Bydd angen i’ch plentyn wneud y galwad ffôn, mae Prifysgolion eisiau gweld bod eu darpar fyfyrwyr yn annibynnol, felly fydd cael eich rhiant neu eich warcheidwaid ffonio ar ei ran ddim yn edrych yn dda - hefyd unwaith y byddant yn dechrau siarad, efallai bydd ganddo fe/hi lot o gwestiynau i ofyn. Llinell Gymorth Abertawe yw 0808 175 3071.
Pan fydd eich plentyn yn ffonio ein Llinell Gymorth, gofynnir i chi am;
- Rhif UCAS (os ydy fe/hi ar y system UCAS am y cyfnod yma)
- Enw’r cwrs (neu fath o’r cwrs) mae ganddo fe/hi ddiddordeb ynddo
- Manylion ei g/chymwysterau
- Cyfeiriad e-bost dilys er mwyn derbyn e-bost os ydy fe/hi yn cael cynnig lle
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth uchod o’ch blaen chi cyn eich plentyn yn ffonio - hyd yn oed os ydynt yn gwybod eu Rhif Adnabod Personol UCAS ar eu cof, byddwch chi’n synnu faint o bobl yn anghofio unwaith y mae’n nhw'n ffonio.
Gall llinellau cymorth y prifysgolion fod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar a chadwch ffonio. Neu, mae gan lawer o brifysgolion ffurflenni cais clirio, felly gallwch wneud cais ar-lein. Bydd Tiwtoriaid Derbyn yn edrych dros geisiadau yn gyson felly dylech gael penderfyniad yn gyflym.