Mae Fforwm Ymgysylltu ar y Cyd y Cyngor (CJEF), a sefydlwyd yn 2023, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r Undebau Llafur godi materion ag aelodau'r Cyngor cyn cyfarfodydd y Cyngor. Nid corff gwneud penderfyniadau na chorff negodi na rhan o system fargeinio ar y cyd ffurfiol yw'r Fforwm. Bydd y CJEF yn galluogi aelodau lleyg Cyngor y Brifysgol i ymgysylltu'n effeithiol ag Undebau Llafur y Campws ar bob agwedd ar gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Cyngor. Bydd hefyd yn darparu fforwm i drafod materion strategol allweddol sy'n effeithio ar staff (megis gwybodaeth i'w rhannu yn y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi (JCNC) ag Undebau'r Campws) i alluogi cynrychiolwyr i gyflwyno barn eu haelodau ar faterion cyn i'r Cyngor wneud penderfyniadau. Fel rheol dylai'r Fforwm gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a gellir galw cyfarfodydd arbennig gan y Cadeirydd neu ar gais yr Undebau Llafur.
Cylch gorchwyl
Cyfansoddiad | Aelodaeth |
---|---|
Cadeirydd y Cyngor (Cadeirydd) | Mr Goi Ashmore |
Aelod Lleyg Ychwanegol o'r Cyngor | Yr Athro Edward David |
Aelod Lleyg Ychwanegol o'r Cyngor | Yr Athro Kathryn Monk |
Aelod Undeb Llafur UCU | Estelle Hart |
Aelod Undeb Llafur UNSAIN | Martyn Sullivan |
Aelod Undeb Llafur UNITE | Erich Talbot |
Papurau Dyddiad Allan |
Dyddiad y Cyfarfod |
Amser y Cyfarfod |
---|---|---|
19/09/2024 | 26/09/2024 | 2:30pm |
11/11/2024 | 18/11/2024 | 10:00am |
27/02/2025 | 06/03/2025 | 2:30pm |
19/06/2025 | 26/06/2025 | 2:30pm |