Bydd y datblygiad arfaethedig ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti ar Gampws Singleton y Brifysgol - ynghyd â datblygiadau yn Ysbyty Treforys gerllaw - yn dod ag arloesedd ynghyd ac yn hyrwyddo arloesedd mewn chwaraeon, iechyd a lles, a byddant yn tynnu ar arbenigedd o rwydwaith y Brifysgol o bartneriaid academaidd, iechyd a diwydiannol cydweithredol.

Ariennir y datblygiad drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Abertawe ac ARCH, Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd.

Bydd y datblygiad yn helpu'r Brifysgol i feithrin, tyfu ac ehangu cydweithrediad rhwng partneriaid iechyd a chwaraeon i ddatblygu cysyniadau arloesol a meithrin cydweithrediad. Bydd hyn yn ei dro'n creu cyfleoedd busnes gyda'r nod cyffredin o wella perfformiad pobl, iechyd y boblogaeth, creu swyddi a thwf economaidd i’r rhanbarth ehangach, a dyrchafu'r dirwedd chwaraeon drwy gyfleusterau o safon fyd-eang.

Bydd hyn yn ategu dyhead Prifysgol Abertawe i gael ei chydnabod fel y brifysgol chwaraeon fwyaf gweithgar a llwyddiannus yng Nghymru, ac yn galluogi datblygiad dyfeisiau arloesol ym meysydd gofal iechyd a meddygaeth, gan ddefnyddio ymchwil o'r radd flaenaf yn y gwyddorau bywyd a thechnoleg i hybu twf economaidd a dyrchafu'r dirwedd chwaraeon drwy gyfleusterau o safon fyd-eang.

CGI Image of NIISH
CGI Image of NIISH
CGI of NIISH