Cefndir
Mae cyfathrebiadau ynglŷn â’r angen i weithredu ar yr hinsawdd yn aml yn pwysleisio canlyniadau negyddol diffyg gweithredu, megis colli rhywogaethau, trychinebau naturiol, a marwolaethau. Mae’r negeseuon hyn yn gallu peri loes a bod yn llethol, gan esgor ar ymatebion ar ffurf eco-orbryder ac eco-barlys. Mewn dangosiad diweddar o’r ffilm ddogfen “The Oil Machine” (https://www.theoilmachine.org/) ym Mhrifysgol Abertawe, mynegodd un aelod o’r gynulleidfa anobaith ac ofn ynglŷn â’r dyfodol a gofynnodd a oedd unrhyw reswm dros deimlo’n obeithiol. Bydd gan bobl amrywiaeth eang o strategaethau ar gyfer ymdopi ag emosiynau negyddol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, gyda llawer ohonynt yn ddi-fudd yn y tymor hir ac yn rhwystro gweithredu effeithiol, er enghraifft, gwadu ac ymwrthod.
Gallai cyfleu’r manteision i bobl o weithredu mewn ffyrdd mwy cynaliadwy fod yn strategaeth amgen ar gyfer hyrwyddo gweithredu ar yr hinsawdd. Yn draddodiadol, mae’r drafodaeth ynglŷn â llesiant seicolegol wedi pwysleisio’r unigolyn, gan anwybyddu effaith cymunedau ac amgylcheddau ar lesiant unigolion. Fodd bynnag, mae datblygiadau diweddar mewn gwyddor llesiant yn cynnig fframwaith newydd sy’n cadarnhau rhyng-gysylltedd a chyd-ddibyniaeth llesiant ar lefelau unigolyn, cymundod a’r blaned (Kemp & Edwards, 2022; Mead et al., 2021). Mae gwaith cychwynnol yn y gwyddorau cymdeithasol yn dechrau nodi ‘cyd-fanteision’ gweithredu ar yr hinsawdd, a cheir galwadau cynyddol am yr hyn y mae ysgolheigion wedi’i alw yn llesiant cynaliadwy, boddhad cynaliadwy, hapusrwydd cynaliadwy, llesiant ecolegol, neu hedoniaeth amgen, i nodi rhai enwau yn unig. Yn ganolog i’r holl dermau hyn y mae’r posibilrwydd y gellir cyflawni lefelau uchel o lesiant dynol trwy leihau effeithiau amgylcheddol a chynyddu gofal dros, a chyswllt â’r amgylchedd. Gallai ailosod negeseuon ar yr hinsawdd gan bwysleisio’r posibilrwydd o gael dyfodol cynaliadwy sy’n bodloni pobl, cymunedau, a’r amgylchedd ysgogi mwy o emosiynau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd megis gobaith a chymhelliant i newid, a gallai hynny ein helpu i symud y tu hwnt i “Baradocs Giddens” (Giddens, 2015), lle mae problem argyfwng yr hinsawdd yn teimlo mor fawr bod unigolion yn teimlo’n ddiymadferth.
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dydd Iau 13eg a dydd Gwener 14eg Gorffennaf 2023
Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ysgolheigion, ymarferwyr, ac ymgyrchwyr ynghyd o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys economeg, seicoleg, daearyddiaeth, y theatr, a gwyddor wleidyddol i ystyried dau brif gwestiwn: (a) beth yw rhannau hanfodol dyfodol â llesiant cynaliadwy? a (b) beth yw’r ffordd orau o gyfleu manteision dyfodol â llesiant cynaliadwy
er mwyn ysgogi gweithredu cadarnhaol ar yr hinsawdd? Yn hynny o beth, mae’r digwyddiad yn ceisio dringo allan o’r “pydew” o safbwynt negeseuon ar yr hinsawdd a osodir mewn cyd-destun negyddol a mynd “â gwynt yn yr hwyliau” tuag at ffordd arall, gadarnhaol ei naws, sy’n gweddu’n well at ysgogi gweithredu ar yr hinsawdd a gwella llesiant.