Mae Laurence Cooper, Kaycee Jacka, Freya Michaud a Thomas Wood wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Seiber 9/12 2023.

Mae Her Strategaeth Seiber 9/12 yn gystadleuaeth polisi a strategaeth seiber lle mae myfyrwyr yn cystadlu i ddatblygu polisïau sy'n mynd i'r afael â thrychineb seiber ffug.

Yr Her yw'r unig gystadleuaeth seiber fyd-eang sydd wedi'i dylunio i ddatblygu sgiliau seiber trwy efelychu argyfwng a dadansoddi polisi a'r nod yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch.

I gyrraedd y rowndiau terfynol, bu'n rhaid i'r tîm ateb sawl cwestiwn allweddol, er mwyn dangos eu cefndir a'u profiad. Gwnaeth yr atebion hyn helpu i arddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y meysydd sy'n herio pencampwyr, gan gynnwys dangos arbenigedd mewn technoleg, strategaeth a pholisi.

Mae Laurence, Kaycee a Thomas i gyd yn fyfyrwyr ar y cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, felly bydd y sgiliau allweddol a'r profiad sy'n deillio o'r gystadleuaeth yn hollbwysig i'w gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae Freya yn astudio am MA mewn Polisi Cyhoeddus yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar ôl dilyn y modiwl ‘Seiber-ryfela ac Ysbïo Seiber’ a gynhelir gan hyfforddwr y tîm, Dr Kristan Stoddart, sy'n Athro Cysylltiol mewn Seiberfygythiadau.

Eleni, bydd rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn dychwelyd i Dŵr BT yn Llundain am y tro cyntaf ers 2020, a bydd y tîm o fyfyrwyr yn cael eu harwain gan Dr Stoddart, sydd wedi eu cefnogi drwy gydol y broses.

Dyma sylwadau'r myfyrwyr am eu profiadau:

Meddai Laurence:

“Mae'n anrhydedd fy mod i wedi cael fy newis i fod yn rhan o'r tîm i gynrychioli Abertawe yn Her Seiber 9/12. Dyma gyfle gwych i gael profiad cenedlaethol a dysgu mwy am fyd polisi seiber. Bydd Seiber 9/12 hefyd yn fy helpu i gwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, cael profiad o weithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol a meithrin sgiliau allweddol ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth.

“Ar ôl astudio am radd israddedig yn y Gyfraith a chael profiad o weithio ym maes y gyfraith a pholisi, rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau eraill fy nhîm o gefndiroedd gwahanol gan y bydd yn helpu i feithrin fy sgiliau fy hun. Bydd hwn yn brofiad gwych a bydd yn fy helpu i ddechrau gyrfa yn gweithio ym maes polisi seiber.”

Meddai Kaycee:

“Yn ogystal â'm hastudiaethau, fi yw Is-swyddog Uwch Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru ac rwy'n gobeithio dilyn gyrfa fel swyddog parhaol yn y Corfflu Signalau Brenhinol ar ôl i mi gwblhau fy astudiaethau.

“Rwy'n gobeithio y bydd y sgiliau datrys problemau rwyf wedi eu meithrin fel milwr wrth gefn yn y fyddin yn cynorthwyo'r tîm wrth i ni ymdrin â'n senario. Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle unigryw ac anhygoel sy'n ein galluogi i ymdrin ag argyfwng ffug ond realistig wrth iddo ddatblygu, gan gael adborth gan ymarferwyr proffesiynol ar yr un pryd. Mae hi wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o dîm o bobl mor uchel eu cymhelliant a'r gobaith yw y bydd ein cefndiroedd academaidd amrywiol yn rhoi mantais i ni wrth fynd i'r afael â’r gystadleuaeth hon yn y rowndiau terfynol yn Nhŵr BT fis nesaf.”

Meddai Freya:

“Rwyf wrth fy modd bod yn rhan o dîm mor wych o Brifysgol Abertawe sy'n cystadlu yn rowndiau terfynol Her Strategaeth Seiber 9/12 y DU!  Rwy'n edrych ymlaen at ymgolli mewn senario seiberddiogelwch realistig er mwyn cael blas dwys iawn ar argyfwng seiberddiogelwch gwirioneddol.

“Bydd y profiad hwn yn hynod werthfawr i'm gyrfa yn y dyfodol a'm hastudiaethau presennol. Rwy'n ymhyfrydu yn y cyfle unigryw hwn i brofi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd wedi cael eu meithrin yn ystod y radd Meistr hon a'm gyrfa hyd yn hyn. Mae ein tîm yn dod o gefndiroedd amrywiol ac yn meddu ar gryfderau amrywiol, ac rydyn ni'n hynod falch o gael cyfle i arddangos y rhain ymhellach yn y rowndiau terfynol. Gyda'n hyfforddwr ardderchog, Dr Kris Stoddart, a'n hamrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad, rydyn ni'n awyddus i fynd i'r afael â beth bynnag sy'n cael ei daflu aton ni. Bydd hefyd yn wych cystadlu ar y safle ar ôl gwneud pethau ar ffurf rithwir am gyhyd.”

Meddai Thomas:

“Rwy'n gobeithio y bydd y gystadleuaeth hon yn fy ngalluogi i feithrin y sgiliau a'r profiad i weithio fel aelod o dîm mewn cyd-destun polisi seiberddiogelwch, ac i rwydweithio ag unigolion eraill o'r un bryd yn y diwydiant. Gobeithio y bydd y profiad hefyd yn cynnig set o syniadau posib i mi o ran cyflogaeth yn y dyfodol.

“Bydd y profiadau sy'n deillio o'r gystadleuaeth hon hefyd yn rhoi ysbrydoliaeth amhrisiadwy i lunio gweithgareddau ar gyfer fy nghymdeithas seiberddiogelwch yn y brifysgol, Tîm Coch Abertawe.”

Gan drafod cyflawniadau'r myfyrwyr, meddai Dr Kris Stoddart:

“Mae Seiber 9/12 yn gystadleuaeth polisi a strategaeth seiber, lle mae myfyrwyr o bedwar ban byd yn cystadlu i ddatblygu argymhellion polisi i fynd i'r afael ag argyfwng seiber ffug. Dyma'r unig gystadleuaeth o'i bath yn y byd, a'i nod yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr seiberddiogelwch. Mae fersiwn y DU yn un o 14 o gystadlaethau Seiber 9/12 a gynhelir ledled y byd dan gyfarwyddyd yr Atlantic Council, melin drafod o bwys yn yr Unol Daleithiau.

“Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, ynghyd â'r MA mewn Polisi Cyhoeddus, sy'n cael profi eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn senario bywyd go iawn. Mae'n gystadleuaeth hynod gystadleuol sy'n bwysig wrth i ni geisio datblygu ein sylfaen seiberddiogelwch a nodi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.”

Rhannu'r stori