TROSOLWG O'R PENNOD
Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae ysgolheigion Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton 2021, Felicity Mulford ac August Dichter, yn ymuno â'n cyflwynydd Dr Sam Blaxland, yn ogystal â Dr Bettina Petersohn sy'n ddarlithydd Gwleidyddiaeth.
Mae Felicity yn trafod ei hymchwil, sy'n canolbwyntio ar newyn torfol fel arf rhyfel, wrth i August rannu ei ymchwil ar ymgyrchoedd twyllwybodaeth a noddir gan y wladwriaeth a defnyddio’r rhyngrwyd fel arf.
Mae Dr Bettina, arweinydd rhaglen ar gyfer y BSc newydd mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang, yn siarad am raglen israddedig newydd Prifysgol Abertawe, a gaiff ei lansio eleni. Hefyd mae'n trafod ei hymchwil ei hun ar gydweithredu a heriau byd-eang, o safbwynt lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Am ragor o wybodaeth am y BSc newydd mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang.