Cyrhaeddodd y tîm, a oedd yn cynnwys Laurence Cooper, Kaycee Jacka, Freya Michaud, a Thomas Wood, gyda chymorth Dr Kris Stoddart, y rownd gynderfynol ac enillodd y Wobr Gwaith Tîm Gorau yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cyber 9/12.
The Swansea team was comprised of full-time and part time students studying the MA Cyber Crime and Terrorism or the Cyber Warfare and Cyber Espionage module, delivered by Dr Stoddart, as part of the MA Public Policy. Laurence and Freya are also current staff members at the University, studying alongside their work.
Mae'r modiwl Seiber-ryfela a Seiberysbïo yn edrych ar fyd cyffrous seiberysbïo a rhyfela hybrid. Mae hyn wedi'i ategu gan elfennau o ysbïo traddodiadol a chasglu cudd-wybodaeth, sy'n cwmpasu crefft ysbïo, ysbïo corfforaethol, sefydliadau dirprwyol a sefydliadau ffrynt, hacwyr, troseddwyr a gangiau troseddu cyfundrefnol.
Roedd gwybodaeth am y pynciau hyn, yn ogystal â'r rhai wedi'u cynnwys yn yr MA Seiberdroseddu a Therfysgaeth, yn rhoi'r tîm mewn sefyllfa dda i wneud yn dda yng Nghystadleuaeth Cyber 9/12. Roedd 17 tîm wedi cyrraedd y digwyddiad wyneb yn wyneb, 10 yn y rownd gynderfynol a dim ond 3 a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Wrth siarad am y profiad yn Cyber 9/12 ac am ei gradd yn Abertawe, dywedodd Freya:
"Cawsom ni adborth hynod gadarnhaol yn y gystadleuaeth - rydym ni'n falch iawn o'n hunain ac yn ddiolchgar iawn i Kris am y cymorth a'r arbenigedd.
Rydw i'n astudio ar sail ran-amser gan fod gen i swydd amser llawn yn Abertawe eisoes. Mae'r Brifysgol wedi bod yn hynod gefnogol ac yn gymwynasgar, gan ganiatáu i mi weithio'n hyblyg o amgylch fy astudiaethau, yn ogystal â'm cefnogi gyda bwrsariaeth i staff er mwyn i mi astudio am radd Meistr.
Mae astudio cwrs MA Polisi Cyhoeddus yn berthnasol iawn i'm gwaith yn Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru oherwydd bod llawer iawn o waith y Labordy a CYTREC yn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.”