Galwad Digwyddiad Gosod Agenda 2023/24
Beth rydym yn chwilio amdano:
Mae gan gynigion ar gyfer digwyddiadau preswyl 2-3 diwrnod sy'n cynnwys cyfranogwyr gwadd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol (25-30 o fynychwyr) strategaeth glir ar gyfer cyfranogiad cynhwysol ac amrywiol. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu cyfranogiad drwy gyfryngau digidol pan fydd hynny'n briodol. Dylai eich cynnig ddangos yn glir pam mae'r pwnc yn un gwreiddiol, amserol ac arwyddocaol, yn ogystal â sut y byddwch yn creu agenda ymchwil gyd-ddisgyblaethol gymhellol i weithredu arni yn y dyfodol.
Cymhwystra:
Mae'n rhaid i'r digwyddiad gael ei gyd-arwain gan gydweithwyr o ddwy gyfadran, o leiaf.
Ni ddylai cyd-arweinydd fod wedi ennill Dyfarniad Pennu Agenda yn ystod y ddwy rownd ddiwethaf.
Mae croeso i gydweithwyr gyrfa gynnar arwain ceisiadau, ond os ydych yn ymchwilydd PhD Ôl-ddoethurol, gofynnwn ichi gynnwys aelod o staff parhaol yn eich tîm arwain.
Mae'r galwad ar agor i gydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol.
Meini Prawf Asesu:
- Natur wreiddiol, anturus ac uchelgeisiol y pwnc
- Statws ymchwil ac ysgolheictod y gwahoddedigion arfaethedig
- Natur gyd-ddisgyblaethol y digwyddiad
- Cyd-fynd â strategaethau cyllido UKRI - sut y gallai'r digwyddiad hwn arwain at brosiect a gyllidir yn allanol?
- Cyd-fynd â strategaethau ymchwil y Brifysgol a'r Cyfadrannau.
- Ffurf ac allbynanu'r gweithdy - rydym yn annog gweithgareddau cyfarfod creadigol a llawn dychymyg, yn ogystal ag allbynnau clir (gan gynnwys yr Adroddiad Digwyddiad Pennu Agenda gorfodol).
- Cynwysoldeb ac amrywiaeth yn y digwyddiad
- Gwerth am arian
- Cyd-fynd â thema
Asesu:
Bydd y cynigion yn cael eu hasesu gan o leiaf 3 adolygydd o wahanol rannau o'r Brifysgol a bydd penderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud ar sail yr adroddiadau hyn yn bennaf, ynghyd ag unrhyw ystyriaethau strategol sy'n bwysig ym marn y panel.
Dyddiadau Pwysig:
Galwad yn agor: 18 Hydref 2023
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Rhagfyr 2023
Penderfyniadau: 15 Rhagfyr 2023
Bydd y Digwyddiadau Pennu Agenda yn dechrau yn 2024 - dechrau Gorffennaf 2024 (rhaid i bob gwariant gael ei gwblhau'n derfynol erbyn dechrau Gorffennaf).
Ceisiadau Llwyddiannus:
Yn ogystal â threfnu'r digwyddiad, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus ysgrifennu papur gwyn cryno yn disgrifio'r agenda a luniwyd; bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan SAUM.
Cais am Gynigion SAUM 2023/24
Cyflwyniad
SAUM yw Sefydliad Astudiaethau Uwch Prifysgol Abertawe. Rydyn ni’n fudiad ledled y Brifysgol sy’n llawn pwrpas, ac sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsddisgyblaethol o’r ansawdd uchaf sy’n gwneud gwelliannau trawsnewidiol a phendant i fywyd a dealltwriaeth.
Cafodd ei lansio gan Brif Weinidog Cymru ym mis Chwefror 2021, ac rydym nawr yn gofyn am gynigion ar gyfer ein trydydd rownd o fuddsoddiad, gyda gwaith wedi’i ariannu yn dechrau ym mis Awst 2023.
Mae’r Alwad eleni yn eich gwahodd i fynd i’r afael â thema: “O’r moroedd meirwon, gyda gwynt yn yr hwyliau”. Mae’r byd yn ymddangos yn “sownd” o ran llawer o faterion, boed yn ymateb i newid yn yr hinsawdd, yr “argyfwng gwirionedd” (a sut mae deallusrwydd artiffisial yn hybu hyn) neu ofal iechyd y gellir ei ehangu. Mae yna hefyd, wrth gwrs, feysydd deallusol sydd hefyd wedi cael eu hunain mewn dyfroedd marwaidd ac sydd angen ysgogiad newydd. Rydyn ni’n chwilio am gynigion a fydd yn symud pethau yn eu blaenau gydag arddeliad!
Dylai cynigion roi sylw pellach i un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Dyfodol Cydnerth
- Dyfodol Teg
- Dyfodol Cynaliadwy
- Dyfodol Diwydiannol Arloesol
- Dyfodol y De Fyd-eang a'r Gogledd Fyd-eang
Fodd bynnag, ni ddylai’r rhestr hon eich cyfyngu. Os yw eich cynnig yn ymateb i bwrpas craidd yr Alwad hon i ddatblygu llwybrau ac egni ymchwil newydd, yn drawsddisgyblaethol o ran natur ac yn uchelgeisiol ac yn anturus, gwnewch gais.
Am beth rydyn ni’n chwilio
Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn tîm rhyngddisgyblaethol sefydledig ar eich pwnc arfaethedig, mae’n debyg nad yw’r alwad hon yn addas i chi. Yn hytrach, rydyn ni’n chwilio am dimau sy’n dod i’r amlwg ar draws y Brifysgol a thu hwnt sydd eisiau cyfle i archwilio maes a dull gweithredu arloesol iawn. Rhaid i dimau gynnwys aelodau o fwy nag un ddisgyblaeth a gyda chyd-arweinyddiaeth o ddwy Gyfadran o leiaf. Bydd y dull gweithredu’n drawsddisgyblaethol (lle bydd dulliau a meddwl cwbl newydd yn esblygu wrth i ddisgyblaethau sefydledig ddod at ei gilydd) a bydd y meddylfryd yn seiliedig ar risg uchel, canlyniadau uchel.
Dylai cynigion arwain at allbynnau penodol a gwerthfawr yn ystod cyfnod y dyfarniad ac arwain at bosibiliadau allanol ar gyfer gwneud cais am grant.
Pwy all ymgeisio?
Gall pob aelod o’n cymuned, o lefel Ymchwilydd PhD ymlaen, fod yn rhan o gynnig. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan gydweithwyr yn gynnar yn eu gyrfa yn arbennig. Rhaid i aelod o staff y mae ei gontract yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y dyfarniad fod yn rhan o’r tîm cynnig. Er bydd y tîm yn cael ei arwain gan gydweithiwr yn Abertawe, gall gynnwys cydweithwyr mewn prifysgolion eraill yn fyd-eang. Rhaid i holl aelodau’r tîm cynnig drafod eu bwriad arfaethedig gyda’u rheolwr llinell cyn ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod y gweithgaredd yn cefnogi gwaith ehangach eu Cyfadran a’r Brifysgol.
Os ydych chi wedi derbyn prosiect Basecamp yn y gorffennol yn ystod Galwadau 2021 neu 2022, nid ydych chi’n gymwys i wneud cais am Basecamp 2023. Os ydych chi’n dal dyfarniad Uwchgynhadledd 2021 neu 2022, nid ydych chi’n gymwys i wneud cais am Uwchgynhadledd 2023.
Categorïau cyllid
Prosiectau Basecamp: bydd y gweithgareddau 1 flwyddyn hyn (Awst 1 2023-diwedd Gorffennaf 2024), yn cynnal ymchwil ar wib, gan gynhyrchu allbynnau clir, creu galluedd, gwneud gwaith dichonolrwydd ar gyfer ceisiadau am grantiau allanol a/neu Brosiectau Uwchgynhadledd yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl ariannu *TBD* o brosiectau Basecamp gydag uchafswm o hyd at £5,000 am bob Basecamp.
Prosiectau Uwchgynhadledd: mae’r gweithgareddau 2 flynedd hyn (Awst 1 2023-diwedd Gorffennaf 2025), yn ceisio “plannu baner” ar “gopa” ddeallusol a dylanwadol newydd iawn”. Hynny yw, byddant yn gwneud gwaith ymchwil sylweddol gydag allbynnau pwysig, gan ddiffinio agendâu a chreu gweledigaethau y bydd eraill yn ceisio eu dilyn. Disgwylir i’r prosiectau arwain at o leiaf un cais grant allanol strategol. Rydym yn disgwyl ariannu hyd at *TBD* o brosiectau Uwchgynhadledd gydag uchafswm o £15,000 y flwyddyn i bob Uwchgynhadledd (cyfanswm o £30,000)
Cymrodoriaethau Ymweld Rhyngwladol: rydym yn croesawu cynigion ar gyfer Cymrodoriaethau mewnol. Byddai disgwyl i ymwelwyr ag Abertawe ymrwymo tua mis yn Abertawe a dylai cynigion ddangos sut y byddant yn helpu i ddatblygu a chryfhau agendâu trawsddisgyblaethol. Bydd disgwyl i Gymrodyr roi o leiaf un Ddarlith SAUM gyhoeddus (sy’n agored i gynulleidfa gyffredinol) a rhyngweithio â Phrifysgolion ledled Cymru. Rydym yn disgwyl ariannu hyd at 6 Chymrawd hyd at £5,000 am bob Cymrodoriaeth (teithio a chynhaliaeth).
Beth allwn ni ei ariannu
Gall prosiectau Basecamp ac Uwchgynhadledd ariannu amser/cyflogau, defnyddiau traul, teithio a chynhaliaeth ôl-ddoethuriaeth.
Sut byddwn yn asesu eich cais
Bydd cynigion yn cael eu hasesu yn unol â phrotocolau tebyg i UKRI. Bydd yr holl gynigion yn cael eu hadolygu gan o leiaf 3 chydweithiwr nad ydynt yn gysylltiedig o Bwyllgor Llywio SAUM, Entrepreneuriaid Ymchwil SAUM a Chymrodyr SAUM. Bydd yr adolygiadau hyn yn cael eu defnyddio fel sail i gyfarfodydd panel a fydd yn rhoi trefn ar bob categori cynnig. Bydd cynigion sy’n cyrraedd y trothwy ansawdd yn cael eu hariannu nes bydd yr adnoddau’n cael eu dyrannu.
Bydd y meini prawf asesu yn cynnwys: 1) Ansawdd (Newydd-deb, Antur, Uchelgais, Natur Trawsnewidiol); 2) Addas i’r Galw (yn benodol ac yn eang gan gynnwys y tebygolrwydd o dderbyn cyllid grant allanol yn y dyfodol); 3) Tîm; a, 4) Adnoddau a Rheolaeth. Mae meini prawf (1) a (2) yn hanfodol ac yn feini prawf sylfaenol tra bo (3) a (4) yn bwysig ac yn eilradd eu natur.
Os byddwch yn llwyddiannus
Mae SAUM yn gweithredu dull “buddsoddwr gweithredol” – byddwn yn cynnull cyfarfodydd misol o’r holl brosiectau a ariennir i annog a meithrin y gwaith ac i rannu arferion gorau.
Dyddiadau Pwysig
Lansio’r Alwad Ebrill 18 2023
Digwyddiad Adeiladu Cynnig: 10 Mai 2023 12pm. Campws Singleton
Dyddiad Cau 22 Mehefin 2023
Canlyniadau Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2023
Prosiectau’n dechrau 1 Awst 2023
Digwyddiadau Gosod Agenda SAUM 2023
Cymhwystra:
Rhaid i’r digwyddiad gael ei gydarwain gan gydweithwyr o ddwy gyfadran fan leiaf.
Mae croeso i gydweithwyr gyrfa gynnar arwain ceisiadau; ond os ydych yn ymchwilydd PhD neu ôl-ddoethurol, a wnewch chi gynnwys aelod parhaol o staff yn eich tîm arwain.
Mae’r alwad ar agor i gydweithwyr academaidd a chydweithwyr gwasanaethau proffesiynol.
Meini Prawf Asesu:
- Newydd-deb, antur ac uchelgais y pwnc
- Statws y gwahoddedigion arfaethedig o ran ymchwil ac ysgolheictod
- Natur ryngddisgyblaethol y digwyddiad
- Sut y mae’n cyd-fynd â strategaethau cyllido UKRI – a allai’r digwyddiad hwn arwain at brosiect a ariennir yn allanol?
- Sut y mae’n cyd-fynd â strategaethau ymchwil y Brifysgol a’r Gyfadran
- Fformat a chanlyniadau’r gweithdy – rydym yn annog gweithgareddau dychmygus, creadigol a chanlyniadau clir (yn cynnwys Adroddiad Digwyddiad Pennu Agenda gorfodol).
- Cynwysoldeb ac amrywiaeth y digwyddiad
- Gwerth am arian
- Sut y mae’n ymwneud â’r thema
Galwad am Gynigion SAUM 22/23
Ar ôl mwy na dwy flynedd yn byw gyda’r pandemig yn ogystal â phryderon byd-eang mwy diweddar, mae SAUM yn chwilio am gynigion a fydd yn gwella’r ffordd rydym yn byw ac yn meddwl, gan fyfyrio ar y cyfnod anodd a ddaeth i’n rhan i gyd a dysgu ar ei sail. Er bod rhai’n galw arnom i ddychwelyd at y “normal” neu’r “normal newydd”, rydym yn chwilio am waith a fydd yn diffinio’r “anghyffredin newydd” – hynny yw, byd a fydd yn mynd i’r afael o ddifrif â’r heriau, y problemau a’r cyfleoedd y tynnwyd sylw atynt yn ystod y 24+ mis diwethaf.
Dylai’r cynigion ymdrin ag un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Dyfodol Cadarn
- Dyfodol Teg
- Dyfodol Cynaliadwy
- Dyfodol Diwydiannol Arloesol
- Dyfodol y De Byd-eang a’r Gogledd Byd-eang
Fodd bynnag, ni ddylai hyn gyfyngu arnoch. Os bydd eich cynnig yn ymateb i ddiben creiddiol yr alwad hon i ddod o hyd i’r “anghyffredin newydd”, ac os bydd yn drawsddisgyblaethol ei natur, yn uchelgeisiol ac yn fentrus, cofiwch ymgeisio.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Os ydych eisoes yn gweithio ar eich cynnig mewn tîm rhyngddisgyblaethol sydd wedi ennill ei blwyf, yn ôl pob tebyg nid yw’r alwad hon yn addas i chi.
Yn hytrach, rydym yn chwilio am dimau sydd wrthi’n dod i’r amlwg ledled y Brifysgol a thu hwnt ac sydd eisiau cyfle i archwilio maes a dull hynod addawol mewn modd ystwyth. Bydd y timau’n cynnwys aelodau o fwy nag un ddisgyblaeth ac o fwy nag un Gyfadran. Bydd y dull yn drawsddisgyblaethol (lle bydd dulliau a syniadau hollol newydd yn esblygu trwy ddwyn disgyblaethau sefydledig ynghyd), gan anelu at risg uchel a gwobr fawr.
Dylai’r cynigion arwain at allbynnau penodol a gwerthfawr yn ystod cyfnod amser y dyfarniad, ynghyd ag arwain at bosibiliadau i ymgeisio am grantiau allanol.
Pwy all ymgeisio?
Gall holl aelodau ein cymuned, o lefel Ymchwilwyr PhD ymlaen, gymryd rhan yn y cynigion. Yn arbennig, rydym yn annog ceisiadau gan gydweithwyr sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa. Rhaid i’r tîm gynnwys aelod o staff y bydd ei gontract yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y dyfarniad. Er y bydd y tîm yn cael ei arwain gan gydweithiwr o Abertawe, gall gynnwys cydweithwyr o brifysgolion eraill trwy’r byd. Rhaid i holl aelodau’r tîm drafod y bwriad sydd wrth wraidd eu cynnig gyda’u rheolwr llinell cyn cyflwyno’r cais er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y gweithgarwch yn ategu gwaith ehangach eu Cyfadran a’r Brifysgol.
Categorïau cyllido
Prosiectau Sylfaenol: bydd y gweithgareddau hyn yn para blwyddyn (1 Awst 2022 – diwedd Gorffennaf 2023), a byddant yn mynd i’r afael â gwaith ymchwil ar garlam, gan gynhyrchu allbynnau clir, meithrin capasiti a chynnal gwaith dichonoldeb ar gyfer ceisiadau am grantiau allanol a/neu Uwch-brosiectau. Disgwyliwn ariannu chwech o Brosiectau Sylfaenol yn yr Alwad hon, gan roi hyd at £5,000 i bob prosiect.
Uwch-brosiectau: bydd y prosiectau hyn yn para dwy flynedd (1 Awst 2022 – diwedd Gorffennaf 2024), a byddant yn anelu at “osod baner” ar “gopa” deallusol hynod newydd. Hynny yw, byddant yn ceisio mynd i’r afael â gwaith ymchwil helaeth a fydd yn esgor ar allbynnau pwysig, gan ddiffinio agendâu a chreu gweledigaethau y bydd eraill yn ceisio’u dilyn. Disgwylir i’r prosiectau arwain at o leiaf un cais am grant allanol strategol. Disgwyliwn ariannu hyd at bump o Uwch-brosiectau yn yr alwad hon, gan roi hyd at £15,000 y flwyddyn i bob prosiect (sef cyfanswm o £30,000).
Cymrodoriaethau i Ymwelwyr Rhyngwladol: rydym yn croesawu cynigion ar gyfer Cymrodoriaethau mewnol ac allanol. Disgwylir i’r rhai a fydd yn ymweld ag Abertawe ymrwymo i aros am oddeutu mis yn Abertawe a dylai’r cynigion ddangos sut y byddant yn helpu i greu a chryfhau agendâu trawsddisgyblaethol. Disgwylir i’r Cymrodyr gyflwyno o leiaf un ddarlith SAUM gyhoeddus (a fydd yn addas i gynulleidfa gyffredinol) a rhyngweithio â Phrifysgolion ledled Cymru. Dylai cynigion ar gyfer Cymrodoriaethau Allanol ddangos sut y bydd y gweithgarwch yn arwain at gydweithio newydd ar gyfer y Cymrawd a’r Brifysgol. Gall Cymrodyr Allanol dreulio hyd at fis dramor (yn amodol ar gael y gymeradwyaeth arferol ar gyfer teithio). Bydd disgwyl i Gymrodyr Allanol gyflwyno Darlith SAUM Gyhoeddus ar ôl iddynt ddychwelyd. Disgwyliwn ariannu hyd at chwech o Gymrodyr (pedwar Cymrawd mewnol, dau Gymrawd allanol), gan roi hyd at £5,000 i bob Cymrodoriaeth (teithio a chynhaliaeth).
Yr hyn y gallwn ei ariannu
Bydd modd i Brosiectau Sylfaenol ac Uwch-brosiectau ariannu amser/cyflogau ôl-ddoethuriaeth, defnyddiau traul, teithio a chynhaliaeth. Ni fyddwn yn ariannu amser ymchwilio na gorbenion. Gellir ariannu teithio a chynhaliaeth y Cymrodyr.
Sut y byddwn yn asesu eich cais
Bydd y cynigion yn cael eu hasesu trwy ddilyn protocolau tebyg i rai UKRI. Bydd yr holl gynigion yn cael eu hadolygu gan o leiaf dri o gydweithwyr o Bwyllgor Llywio SAUM, Entrepreneuriaid Ymchwil SAUM a Chymrodyr SAUM (h.y. rhai heb wrthdrawiad buddiannau). Bydd yr adolygiadau hyn yn cael eu defnyddio fel sail i gyfarfodydd panel lle gosodir yr holl gynigion yn eu trefn. Bydd cynigion sy’n cyrraedd y trothwy ansawdd yn cael eu hariannu hyd nes y caiff yr adnoddau eu dyrannu.
Bydd y meini prawf asesu’n cynnwys: 1) Ansawdd (Newyddbeth, Menter, Uchelgais, Natur Weddnewidiol); 2) Cymwys i’r Alwad (penodol ac eang, yn cynnwys y tebygolrwydd o gael cyllid grant allanol yn y dyfodol); 3) Y Tîm; 4) Adnoddau a Rheoli. Mae meini prawf (1) a (2) yn hanfodol a dyma’r prif feini prawf; mae meini prawf (3) a (4) yn bwysig ac yn eilaidd eu natur.
Os byddwch yn llwyddiannus
Bydd SAUM yn rhoi dull “gweithredwr-buddsoddwr” ar waith – byddwn yn cynnal cyfarfodydd misol ar gyfer yr holl brosiectau a ariennir er mwyn annog a meithrin y gwaith a rhannu arferion gorau.
Digwyddiadau Gosod Agenda 2022
Wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae gennym gyfle da i ailfeddwl, ailddychmygu ac ail-greu; ac yn hytrach na chwilio am y 'normal newydd', ein bod yn chwilio am yr 'eithriadol newydd'. I helpu Abertawe i arwain syniadaeth o'r fath, mae gan SAUM gyllid ar gael ar gyfer hyd at dri Digwyddiad Gosod Agenda.
1. Beth rydym yn chwilio amdano:
Meithrin syniadaeth drawsddisgyblaethol ynghylch thema "Gwerthfawredd Bywyd" SAUM ar gyfer 21/22 er mwyn creu gweledigaethau risg sylweddol, gwobr sylweddol. Os nad yw eich digwyddiad yn ymwneud yn uniongyrchol â'r thema hon ond rydych yn teimlo bod eich pwnc yn un pwysig, amserol a dylanwadol, ewch ati i wneud cais!
2. Fformat y Digwyddiadau:
- 2-3 diwrnod o ran hyd;
- Yn cynnwys cyfranogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a wahoddwyd (25-30 o fynychwyr). Dylai bod gennych strategaeth glir ar gyfer cyfranogiad cynhwysol ac amrywiol; ac,
- Yn bersonol, yn Abertawe, gyda chyfleoedd i gynyddu cyfranogiad drwy ddulliau digidol, os yw hynny'n briodol.
3. Canlyniadau Disgwyliedig:
- 'Papur Gwyn' yn nodi'r agenda ymchwil a grëwyd drwy'r digwyddiad (cewch ofyn am gyllid i greu dogfen wedi'i chynllunio'n broffesiynol i'w dosbarthu).
- Timau cydweithredol yn barod i greu cynigion ymchwil yn seiliedig ar y gwaith.
4. Y Cyllid sydd ar Gael:
- Rydym yn croesawu cynigion hyd at £12K,
- Caiff y cynigion fod gan unrhyw aelod o'n cymuned, ond mae'n rhaid iddynt gynnwys aelod parhaol o staff.
- Costau cymwys: teithio, llety a chynhaliaeth ar gyfer cyfranogwyr a wahoddir; tâl cydnabyddiaeth i brif siaradw(y)r; marchnata / dosbarthu.
- Rydym yn disgwyl y byddwn yn cyllido tri digwyddiad.