Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Os yw'ch cwrs yn cynnwys lleoliad sy'n ymwneud â gwirfoddoli neu weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, bydd angen i chi fod yn destun datgeliad manwl o gofnod troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (“DBS”).

Gwneud cais am ddatgeliad manwl

Mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio system ar-lein i wneid ceisiadau am wiriadau DBS drwy First Advantage. Os bydd angen datgeliad manwl ar fyfyrwyr, anfonir dolen atynt yn gofyn iddynt hunan-gofrestru. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys:

  • Rhif adnabod y sefydliad
  • Cyfrinair
  • Y swydd rydych yn gwneud cais amdani

Os fe’ch hysbyswyd bod angen gwiriad GDG arnoch ac mae angen danfon dolen y cais atoch, e-bostiwch compliance.admissions@abertawe.ac.uk.

Wrth ddechrau'ch cais, dewiswch yr opsiwn 'Register' ar ochr dde'r sgrîn.

Os oes  unrhyw rai o'r canlynol gennych, gofynnir i chi ddarparu manylion:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Trwydded yrru gyfredol
  • Pasbort cyfredol
  • Cerdyn Adnabod Cenedligrwydd cyfredol

Pan ofynnir i chi ddarparu teitl eich swydd, mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r union un manylion ag sydd yn eich e-bost. Os nad ydych yn gwneud hyn, gallai eich cais gael ei oedi.

Bydd cwestiwn yn gofyn i chi a hoffech dderbyn diweddariadau am gynnydd eich cais DBS. Byddem yn argymell eich bod yn ticio'r blwch hwn fel y byddwch yn gwybod pan gaiff ei gymeradwyo.

Ar ddiwedd y broses, bydd angen i chi argraffu dogfen i fynd â hi i Swyddfa Bost sy'n cynnig gwasanaeth dilysu DBS a hunaniaeth, ynghyd â'ch dogfennau adnabod i'w dilysu.  Mae manylion pellach isod am leoliadau Swyddfeydd Post. Bydd angen i chi drefnu talu am eich gwiriad DBS yn y Swyddfa Bost hefyd. Y gost yw £53.42.

Dod o hyd i Swyddfa Bost

Sylwer, nid yw pob Swyddfa Bost yn darparu gwasanaeth gwiriad DBS. I ddod o hyd i Swyddfa Bost sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, defnyddiwch y nodwedd Post Office Branch Finder. Hidlwch y rhestr am leoliadau sy'n cynnwys "CRB & ID Verification Service". PEIDIWCH Â dewis DBS ID VALIDATION SERVICE oherwydd nad yw'r gwasanaeth hwn yn cydweddu â'r daflen â chôd bar y byddwch yn mynd â hi at ddiben dilysu.

Am gymorth pellach, darllenwch canllaw defnyddwyr First Advantage.

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i'n olrhain fy nghais?

Gall ymgeiswyr fonitro statws eu cais drwy blatfform First Advantage. Neu gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Monitro'r DBS.

Pryd fyddai’n derbyn fy nghanlyniad? Oes angen i mi anfon fy nhystysgrif i chi? Mae gennyf ymholiad