TROSOLWG O'R PENNOD
Dan arweiniad yr Athro Ronan Lyons, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus, bu ymchwilwyr Gwybodeg Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio eu craffter a'u harbenigedd i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae eu harbenigedd yn helpu i ymateb i’r pandemig yng Nghymru a’i reoli.
Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro Ronan Lyons yn trafod â Dr Sam Blaxland sut mae data mawr anhysbys yn helpu i fynd i'r afael â heriau iechyd a lles a sut mae'r arbenigedd hwn wedi llywio ymateb y Llywodraeth.
Mewn cyfweliad hynod bwerus, mae Dr Blaxland yn archwilio beth nesaf? Pryd gallwn ni ddisgwyl dychwelyd i fywyd normal? Ac ai aberthu hawliau a rhyddid pobl oedd y penderfyniad iawn?