Mae Prifysgol Abertawe’n falch o feddu ar Ddyfarniad Rhagoriaeth Ymchwil AD y Comisiwn Ewropeaidd. 

Rydym wedi meddu ar y dyfarniad ers 2010, gan gydnabod ein mabwysiad llawn o egwyddorion y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr. Mae ein Cynlluniau Gweithredu’r Concordat yn nodi ein hymrwymiadau i drawsnewid yr amgylchedd ymchwil ar gyfer ein hymchwilwyr. 

EIN DOGFENNAU DIWEDDARAF AR GYFER Y DYFARNIAD RHAGORIAETH MEWN AD:

Abertawe'n llwyddo i gadw Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Ymchwil Adnoddau Dynol yn dilyn ein hadolygiad 12 mlynedd

‘Yn dilyn ei adolygiad 10 mlynedd, mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi bod ein hymrwymiad hirdymor i ddatblygu ymchwilwyr gyrfa gynnar wedi'i gydnabod drwy gadw Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Ymchwil Adnoddau Dynol y Comisiwn Ewropeaidd.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn ac, yn benodol, diolch yn fawr i aelodau'r Gweithgor Staff Ymchwil sy'n parhau i oruchwylio'r broses o gyflenwi Cynllun Gweithredu Concordat ar gyfer Staff Ymchwil.

Mae ein hymchwilwyr yn rhan hanfodol o ragoriaeth ein hymchwil. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, a thrwy ein hymrwymiadau a gyfathrebwyd drwy'r cynllun Concordat diweddaraf, rydym yn addo y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein diwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol gan alluogi ein hymchwilwyr dawnus i ffynnu ymhellach.’

Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil ac Arloesi, Yr Athro Helen Griffiths