Mae Cyfarwyddiaeth yr Academïau yn cynnwys tri o Academïau'r Brifysgol, gyda chylch gorchwyl Addysg yn eu meysydd arbenigedd o arweinyddiaeth strategol, arbenigedd a chyflawniad gweithredol:

Mae'r Gyfarwyddiaeth wedi'i harwain gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Addysg (Academïau).

Mae gan bob Academi strwythur arweinyddiaeth, ac mae gan yr Academïau mwy dimau unigryw sydd wedi'u nodi ar eu tudalennau gwe sefydliadol unigol, siartiau a datganiadau gwasanaeth am eu cymuned sefydliadol ehangach a'u Cyfadrannau.

Cenhadaeth graidd pob Academi yw –

  • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA): cyflawni canlyniadau cyflogaeth proffesiynol i raddedigion, drwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd datblygu cyflogadwyedd a chyflogaeth i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Abertawe;
  • Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT): llywio a chefnogi datblygiad addysgu fel bod Abertawe yn parhau i gael ei chydnabod am ei hamgylchedd dysgu ac addysgu rhagorol, gan ysgogi effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr;
  • Academi Llwyddiant Academaidd Abertawe (SAAS): cefnogi llwyddiant academaidd pob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, drwy alluogi dysgu annibynnol, gwella pontio i’r Brifysgol, drwyddi ac ohoni, a chael effaith gadarnhaol ar brofiad a chanlyniadau myfyrwyr.
Cysylltwch â ni