a 3,714 o staff. Corff llywodraethu'r Brifysgol, y Cyngor, sydd â rheolaeth gyffredinol ar y Brifysgol a'i materion, ei dibenion a'i swyddogaethau. Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth sy'n gyfrifol yn weithredol am y Brifysgol, ac mae'n cynnwys yr Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Gangellorion, y Cofrestrydd a'r Prif Swyddog Gweithredu a'r Prif Swyddog Ariannol. Mae'r corff hwn yn darparu fforwm ar gyfer cynghori'r Is-Ganghellor ac uwch swyddogion eraill y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud â'u cyfrifoldebau portffolio.
Gweld datganiadau ariannol y Brifysgol.
Cydweithio
Mae'r Brifysgol yn cydweithio â chonsortia pwrcasu Addysg Uwch eraill a sefydliadau eraill ar asesu risg a phrosesau diwydrwydd dyladwy i rannu arferion da ac osgoi dyblygu ymdrech i'r Prifysgolion a chyflenwyr allanol. Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithio gyda'r Gymdeithas Pwrcasu Addysg Uwch (HEPA) a sefydliadau ar draws y sector, gan fod yn aelod o Grŵp Pwrcasu Cyfrifol HEPA.
Cadwyni Cyflenwi
Mae gan Brifysgol Abertawe gadwyn gyflenwi fyd-eang, ac mae’n gwario £187 miliwn bob blwyddyn yn prynu ystod o nwyddau, gwasanaethau a gweithiau. Mae dros 94% o gyflenwyr y Brifysgol wedi'u lleoli yn y DU, ond mae dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y gallai'r gadwyn gyflenwi ehangach gael ei lledaenu yn fyd-eang ac felly mae'r risg o gaethwasiaeth fodern yn cynyddu. Bydd y Brifysgol yn parhau i ganolbwyntio ar fonitro ardaloedd a chyflenwyr categori risg uchel er mwyn sicrhau nad oes caethwasiaeth fodern yn y cadwyni cyflenwi strategol. Mae'r sectorau risg uchel ar gyfer Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys cyflenwadau swyddfa, nwyddau traul labordy, offer TGCh a rhai gwasanaethau ystadau (rheoli cyfleusterau). Gan fod y mwyafrif o wariant Prifysgol Abertawe a threfniadau cytundebol ar gyfer y sectorau hyn drwy fframweithiau cenedlaethol neu gyflenwyr lleol, mae'r risg gweddilliol o dramgwyddau caethwasiaeth fodern yn yr ardaloedd hyn yn isel.
Mae contract Darparu Gwasanaethau Diogelwch Prifysgol Abertawe sydd ar ddod wedi cynnwys rhwymedigaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r contractwr gael a chynnal ei bolisïau ei hun drwy gydol cyfnod y Contract o ran osgoi caethwasiaeth a masnachu pobl, gan osod disgwyliadau o'r cychwyn cyntaf a sicrhau bod y cyfrifoldeb hwn yn cael ei gynnwys fel rhwymedigaeth gytundebol.
Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi
Mae'r Brifysgol wedi llofnodi Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy'n cefnogi dileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol i sicrhau bod gweithwyr ar bob cam o'r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg.
Ein polisïau ar gaethwasiaeth a masnachu pobl
Yn ystod y flwyddyn i fis Gorffennaf 2024, gweithredodd y Brifysgol mewn modd cyfrifol i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i weithio tuag at sicrhau nad oes caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein cadwyni cyflenwi nac mewn unrhyw ran o'n busnes.
Gan ystyried y ddyletswydd i adrodd ar fesurau i sicrhau na cheir caethwasiaeth yn unrhyw ran o'n busnes na'n cadwyn gyflenwi, byddwn yn parhau i adolygu ein polisïau a'n gweithdrefnau yn y gweithle i asesu eu heffeithiolrwydd wrth nodi a mynd i'r afael â materion caethwasiaeth fodern. Mae cyhoeddi'r datganiad hwn hefyd yn un o ofynion Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru, yr ymrwymodd y Brifysgol i'w lofnodi ochr yn ochr â phob Prifysgol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2017. Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio tuag at gyflawni ymrwymiadau'r Cod Ymarfer, sy'n cynnwys annog ein cyflenwyr i fabwysiadu'r Cod
Prosesau diwydrwydd dyladwy ar gyfer caethwasiaeth a masnachu pobl
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymo i ystyried prosesau diwydrwydd dyladwy yn ein busnes ein hunain a busnes ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn rhoi systemau ar waith i nodi, asesu a monitro meysydd risg posibl yn ein cadwyni cyflenwi fel ein bod yn parhau i liniaru'r risgiau hynny.
Mae'r Brifysgol yn aelod o'r Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru (HEPCW). Mae HEPCW yn gweithio'n effeithiol ochr yn ochr â'i gorff cyfatebol, Consortia Pwrcasu Prifysgolion y DU. Mae'r rhaglen contractio ar y cyd yn darparu portffolio cydweithredol cynhwysfawr ac aeddfed, sy'n cynnwys rhai o'r categorïau risg uchel megis cyflenwadau swyddfa, nwyddau traul labordy, offer TGCh a rhai gwasanaethau ystadau (rheoli cyfleusterau).
Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio ar y cyd â HEPCW ac o fewn y Consortia Pwrcasu AU i nodi'r cyflenwyr yn y categorïau risg uchel hyn, mewn perthynas â chaethwasiaeth a masnachu pobl, ac mae wedi ymrwymo i Gofrestr Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi (TISC) Llywodraeth Cymru.
Mae'r broses dendro Prifysgolion yn sicrhau bod pob cyflenwr yn deall ei rwymedigaethau fel cyflenwr i brifysgol ac yn ymrwymo i fynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern o fewn ei gadwyni cyflenwi. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gydymffurfiaeth pob cyflenwr newydd â'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, gan sicrhau bod yr holl sefydliadau masnachol perthnasol (fel y'u diffinnir yn adran 54 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015) yn cydymffurfio â'r gofynion o ran adrodd. Mae'n ofynnol i bob cyflenwr (pan gaiff ei ddiffinio’n sefydliad masnachol yn adran 54 rhan 2(b) o'r Ddeddf) ddatgan ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion i adrodd yn flynyddol sy’n rhan o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a nodi cyfeiriad at ei ddatganiad ynghylch y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
NETPositive Futures
Drwy weithio gyda’r Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru ehangach, mae'r Brifysgol wedi ymgysylltu â NETPositive Futures i ddarparu cronfa ddata ryngweithiol o gyflenwyr cyfredol i asesu eu cydymffurfiaeth â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Bydd y system yn:
- Darparu mecanwaith unigol i ymgysylltu â chyflenwyr sydd â chontract a rhai heb gontract ynghylch materion caethwasiaeth fodern
- Casglu data ynghylch pa rai o'n cyflenwyr sy'n ymwybodol o agweddau ar gaethwasiaeth fodern ac yn ymwneud â nhw
- Darparu mecanwaith i gynnig cefnogaeth, arweiniad neu hyfforddiant i'n sylfaen gyflenwi ac i rannu arferion gorau rhyngddynt
- Ein galluogi i olrhain y camau sy'n cael eu cymryd a'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan ein cadwyn gyflenwi wrth fynd i'r afael ag agweddau ar gaethwasiaeth fodern
- Rhoi mynediad i ni at yr wybodaeth hon mewn amser real
- Caniatáu i ni gynnwys caethwasiaeth fodern yn ein prosesau rheoli contractau ar sail y cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd gan ein cyflenwyr
Lliniaru risg drwy ofyn i gyflenwyr lynu wrth ein gwerthoedd
Mae llawer o'n cyflenwyr yn y categorïau risg uwch hyn wedi ymrwymo i God Sylfaenol y Fenter Masnachu Moesegol (ETI) ac mae Consortia Pwrcasu Prifysgolion y DU yn gweithio i berswadio'r cyflenwyr sy'n weddill yn y categorïau hyn i ymuno â nhw. Mae'r Cod Sylfaenol ETI yn seiliedig ar gonfensiynau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) ac mae'n god ymarfer llafur a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n mynnu cydymffurfiaeth â'r canlynol:
- Dewisir cyflogaeth yn wirfoddol
- Rhyddid i ymgysylltu a'r hawl i gydfargeinio eu parchu
- Amodau gwaith diogel a hylan
- Ni ddefnyddir llafur plant
- Telir cyflog byw
- Nid yw'r oriau gwaith yn ormodol
- Nid oes unrhyw wahaniaethu
- Darperir cyflogaeth reolaidd; a
- Ni chaniateir unrhyw driniaeth lem neu greulon.
Prifysgol Abertawe oedd y gyntaf yng Nghymru i ennill statws Masnach Deg. Mae gan wasanaeth arlwyo'r Brifysgol ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd, Masnach Deg ac i brynu lleol. Mae Masnach Deg yn ymwneud â phrisiau gwell, amodau gwaith da, cynaliadwyedd lleol a thelerau masnach teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol.
Yn ogystal, Prifysgol Abertawe oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ymuno ag Electronics Watch. Mae Electronics Watch yn sefydliad monitro annibynnol sy'n helpu prynwyr y sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i sicrhau parch at hawliau llafur a safonau diogelwch yn y ffatrïoedd sy'n gwneud y caledwedd TGCh y maent yn ei brynu. Trwy weithredu ar sail aelodaeth gyswllt, mae Electronics Watch yn caniatáu i brynwyr y sector cyhoeddus rannu cost monitro cyflenwyr â'r rhwydwaith cyfan o gysylltiadau a chydlynu ymgysylltiad â'r diwydiant. Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn cysylltiad ag Electronics Watch felly i ddatblygu tryloywder yn ei chadwyn gyflenwi i gyflenwyr haen is, er mwyn lliniaru'r risg o arferion cyflogaeth anfoesegol, er enghraifft, mwynau gwrthdaro a gyflenwir i wneuthurwyr nwyddau electroneg.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol
Mae'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw ac mae'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol a bennir gan Lywodraeth y DU. Mae cyflogwyr achrededig yn talu'r gyfradd gyflog byw gwirioneddol, sy’n cael ei diweddaru’n flynyddol, yn wirfoddol.
Aeth Prifysgol Abertawe ati o’i gwirfodd i gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol i'w holl staff cyflogedig ym mis Ebrill 2019, er budd mwy na 1,000 o'i gweithwyr ar y cyflogau isaf. Ers hynny, mae wedi ennill ei hachrediad cyflog byw gwirioneddol gan y Living Wage Foundation (LWF) trwy dalu'r cyflog byw gwirioneddol i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol a hefyd i'r rhai sydd wedi cael eu hisgontractio.
Mae achrediad Abertawe gan yr LWF, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020, yn galluogi'r Brifysgol i hyrwyddo ac annog polisïau ac arferion sy'n rhan bwysig o helpu ei 4,000 o staff i fyw bywydau gwaith gwerth chweil sy’n rhoi boddhad iddynt. Yn ddiweddar, mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu tri chontract gwerth uchel ar gyfer Rheoli Cyfleusterau Meddal, Rheoli Cyfleusterau Caled ac Arlwyo ac mae pob un ohonyn nhw wedi cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer cyflog byw gwirioneddol i'r holl weithwyr.
Mae cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol achrededig yn dweud bod cael eu hachredu wedi helpu cysylltiadau rhwng staff a'u rheolwyr, wedi arwain at gynnydd mewn cymhelliant a chyfraddau cadw staff, ac mae wedi helpu i hybu enw da eu sefydliad.
Hyfforddiant
Er mwyn sicrhau lefel uchel o ddealltwriaeth o'r risgiau o gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yng nghadwyni cyflenwi Prifysgol Abertawe ac yn y sefydliad cyfan, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern.
Mae'r timau Caffael a Chynaliadwyedd yn gweithio'n agos i ddatblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth fewnol, gan ddefnyddio adnoddau perthnasol, ac i gryfhau polisïau a gweithdrefnau mewnol yn unol â safonau ISO. Mae'r gweithgarwch codi ymwybyddiaeth hwn ar gyfer lefelau a rolau perthnasol yn y Brifysgol. Trwy nodi staff sy'n rhan o'r broses brynu, darperir hyfforddiant i gynorthwyo ymwybyddiaeth, ac i helpu i nodi risgiau yn y gadwyn gyflenwi y maent yn rhan ohoni. Mae Prifysgol Abertawe wedi ehangu'r modiwlau hyfforddiant mae'n eu cynnig ym maes Caffael. Mae Caethwasiaeth Fodern bellach wedi'i chynnwys o dan y modiwlau hyn, gan alluogi mwy o staff Prifysgol Abertawe i gael gwell dealltwriaeth o'r gofyniad i bob cyflenwr gydymffurfio.
Ein heffeithiolrwydd wrth fynd i'r afael â chaethwasiaeth a masnachu pobl
Mae Prifysgol Abertawe wedi nodi Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn ein System Rheoli Amgylcheddol a'n Cofrestr Gyfreithiol ISO14001 (2015). Bydd hyn yn:
- cynorthwyo wrth adnabod effeithiau cysylltiedig a’u lliniaru ynghyd â datblygu dangosyddion perfformiad allweddol ledled y Brifysgol ar gyfer rheoli perfformiad
- darparu sicrwydd wedi'i archwilio'n allanol
- darparu mecanwaith i gynyddu ymwybyddiaeth ar draws cymuned y Brifysgol
- ystyried cymalau cyfreithiol priodol mewn contractau i reoli a monitro cyflenwyr yn fwy effeithiol.
Polisi Chwythu’r Chwiban (Datgelu er Budd y Cyhoedd)
Mae'r Brifysgol wedi sefydlu polisi a gweithdrefnau Chwythu'r Chwiban (Datgelu er Budd y Cyhoedd) er mwyn galluogi staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o'r Brifysgol i godi pryderon sydd er budd y cyhoedd mewn perthynas â honiadau o dwyll, camymarfer, amhriodoldeb, ac ymddygiad amhriodol neu anfoesegol. Mae'r polisi a'r gweithdrefnau yn sicrhau yr ymdrinnir â phryderon yn gadarn ac yn deg, ac nad yw aelodau sy'n codi pryderon o'r fath yn destun unrhyw fath o erledigaeth. Cafodd y polisi ei ddiwygio ym mis Tachwedd 2021 ac mae bellach yn cynnwys y ddarpariaeth i staff y brifysgol adrodd pryderon am droseddau Deddf Caethwasiaeth Fodern o fewn cadwyn gyflenwi'r Brifysgol. Gellir gweld polisi chwythu'r chwiban y Brifysgol yma:
Llywodraethu a Pholisïau Perthnasol
-
Polisi Caffael Cynaliadwy a Moesegol
Mae'r polisi hwn yn rhan annatod o'n gweithgareddau caffael ac fe'i datblygwyd mewn cydweithrediad rhwng y timau Caffael a Chynaliadwyedd.
Dyletswydd i Hysbysu
O 1 Tachwedd 2015, mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus penodedig i hysbysu'r Swyddfa Gartref o unrhyw unigolyn yng Nghymru a Lloegr y maent yn credu ei fod wedi dioddef o gaethwasiaeth neu fasnachu pobl. Er nad yw'r Brifysgol wedi'i rhestru fel awdurdod cyhoeddus perthnasol yn hyn o beth mae sefydliadau eraill, gan gynnwys cyrff anllywodraethol, hefyd yn cael eu hannog i gyflwyno hysbysiadau pan maent yn dod ar draws dioddefwr posibl caethwasiaeth fodern nad yw am fod yn rhan o'r mecanwaith cyfeirio cenedlaethol (NRM). Os credir bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed sylweddol, ffoniwch '999’.
Mae taflenni ffeithiau a phoster sy'n esbonio beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi dioddef caethwasiaeth fodern:
Caethwasiaeth Fodern - poster Dyletswydd i Hysbysu
Caethwasiaeth Fodern - Taflen Ffeithiau Dyletswydd i Hysbysu
Camau pellach ar gyfer 2024/25
Yn ystod 2024/25 byddwn yn parhau i ddatblygu mesurau i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd mewn unrhyw ran o'n busnes neu'n cadwyni cyflenwi. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:
- Cydweithio ag awdurdodau eraill sy'n contractio ac asiantaethau perthnasol er mwyn rhannu gwybodaeth am gadwyn gyflenwi Prifysgol Abertawe a monitro unrhyw risgiau neu faterion perthnasol ar draws categorïau.
- Parhau i reoli contractau a chyflenwyr i sicrhau bod disgwyliadau Prifysgol Abertawe o ran ymddygiad cyflenwyr yn cael eu cyfleu ar draws pob lefel haen.
- Adolygu a datblygu'r Gweithdrefnau Recriwtio a Dethol.
- Monitro a gwella'n barhaus y gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar adeg ymsefydlu cyflenwyr er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ddigonol ei chasglu ac y caiff disgwyliadau eu pennu ynghylch safbwynt Prifysgol Abertawe ar Gaethwasiaeth Fodern.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu dealltwriaeth ac effeithiolrwydd yn y maes hwn ymhellach, gyda'r nod o wella tryloywder yn ein cadwyni cyflenwi a gweithredu mewn modd cyfrifol tuag at bobl sy'n gweithio yn y cadwyni hynny. Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i asesu meysydd risg allweddol yn ein portffolio o wariant ac yn datblygu strategaethau i liniaru unrhyw risg posibl.
Cymeradwywyd y Datganiad hwn ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl gan yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor, ar 13 Tachwedd 2024.