Yn y bennod hon
Fel cymdeithas, mae ein dealltwriaeth yn cynyddu drwy’r amser am niwroamrywiaeth, sy'n cyfeirio at yr ystod eang o ffyrdd y mae ymennydd unigolion yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau fel awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia a syndrom Tourette, lle mae gweithrediad ymennydd pobl yn niwrowahanol, i'r graddau y mae'n disgyn y tu allan i 'normau' wedi'u creu'n gymdeithasol. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, fodd bynnag, mae pobl niwrowahanol yn dal i wynebu heriau mawr mewn byd sydd wedi'i drefnu’n bennaf ar gyfer pobl niwronodweddiadol.
Yn y bennod hon, mewn trafodaeth â Dr Sam Blaxland, mae'r Athro Brian Garrod, Athro Marchnata yn yr Ysgol Reolaeth, yn taflu goleuni ar y rhwystrau sy'n wynebu plant niwrowahanol a'u teuluoedd ar wyliau. Drwy arolygon a chyfweliadau manwl, mae ymchwil yr Athro Garrod wedi datgelu rhwystrau allweddol sy'n amrywio o rieni sy'n teimlo eu bod yn cael eu beirniadu gan eraill, i deuluoedd nad ydynt yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt gan y diwydiant teithio. Mae'r podlediad hwn yn ymchwilio i sut y gallai'r diwydiant twristiaeth addasu i fod yn fwy hygyrch a chroesawgar.