Hayley Baker, Rheolwr Perfformiad Nofio
Hayley sy'n cefnogi ac yn cydgysylltu rhaglenni perfformiad nofio dynion a merched Prifysgol Abertawe. Mae Hayley yn helpu i ddatblygu a chyflwyno fframwaith a chynllun gweithredu perfformiad nofio â ffocws strategol, gan adlewyrchu safonau ac uchelgeisiau clwb nofio proffesiynol. Mae hi hefyd yn sicrhau bod llwybr perfformiad yn cael ei greu sy'n denu, yn datblygu ac yn cadw nofwyr talentog, gan gefnogi gyrfa ddeuol, llwybr i nofwyr o weithgareddau nofio yn y brifysgol i raglenni nofio perfformiad uchel a rhyngwladol. Mae gan Hayley gefndir helaeth ym maes nofio, mae'n gyn-fedalydd Prydeinig cenedlaethol ac yn hyfforddwr ASA Lefel 4. Cafodd Hayley ei dewis fel rhan o'r staff hyfforddi ar gyfer sawl tîm yn cynrychioli Cymru a Phrydain ond yn bwysicach na hynny, cafodd ei dewis i fod yn un o hyfforddwyr perfformiad nofio British Swimming ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2022. Mae arddull hyfforddi unigryw a chyffrous Hayley wedi'i chynllunio nid yn unig i ddatblygu nofwyr o ansawdd uchel sy'n meddu ar dechnegau a sgiliau ardderchog o ran eu datblygu ar gyfer y dyfodol, ond hefyd i helpu i ddatblygu sgiliau bywyd a chynhyrchu pobl ifanc gytbwys.
Adam Baker, Arweinydd Perfformiad Uchel Nofio Cymru
Penodwyd Adam yn Hyfforddwr Arweiniol yng Nghanolfan Perfformiad Uchel Genedlaethol Nofio Cymru yn 2015. Cyn hynny, bu'n Brif Hyfforddwr yn adran Campau Dŵr Dinas Abertawe (Nofio Abertawe yn flaenorol) am wyth mlynedd, cyn ymuno â Nofio Cymru fel Hyfforddwr Perfformiad Uchel Cenedlaethol yn 2013.
Mae gan Adam arbenigedd hyfforddi eithriadol ar bob lefel, o berfformiad Iau i Uwch, ac mae wedi hyfforddi nofwyr i'w dethol ar gyfer Gwyliau Olympaidd Ewropeaidd i Bobl Ifanc; Pencampwriaethau Iau Ewropeaidd; y tri digwyddiad Gemau'r Gymanwlad diwethaf, lle cafodd ei ddewis fel aelod o'r tîm hyfforddi; Pencampwriaethau Ewropeaidd a Phencampwriaethau'r Byd yn y pwll a'r Digwyddiad Dŵr Agored; a'r Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020. Llwyddodd rhai o'r nofwyr a hyfforddwyd ganddo i ennill medalau yn y digwyddiadau hynny. Eleni, dewiswyd Adam fel un o hyfforddwyr Tîm Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Budapest ac un o hyfforddwyr Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.
___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Staff Hyfforddi
- Andy Horsfall-Turner, Prif Bennaeth Cynorthwyol
- Stuart Macnarry, Hyfforddwr Cynorthwyol, Perfformiad Uchel Nofio Cymru
- Kyle Job, Hyfforddwr Perfformiad Para
- Niamh Jones, Hyfforddwr Datblygu
Staff Cymorth
- Gareth Beer, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
- Ross Endersby, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Cynorthwyol
- Spencer Fuge, Nofio Cymru
- Helen Parrott, Arweinydd Nofio Cymru, Gwyddor Chwaraeon
- Ant Carter, Ffisio
- Steve Mellalieu, Seicoleg
- Alys Murray-Gourlay, Maeth (athletwyr elît Chwaraeon Cymru yn unig)