Tîm a strwythur y Gangen
Pwyllgor y Gangen
Cadeirydd y Gangen: Dr Alwena Morgan
Swyddog Cangen ac Ysgrifennydd y Pwyllgor: Indeg Llewelyn Owen
Is-gadeiryddion y Gangen: Dr Rhian Meara a Dr Osian Rees
Cynrychiolaeth Myfyrwyr: Macsen Davies, Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr
Mae aelodaeth o'r gangen yn agored i unrhyw aelod o staff academaidd neu staff cefnogol sy’n aelod o’r Coleg. Cynhelir dau fforwm Cangen bob blwyddyn academaidd ac un Cynulliad Blynyddol. Mae'r Gangen yn sicrhau bod llais y gymuned academaidd yn cael ei hadlewyrchu yn natblygiad cynlluniau academaidd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg.
Mae Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol yng ngyfarfodydd y Gangen ac ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg. Mae'r Gangen yn sicrhau cynrychiolaeth a mewnbwn gan fyfyrwyr i brosesau cynllunio academaidd y Gangen trwy fforymau myfyrwyr ac mae Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb yn Cadeirio'r Fforymau hynny.
Dyddiadau Fforymau a'r Cynulliad Blynyddol
- Fforwm Staff: Hydref 16eg, 2024 a Mai 7fed, 2025
- Cyfarfod Blynyddol y Gangen: Rhagfyr 4ydd, 2024
- Fforwm Myfyrwyr: Hydref 14eg, 2024 a Ebrill 14eg, 2025
- Fforwm Myfyrwyr Ôl-raddedig: Tachwedd 11eg, 2024 a Mai 12fed, 2025
Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2024-25
Mae bod yn llysgennad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyrwyddo’r Gymraeg o fewn eu prifysgol yn ogystal â bod yn rhan o waith marchnata’r Coleg Cymraeg er mwyn hyrwyddo parhad y defnydd o’r Gymraeg o’r ysgol i’r gweithle. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau, ymweliadau ysgolion, blogiau, cyfweliadau a gwaith ar wefannau cymdeithasol.
Llysgenhadon Israddedig:
- Cara Medi Walters: BA Cymraeg
- Daisy Gwyneth Bendle: Cymraeg Ail iaith
- Sara Niamh O’Connor: Bydwreigiaeth
Llysgenhadon Ôl-raddedig:
- Emily Louise Evans: PhD Cymraeg
- Megan Kendall: PhD Peirianneg Deunyddiau a Gweithgynhyrchu
- Maisie Edwards: PhD Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd drwy Ymchwil
- Siwan Davies: Cwrs Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol
- Sally Ann Nicholls: Addysg Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar