Yn Chwaraeon Abertawe, rydym yn cynnig rhaglenni perfformiad rygbi i ddynion a nofio.
Rydym yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol profiadol a hynod gymwysedig i reoli a chyflwyno ein rhaglenni perfformiad, sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant a chymorth dwys er mwyn helpu ein hathletwyr gorau i wella eu perfformiad yn barhaus a gwireddu eu llawn botensial.
Rydym yn meithrin ac yn datblygu ein hathletwyr mwyaf talentog drwy becynnau ysgoloriaeth cynhwysfawr wedi'u cynllunio i helpu ein hysgolorion chwaraeon i ragori'n academaidd, yn ogystal ag yn y chwaraeon a ddewiswyd ganddynt.
Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu mwy am ein pecynnau cymorth a'n chwaraeon perfformiad cyfredol.