Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi ddyletswydd i adrodd am amheuaeth o gam-drin plentyn neu oedolyn mewn perygl (p’un a yw’n aelod o gymuned y Brifysgol ai peidio) os cyflwynir y pryderon hyn i’r Brifysgol.

Mae’r weithdrefn ar gyfer adrodd am bryderon a/neu honiadau fel a ganlyn:

Os ydych yn meddwl bod plentyn neu oedolyn mewn perygl sy'n gysylltiedig â chymuned y Brifysgol mewn perygl dybryd,  cysylltwch â'r Gwasanaethau Brys a Diogelwch y Brifysgol.  

Os ydych yn poeni am blentyn neu oedolyn mewn perygl sy'n gysylltiedig â chymuned y Brifysgol neu'n poeni bod rhywun sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yn niweidio plentyn neu oedolyn sydd mewn perygl, dylech: 

  • Wneud nodyn gofalus o’ch pryderon, fel nad ydych yn anghofio dim. Cyfeirio at y canllawiau Ymarferiad Diogelu am gymorth ychwanegol  
  • cwblhau’r ffurflen ar-lein (gallwch ofyn am gyngor eich rheolwr llinell) 
  • Dweud wrth Swyddog Diogelu Dynodedig eich cyfadran neu’ch adran.