Y GwyddonLe’n dychwelyd yn 2023 yn ei holl ogoniant
Ers 2010 mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn noddi pabell y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd ac eleni eto cafwyd wythnos brysur a llwyddiannus dros ben yn Sir Gaerfyrddin. Croesawodd staff a gwyddonwyr y Brifysgol filoedd o blant a phobl ifanc i’r GwyddonLe gan gydio yn eu dychymyg gyda llu o weithgareddau gwyddonol gwych.
Cynefin oedd thema’r GwyddonLe eleni a’r gweithgareddau rhyngweithiol ac arbrofion gwyddonol yn adlewyrchu hyn mewn amrywiol ffyrdd. Roedd modd hedfan fel gwenynen gan gasglu paill o flodau gyda thîm Realiti Rhithwir y Brifysgol, tra bod Technocamps yn efelychu ecosystemau drwy godio robotiaid. Roedd gan yr Ysgol Feddygaeth ysbyty tedis, a dol arbennig i ddysgu sut i roi CPR neu adfywio cardio-pwlmonaidd, yn ogystal â sesiynau yn dangos sut i ddefnyddio diffibriliwr. Cafodd Coleg Brenhinol y Patheolegwyr stondin er mwyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed a rhoi cyfle i'r cyhoedd bleidleisio ar y newidiadau mwyaf pwysig yn hanes meddygaeth rhwng y 1940au a’r 2020au.
Ardaloedd poblogaidd eraill yn y GwyddonLe oedd stondin ESports Wales gyda’i gemau gyrru, a beic hydrogen y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) lle’r oedd plant a phobl ifanc yn dysgu sut mae modd creu ynni glân adnewyddadwy. Roedd ffocws hefyd ar newid hinsawdd gyda staff o’r adran Ddaearyddiaeth a Biowyddorau yn cydweithio gyda thîm OPTIC i greu paneli o luniau yn dilyn sgyrsiau gyda’r cyhoedd am newidiadau yn yr hinsawdd mewn pum lle penodol ar draws De Orllewin Cymru. Yn cyd-fynd â hyn oedd gweithgaredd arbennig gyda Dr Geraldine Lublin o Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu y Brifysgol yn canolbwyntio ar Addysg Hinsawdd drwy integreiddio tri o’r meysydd dysgu a phrofiad newydd gyda’r cyflwynydd a’r artist Siôn Tomos Owen yno yn creu murlun unigryw i gynnwys holl syniadau a sylwadau’r plant a’r bobl ifanc ar y pwnc.
Roedd y GwyddonLe dan ei sang ar gyfer yr holl sioeau llwyfan, o arbrofion cemegol Mad Science i ddysgu am y tywydd gyda’r cyflwynwyr Megan Williams a Tanwen Cray o dîm tywydd y BBC. Un o uchafbwyntiau’r llwyfan oedd cwis arbennig yn seiliedig ar y llyfr Ti a Dy Gorff sef addasiad Cyhoeddiadau Rily o lyfr Adam Kay, Kay’s Anatomy. Addaswyd y gyfrol gan un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Eiry Miles, a hithau ddaeth i gynnal y cwis a phrofi gwybodaeth y gynulleidfa am y corff gyda Dr Llinos Roberts, meddyg teulu ac aelod o staff Ysgol Feddygaeth y Brifysgol. Cafodd y pedwar bachgen ifanc yn y tîm buddugol gopi yr un o’r llyfr yn wobr.
Ar ddydd Gwener, fe gynhaliwyd y gystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan, dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ac Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur yn mynd ben ben. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Cefin Campbell AS, a Dr Angharad Closs Stephens, o Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg y Brifysgol gyda’r cystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y datganiad “Nid yw’r syniad o gynefin yn gallu cydnabod hanes hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru”. Darllenwch hanes Her Sefydliad Morgan yma.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, braf oedd gweld aelodau o Aelwyd yr Elyrch, Undeb y Myfyrwyr, yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Grŵp Llefaru dan 25 oed. Bu’n hyfryd hefyd cael Cara Medi Walters, myfyrwraig ail flwyddyn BA Cymraeg, yn gweithio fel intern gyda staff yr Academi yn y GwyddonLe.
Cafwyd ymateb gwych i’r GwyddonLe unwaith eto eleni a chroesawyd sawl gwleidydd i weld ein gwaith, gan gynnwys y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS, Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS a Sioned Williams AS. Roedd hi’n bleser hefyd croesawu Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Paul Boyle, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu’r Brifysgol, Niamh Lamond, Dirprwy Ganghellor y Brifysgol, Syr Roderick Evans, Pennaeth Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Elwen Evans CB, ac yr Athro Sian Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, i’r GwyddonLe a diolch iddynt am eu cefnogaeth.
Ymatebodd Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol i’r bartneriaeth a’r arlwy eleni:
“Mae cefnogaeth ariannol a chefnogaeth gan nifer o staff ac adrannau Prifysgol Abertawe eto eleni wedi golygu bod GwyddonLe Eisteddfod yr Urdd yn parhau i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y maes.
Dyma bartneriaeth sy’n bwysig iawn i ni fel mudiad a byddwn yn parhau i gydweithio yn agos er mwyn sicrhau gweithgareddau ac arlwy cyffrous ac atyniadol i blant a phobl ifanc sy’n ymweld â’r Eisteddfod.”