Tîm a strwythur y Gangen

Pwyllgor y Gangen

Cadeirydd y Gangen: Dr Alwena Morgan
Swyddog Cangen ac Ysgrifennydd y Pwyllgor: Indeg Llewelyn Owen
Is-gadeiryddion y Gangen: Dr Angharad Closs Stephens a Rhiannon Pugsley
Cynrychiolaeth Myfyrwyr: Ruby Cradle, Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr

Mae aelodaeth o'r gangen yn agored i unrhyw aelod o staff academaidd neu staff cefnogol sy’n aelod o’r Coleg. Cynhelir dau fforwm Cangen bob blwyddyn academaidd ac un Cynulliad Blynyddol. Mae'r Gangen yn sicrhau bod llais y gymuned academaidd yn cael ei hadlewyrchu yn natblygiad cynlluniau academaidd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg.

Mae Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol yng ngyfarfodydd y Gangen ac ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg. Mae'r Gangen yn sicrhau cynrychiolaeth a mewnbwn gan fyfyrwyr i brosesau cynllunio academaidd y Gangen trwy fforymau myfyrwyr ac mae Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb yn Cadeirio'r Fforymau hynny. 

Dyddiadau Fforymau a'r Cynulliad Blynyddol

  • Fforwm Staff: Hydref 14, 2026 a Ebrill 28, 2027
  • Cyfarfod Blynyddol y Gangen: Rhagfyr 9fed, 2026
  • Fforwm Myfyrwyr: Tachwedd 9fed, 2026 a Mawrth 23ain, 2027

Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2026-27

Mae bod yn llysgennad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyrwyddo’r Gymraeg o fewn eu prifysgol yn ogystal â bod yn rhan o waith marchnata’r Coleg Cymraeg er mwyn hyrwyddo parhad y defnydd o’r Gymraeg o’r ysgol i’r gweithle. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau, ymweliadau ysgolion, blogiau, cyfweliadau a gwaith ar wefannau cymdeithasol. 

Llysgenhadon Israddedig: 

  • Joe Morgan: Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chyfathrebu 
  • Aimee Evans: Daearyddiaeth Ddynol
  • Ruth Hughes: Cymraeg ail Iaith

Llysgenhadon Ôl-raddedig: 

  • Cara Medi Walters: PhD Adran Gyfryngau - Bywyd a Gyrfa Norah Isaac
  • Jess Martin: PhD Ieitheg Gymhwysol

Darllenwch Newyddlen Dathlu'r 10 Cangen Abertawe