Mae Prifysgol Abertawe yn pontio dau gampws arobryn ar naill ben glannau Abertawe. Lleolir Campws Parc Singleton mewn parcdir aeddfed a gerddi botanegol, sydd â golygfa traeth Bae Abertawe. Adeiladwyd Campws y Bae ar y traeth ar ochr ddwyreiniol Abertawe.
Mae ein campws deuol amlddiwylliannol yn cynnig cyfleoedd o bob math i fyfyrwyr, staff a'r gymuned, o fewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol sy'n nodweddiadol o "brofiad Abertawe".