Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen arobryn o ddatblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Bob blwyddyn, mae 30 o ymchwilwyr eithriadol yng Nghymru yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl neu ‘labordai sgiliau’ lle mae cyfranogwyr yn archwilio sut i:
- gallant elwa o weithio gydag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill,
- gall eu hymchwil gael mwy o effaith,
- gallant adeiladu gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.
Wedi’i ariannu gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae galw mawr am leoedd ar Grwsibl Cymru gan ymchwilwyr sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu priod feysydd.