Clinig Anafiadau Personol

Mae Clinig y Gyfraith Abertawe'n falch o gynnig Clinig Cyngor ar Anafiadau Personol, a gyflwynir mewn partneriaeth â chwmni o Lundain, Hodge, Jones and Allen.

Mae Hodge Jones ac Allen yn gwmni arobryn sydd wedi bod yn helpu pobl i unioni camweddau, ymladd anghyfiawnder a delio ag amrywiaeth o faterion cyfreithiol personol ers dros 45 mlynedd. Mae eu cyfreithwyr arbenigol wedi bod wrth galon nifer o achosion pwysig y DU, gan ddiogelu hawliau a bywydau pobl yn y broses.

Bydd y Clinig Anafiadau Personol yn cynnig apwyntiadau cyngor anafiadau personol cyfrinachol 30 munud am ddim i aelodau'r cyhoedd gydag aelod o dîm Anafiadau Personol Hodge Jones & Allen. Caiff hyn ei gefnogi gan ymgynghorwyr myfyrwyr Clinig y Gyfraith Abertawe.

Law Clinic and HJA logos