Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Ceir amrywiaeth o ffurfiau arni, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod a llafur gorfodol a masnachu pobl. Mae pob un o'r rhain ag elfen gyffredin, sef amddifadu unigolyn o'i ryddid er mwyn camfanteisio arno er mantais bersonol neu fasnachol.

Gwneir y datganiad hwn yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a hwn yw ein datganiad ar gaethwasiaeth a masnachu pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Gorffennaf 2026.

Mae gan y Brifysgol ymagwedd dim goddefgarwch at gaethwasiaeth fodern.

Strwythur y Sefydliad

Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad uchelgeisiol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil, â mwy na 21,862 o fyfyrwyr a bron 3,661 o aelodau staff. Corff llywodraethu'r Brifysgol, y Cyngor, sydd â rheolaeth gyffredinol dros y Brifysgol a'i materion, ei dibenion a'i swyddogaethau. Mae gan yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth gyfrifoldeb gweithredol am y Brifysgol a'r aelodau yw: yr Is-ganghellor, y Dirprwy Is-gangellorion, y Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu a'r Prif Swyddog Ariannol. Mae'r corff hwn yn fforwm ar gyfer cynghori'r Is-ganghellor ac uwch-swyddogion eraill y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud â chyfrifoldebau eu portffolio.

Gellir gweld datganiadau ariannol y Brifysgol yn https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/cyllid/ffurflenni-dogfennau/

Cydweithio

Mae'r Brifysgol yn cydweithredu â chonsortia prynu addysg uwch eraill, a sefydliadau eraill, ar brosesau asesu risg a diwydrwydd dyladwy er mwyn rhannu arfer gorau ac osgoi dyblygu ymdrechion ar gyfer y prifysgolion a chyflenwyr allanol. Mae'r Brifysgol yn gweithio hefyd gyda Grŵp Cyfarwyddwyr Ariannol Prifysgolion Prydain a sefydliadau ar draws y sector, gan ei bod yn aelod o Rwydwaith Caffael Cyfrifol Consortia Prynu Prifysgolion y DU.

Cadwyni Cyflenwi

Mae gan Brifysgol Abertawe gadwyn gyflenwi fyd-eang, ac mae’n gwario dros £153 miliwn yn flynyddol yn prynu amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae dros 98% o gyflenwyr y Brifysgol wedi'u lleoli yn y DU, ond ceir dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y gall y gadwyn gyflenwi ehangach fod yn fyd-eang, felly mae'r risg o Gaethwasiaeth Fodern yn cynyddu. Bydd y Brifysgol yn parhau i ganolbwyntio ar fonitro meysydd a chyflenwyr risg uchel i sicrhau na cheir Caethwasiaeth Fodern yn y cadwyni cyflenwi strategol. Mae'r sectorau risg uchel ar gyfer Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys cyflenwadau swyddfa, nwyddau traul labordy, cyfarpar TGCh a rhai o wasanaethau ystadau (rheoli cyfleusterau). Mae'r rhan fwyaf o wariant a threfniadau cytundebol Prifysgol Abertawe yn y sectorau hyn drwy fframweithiau cenedlaethol neu gyflenwyr lleol, felly mae'r risg weddilliol o droseddau Caethwasiaeth Fodern yn y meysydd hyn yn isel.

Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi

Mae'r Brifysgol wedi llofnodi Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy'n cefnogi ymdrechion i ddileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi. www.youtube.com/watch?v=Dh7xovObIvU&feature=youtu.be

Ein polisïau ar gaethwasiaeth a masnachu pobl

Yn ystod y flwyddyn i fis Gorffennaf 2025, gweithredodd y Brifysgol mewn modd cyfrifol i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i weithio tuag at sicrhau nad yw caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn rhan o'n cadwyni cyflenwi neu unrhyw ran o'n busnes.

 

Gan ystyried y ddyletswydd i adrodd ar fesurau i sicrhau na cheir caethwasiaeth yn unrhyw ran o'n busnes na'n cadwyn gyflenwi, byddwn yn parhau i adolygu ein polisïau a'n gweithdrefnau gweithle i asesu eu heffeithiolrwydd wrth nodi a mynd i'r afael â materion caethwasiaeth fodern. Mae cyhoeddi'r datganiad hwn hefyd yn un o ofynion Côd Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru, yr ymrwymodd y Brifysgol i'w lofnodi, ynghyd â holl brifysgolion eraill Cymru, ym mis Gorffennaf 2017. Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio i gyflawni ymrwymiadau'r Côd Ymarfer, sy'n cynnwys annog ein cyflenwyr i fabwysiadu'r Côd.

Prosesau diwydrwydd dyladwy ar gyfer caethwasiaeth a masnachu pobl

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymo i ystyried prosesau diwydrwydd dyladwy yn ein busnes ein hunain ac ym musnes ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn rhoi systemau ar waith er mwyn nodi, asesu a monitro meysydd risg posib yn ein cadwyni cyflenwi er mwyn parhau i liniaru'r risgiau hynny.

Mae Prifysgol Abertawe'n aelod o Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW). Mae HEPCW yn cydweithio'n effeithiol â Chonsortia Pwrcasu Prifysgolion y DU. Mae'r rhaglen contractio ar y cyd yn darparu portffolio cydweithredol cynhwysfawr ac aeddfed, sy'n cynnwys rhai o'r categorïau risg uchel, megis cyflenwadau swyddfa, nwyddau traul labordy, cyfarpar TGCh a rhai gwasanaethau ystadau  (rheoli cyfleusterau).

Mae Prifysgol Abertawe'n cydweithio â HEPCW, ac â'r Consortia Pwrcasu Addysg Uwch, i nodi'r cyflenwyr yn y categorïau risg uchel hyn, mewn perthynas â chaethwasiaeth a masnachu pobl, ac mae wedi ymrwymo i Gofrestr Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru.

Mae proses dendro'r Brifysgol yn sicrhau bod yr holl gyflenwyr yn deall eu rhwymedigaethau fel cyflenwyr y Brifysgol ac yn darparu ymrwymiad i fynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern yn eu cadwyni cyflenwi nhw. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar yr holl gyflenwyr newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, gan sicrhau bod yr holl sefydliadau masnachol (yn unol â'r diffiniad yn Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015) yn cydymffurfio â'r gofynion adrodd. Mae'n ofynnol i bob cyflenwr (pan gaiff ei ddiffinio'n sefydliad masnachol yn adran 54 rhan 2(b) o'r Ddeddf) ddatgan ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion i adrodd yn flynyddol sy'n rhan o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a nodi cyfeiriad at ei ddatganiad ynghylch y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

NETPositive Futures

Gan weithio gyda Chonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru, mae'r Brifysgol wedi gweithio gyda NETPositive Futures i greu cronfa ddata ryngweithiol o gyflenwyr presennol er mwyn asesu eu cydymffurfiaeth â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Bydd y system yn:

  • Darparu mecanwaith unigol i godi ymwybyddiaeth o faterion Caethwasiaeth Fodern ymhlith cyflenwyr sydd wedi'u contractio a rhai nad ydynt wedi'u contractio.
  • Casglu data ynghylch pa rai o'n cyflenwyr sy'n ymwybodol o agweddau ar gaethwasiaeth fodern ac yn mynd i'r afael â nhw.
  • Darparu mecanwaith i gynnig cymorth, arweiniad neu hyfforddiant i'n cyflenwyr, a rhannu arferion gorau rhyngddynt
  • Ein galluogi i olrhain y camau gweithredu sydd ar waith a'r cynnydd a wneir yn ein cadwyn gyflenwi i fynd i'r afael ag agweddau ar gaethwasiaeth fodern
  • Rhoi inni fynediad at yr wybodaeth hon mewn amser go iawn
  • Ein galluogi i gynnwys caethwasiaeth fodern yn ein prosesau rheoli contractau ar sail y cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd gan ein cyflenwyr

Lliniaru risg drwy ofyn i gyflenwyr lynu wrth ein gwerthoedd

Mae llawer o'n cyflenwyr yn y categorïau risg uwch hyn wedi ymrwymo i Gôd Sylfaen y Fenter Masnachu Moesegol (ETI) ac mae Consortia Pwrcasu Prifysgolion y DU yn gweithio i ddarbwyllo gweddill y cyflenwyr yn y categorïau hyn i ymuno â nhw. Mae’r ETI yn seiliedig ar gonfensiynau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol ac mae'n gôd ymarfer llafur a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n mynnu cydymffurfiaeth â'r canlynol:

  • Dewisir cyflogaeth yn wirfoddol
  • Caiff rhyddid i ymgysylltu a'r hawl i gydfargeinio eu parchu
  • Mae'r amodau gweithio'n ddiogel ac yn hylan
  • Ni ddefnyddir llafur plant
  • Telir cyflog byw
  • Nid yw'r oriau gwaith yn ormodol
  • Nid oes unrhyw wahaniaethu
  • Darperir cyflogaeth reolaidd; ac
  • Ni chaniateir unrhyw driniaeth lem neu greulon.

Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Masnach Deg. Mae gwasanaeth arlwyo’r Brifysgol wedi ymrwymo'n gryf i gynaliadwyedd, Masnach Deg a phrynu'n lleol. Mae Masnach Deg yn ymwneud â phrisiau gwell, amodau gwaith da, cynaliadwyedd lleol a thelerau masnach teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol. Yn ogystal, Prifysgol Abertawe oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ymuno ag Electronics Watch. Mae Electronics Watch yn sefydliad monitro annibynnol sy'n helpu prynwyr y sector cyhoeddus i gydweithio er mwyn sicrhau parch at hawliau llafur a safonau diogelwch yn y ffatrïoedd sy'n cynhyrchu'r galedwedd TGCh maent yn ei phrynu. Drwy weithredu ar sail aelodaeth gyswllt, mae Electronics Watch yn galluogi prynwyr y sector cyhoeddus i rannu cost monitro cyflenwyr â'r rhwydwaith cyfan o aelodau cyswllt a chydlynu gweithgarwch y diwydiant. Felly, mae Prifysgol Abertawe'n cydweithio ag Electronics Watch i ddatblygu tryloywder yn ei chadwyn gyflenwi i gynnwys cyflenwyr haen is, er mwyn lliniaru'r risg o arferion cyflogaeth anfoesegol, er enghraifft, mwynau gwrthdaro a gyflenwir i weithgynhyrchwyr nwyddau electronig.

Y Cyflog Byw Gwirioneddol

Cyfrifir y cyflog byw gwirioneddol yn annibynnol ar sail yr hyn y mae ei angen ar gyflogeion a'u teuluoedd i fyw, ac mae'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol sydd wedi'i bennu gan Lywodraeth y DU. Caiff y cyflog byw gwirioneddol ei ddiweddaru'n flynyddol, ac mae cyflogwyr achrededig yn ei dalu o’u gwirfodd.

Gwnaeth Prifysgol Abertawe weithredu'r cyflog byw gwirioneddol yn wirfoddol ar gyfer ei holl gyflogeion cyflogedig ym mis Ebrill 2019, er budd mwy na 1,000 o'i chyflogeion ar y cyflogau isaf. Ers hynny, mae'r Brifysgol wedi cael ei hachrediad cyflog byw gwirioneddol gan y Living Wage Foundation (LWF) drwy dalu'r cyflog byw gwirioneddol i'r holl staff sydd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol a hefyd y rhai sydd wedi'u his-gontractio.

Daeth achrediad Abertawe gan yr LWF i rym ar 1 Mehefin 2020, ac mae'n galluogi'r Brifysgol i hyrwyddo ac annog polisïau ac arferion sy'n elfen bwysig o helpu ei 3,661 o aelodau staff i fyw bywydau gweithio boddhaus a gwobrwyol. Yn ddiweddar, mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu tri chontract â gwerth uchel ar gyfer rheoli cyfleusterau meddal, rheoli cyfleusterau caled ac arlwyo; mae pob un ohonynt yn cynnwys darpariaeth i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i'r holl gyflogeion.

Mae cyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol yn dweud bod yr achrediad wedi helpu perthnasoedd rhwng staff a'u rheolwyr, wedi arwain at gynnydd mewn cymhelliant a chyfraddau cadw staff, a’i fod wedi helpu i hybu enw da eu sefydliad.

Hyfforddiant

I sicrhau dealltwriaeth uchel o risgiau caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng nghadwyni cyflenwi Prifysgol Abertawe ac yn y sefydliad cyfan, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern.

Mae'r timau Caffael a Chynaliadwyedd yn gweithio'n agos i ddatblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth mewnol, gan ddefnyddio adnoddau perthnasol, ac i atgyfnerthu polisïau a gweithdrefnau mewnol yn unol â safonau ISO. Mae’r hyfforddiant codi ymwybyddiaeth hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer lefelau a rolau perthnasol yn y Brifysgol. Drwy nodi staff sy'n rhan o'r broses brynu, darperir hyfforddiant er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ac er mwyn helpu wrth nodi risgiau yn y gadwyn gyflenwi y maent yn rhan ohoni.

Mae Dysgu Cymru wedi nodi hyfforddiant i staff a gaiff ei gyflwyno i'r staff perthnasol. -

https://learning.nhs.wales/course/view.php?id=5869

Ein heffeithiolrwydd wrth fynd i'r afael â chaethwasiaeth a masnachu pobl

Mae Prifysgol Abertawe wedi nodi Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn ein System Rheoli Amgylcheddol ISO14001 (2015) a'n cofrestr gyfreithiol. Bydd hyn yn:

  • cynorthwyo wrth nodi a lliniaru effeithiau cysylltiedig a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol ledled y Brifysgol ar gyfer rheoli perfformiad
  • darparu sicrwydd a gaiff ei archwilio'n allanol; a
  • mecanwaith i gynyddu ymwybyddiaeth drwy gymuned gyfan y Brifysgol
  • ystyried cymalau cyfreithiol priodol mewn contractau er mwyn rheoli a monitro cyflenwyr yn fwy effeithiol.

Contractio

Mae Prifysgol Abertawe wedi diweddaru ein hamodau a thelerau contract safonol i gynnwys cymalau sy'n ymwneud ag atal caethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi.

Polisi Chwythu’r Chwiban (Datgelu er Budd y Cyhoedd)

Mae gan y Brifysgol bolisi a gweithdrefnau Chwythu'r Chwiban (Datgelu er Lles y Cyhoedd) i alluogi staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o'r Brifysgol i godi pryderon sydd er lles y cyhoedd mewn perthynas â honiadau o dwyll, camymarfer, amhriodoldeb, ymddygiad anfoesegol neu ymddygiad amhriodol. Mae'r polisi a'r gweithdrefnau'n sicrhau bod pryderon yn cael eu trin mewn modd cadarn a theg, ac nad yw aelodau sy'n codi pryderon o'r fath yn destun erledigaeth. Cafodd y polisi ei ddiwygio ym mis Tachwedd 2021 ac mae bellach yn cynnwys darpariaeth i staff y Brifysgol roi gwybod am bryderon ynghylch troseddau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yng nghadwyn gyflenwi'r Brifysgol. Gellir gweld polisi Chwythu'r Chwiban y Brifysgol yma: Chwythu'r Chwiban - Prifysgol Abertawe

Llywodraethu a Pholisïau Perthnasol

Mae'r polisi hwn wrth wraidd ein gweithgareddau caffael a chafodd ei ddatblygu ar y cyd gan y timau Caffael a Cynaliadwyedd.

 

Dyletswydd i Hysbysu

Ers 1 Tachwedd 2015, mae gan awdurdodau cyhoeddus penodol ddyletswydd i hysbysu'r Swyddfa Gartref am unrhyw unigolyn maent yn dod ar ei draws yng Nghymru a Lloegr yr amheuir ei fod yn ddioddefwr caethwasiaeth neu fasnachu pobl. Er nad yw'r Brifysgol wedi'i rhestru fel awdurdod cyhoeddus perthnasol yn y cyd-destun hwn, anogir sefydliadau eraill, gan gynnwys cyrff anllywodraethol, i gyflwyno hysbysiad os ydynt yn ymwybodol o unigolyn a allai fod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern nad yw'n dymuno bod yn rhan o'r mecanwaith cyfeirio cenedlaethol (NEM). Os tybir bod unigolyn mewn perygl dybryd o niwed sylweddol, ffoniwch 999.

Ceir taflenni ffeithiau a phoster sy'n esbonio beth mae angen i chi ei wneud os ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi bod yn ddioddefwr Caethwasiaeth Fodern:

Caethwasiaeth Fodern - Poster Dyletswydd i Hysbysu:

Caethwasiaeth Fodern - Taflen Ffeithiau Dyletswydd i Hysbysu:

Camau pellach ar gyfer 2025/26

Yn ystod 2025/26, byddwn yn parhau i ddatblygu camau gweithredu i sicrhau na cheir caethwasiaeth a masnachu pobl yn unrhyw ran o'n busnes na'n cadwyni cyflenwi. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynnwys:

  • Cydweithio ag awdurdodau eraill sy'n contractio ac asiantaethau perthnasol er mwyn rhannu gwybodaeth am gadwyn gyflenwi Prifysgol Abertawe a monitro unrhyw risgiau neu faterion perthnasol ar draws categorïau.
  • Parhau i reoli contractau a chyflenwyr i sicrhau bod disgwyliadau Prifysgol Abertawe o ran ymddygiadau cyflenwyr yn cael eu cyfleu ar draws pob lefel haen.
  • Monitro a gwella'n barhaus wiriadau diwydrwydd dyladwy ar adeg sefydlu cyflenwyr er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ddigonol ei chasglu ac y caiff disgwyliadau eu pennu ynghylch safbwynt Prifysgol Abertawe ar gaethwasiaeth fodern.
  • Parhau i sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn rhan o gymwyseddau staff ar gyfer rolau perthnasol.

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddatblygu dealltwriaeth ac effeithiolrwydd yn y maes hwn ymhellach, â'r nod o wella tryloywder yn ein cadwyni cyflenwi a gweithredu mewn modd cyfrifol tuag at y bobl sy'n gweithio ynddynt. Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i asesu meysydd risg allweddol yn ein portffolio o wariant ac i ddatblygu strategaethau i liniaru unrhyw risg bosib.

Cymeradwywyd y Datganiad hwn ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl gan yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor, ar 4 Mawrth, 2026.