O ddarparu modelu ar gyfer ymateb polisi Llywodraeth Cymru i’r pandemig byd-eang, i ddatblygu technoleg ddigidol i gefnogi unigolion yn y system cyfiawnder troseddol i beidio â throseddu, i fynd i’r afael â seiberfygythiadau ar-lein a goresgyn tlodi ynni trwy bŵer solar, roedd amrywiaeth syfrdanol yr ymchwil ac arloesi a wneir ym Mhrifysgol Abertawe dan y sbotolau yn ystod Gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2022.
Gwahoddwyd ymchwilwyr ar draws y Brifysgol i gyflwyno cais a derbyniwyd dros 100 o geisiadau ar draws y 13 o gategorïau gwobrau. Dangosodd pob cais ansawdd, perthnasedd, ac effaith gadarnhaol fyd-eang ymchwil Prifysgol Abertawe a’i photensial i ysbrydoli.
Hoffem ddiolch i’n holl gydweithredwyr a noddwyr y mae eu cymorth yn hollbwysig wrth greu ymchwil ac arloesi mor wych ac wrth gynnal y gwobrau eu hunain.
Yr 13 o enillwyr yng nghategorïau’r gwobrau, gyda’r noddwyr a oedd yn eu cefnogi, oedd: