Rydym yn helpu'r diwydiant dur i symud tuag at ddatgarboneiddio

Rydym yn helpu'r diwydiant dur i symud tuag at ddatgarboneiddio

Y Her

Dur yw'r metel a ddefnyddir fwyaf yn y byd a'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu fwyaf. Mae bron popeth rydym yn ei ddefnyddio naill ai wedi'i wneud o ddur, neu wedi'i wneud gan ddefnyddio dur, ac yn aml y ddau.

Fodd bynnag, mae'r broses o weithgynhyrchu dur yn parhau i fod yn ddwys o ran carbon, er gwaethaf gwelliannau mawr yn y sector dros y blynyddoedd diwethaf. Mae 6% o allyriadau carbon byd-eang yn dod o'r broses cynhyrchu haearn yn unig. Mae un ffwrnais chwyth yn cynhyrchu 5 miliwn o dunelli o garbon bob blwyddyn.

Am y rheswm hwn, caiff dur ei gamddeall yn aml fel diwydiant hen ffasiwn. Ond mae'n rhan amhrisiadwy o'r dyfodol. Mae angen dur ar economi werdd carbon isel, er enghraifft ar gyfer cynnyrch megis tyrbinau gwynt, trenau neu geir trydanol.

Bydd datblygu tanwyddau effeithlon, rhad, amgen yn helpu i leihau allyriadau, lleihau costau ynni a darparu cyfleoedd busnes newydd i'r diwydiannau dur a deunyddiau.

Y Dull

Mae Prifysgol Abertawe a’i phartneriaid wedi chwarae rhan hanfodol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf fel rhan o’r seilwaith ymchwil sy’n cefnogi’r diwydiant dur ledled De Cymru. Ym mis Chwefror 2018, sefydlodd Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Tata Steel y Sefydliad Dur a Metelau (SAMI), canolfan ragoriaeth mynediad agored sy'n canolbwyntio ar arloesedd dur drwy gyflwyno atebion ymarferol i ddiwydiant. Mae gan y Sefydliad amrywiaeth o gyfarpar sy'n ymchwilio i ddatgarboneiddio, synthesis aloiau, efelychu proses, profi mecanyddol a nodweddu deunyddiau. Drwy weithio gyda busnesau dur y DU, ei nod yw datgarboneiddio cynhyrchu haearn wrth gynnal effeithlonrwydd y broses.

Er mwyn mynd i'r afael â newidiadau yn y diwydiant megis effaith amgylcheddol dur, mae angen brys i greu cynnyrch yn ogystal â'r broses weithgynhyrchu. Mae SaMI yn helpu'r diwydiant dur i symud tuag at ddatgarboneiddio drwy alluogi cwmnïau i symud o ddefnyddio glo fel ei brif ffynhonnell ynni i gymysgedd o ynni adnewyddadwy, hydrogen a deunyddiau gwastraff.

Yr Effaith

Mae'r Sefydliad Dur a Metalau'n gweithio gyda chwmnïau cenedlaethol megis British Steel, yn ogystal â busnesau bach a chanolig fel Wall Colmonoy Cyf. i wella perfformiad cynnyrch a darparu dadansoddiad dwfn o ganlyniadau, sy'n darparu mewnwelediadau gwerthfawr i bartneriaid.

Mae galluoedd unigryw a chymorth defnyddiol SaMI yn cefnogi cwmnïau i leihau allyriadau carbon o'r broses ddiwydiannol drwy ymchwilio i bethau gwyrdd amgen.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe