Nod Prifysgol Abertawe yw darparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, gydag ymchwil sy'n arwain y byd, yn gydweithredol yn fyd-eang ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
Felly, er mwyn helpu i ddatblygu ein Hymchwilwyr Gyrfa Cynnar i gyflawni eu potensial a dod yn arweinwyr y dyfodol yn eu meysydd, ar 16 Mawrth 2018, lansiodd Prifysgol Abertawe'r Grŵp Cymrodoriaeth Gyrfa Cynnar cyntaf un sy'n cael ei redeg gan dîm Gwasanaethau Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu y Brifysgol. Mae’r gymrodoriaeth yn rhan o strategaeth y Brifysgol i gynyddu lefelau incwm ymchwil i £76m erbyn 2022 a helpu i ddatblygu ein Hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddod yn arweinwyr y dyfodol.
Mae Grŵp Cymrodoriaeth Florence Mockeridge wedi’i enwi ar ôl yr Athro Florence Annie Mockeridge, academydd blaengar ei chenhedlaeth ac Athro Botaneg Prifysgol Abertawe, rhwng 1922 a 1954, gyda’r gymrodoriaeth yn cael ei dyfarnu i ymchwilwyr rhagorol sydd â’r potensial i ddod yn arweinwyr yn eu ac wedi'i gynllunio i'w cefnogi gyda mentoriaeth gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn falch iawn o fod wedi cael dwy garfan wych (23 i gyd) yn dod trwy ein rhaglen hyfforddi a mentora chwe mis ddwys, gydag encil ysgrifennu yn Neuadd Gregynog.