Andy Hopper yw Athro Technoleg Gyfrifiadurol Prifysgol Caergrawnt ac mae’n un o sylfaenwyr Acorn Computers.
Mae’n deg dweud bod cyfrifiaduron wedi cael dylanwad mawr ar eich bywyd. A wnewch chi siarad ychydig am hynny?
Dechreuais i astudio Technoleg Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe ym 1971. Roedd y cwrs yn cyfuno cyfrifiadureg ag electroneg, cyfrifeg ac economeg – gwnaeth ddylanwadu ar bob agwedd ar fy meddylfryd.
Technoleg Gwybodaeth yw diwydiant mwyaf y byd – mae’n gyfrifol am y cwmnïau mwyaf a’r cwmnïau mwyaf gwerthfawr. Roedd hyn i gyd wrth wraidd y cwrs y dechreuais ei ddilyn ym 1971. Cafodd ddylanwad mawr ar fy ngyrfa wedyn gan iddo roi cyfle i fi fagu sgiliau technegol yn ogystal ag ymgyfarwyddo â’r byd busnes.
Fi yw Athro Technoleg Gyfrifiadurol yr Adran Cyfrifiadureg a Thechnoleg (newidiais i’r enw pan oeddwn i’n Bennaeth yr Adran) ym Mhrifysgol Caergrawnt. Technoleg Gyfrifiadurol oedd enw’r cwrs a ddilynais i yn Abertawe hefyd.
Roedd Abertawe’n eithaf arloesol. Dau berson oedd yn bennaf gyfrifol am hynny, sef Athro Peirianneg Drydanol o’r enw William Gosling, a fathodd y syniad o gynnig y cwrs, a David Aspinall, a gafodd ei recriwtio i arwain y cwrs yn Abertawe. Roedd gan Gosling lawer o gysylltiadau â diwydiant ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol cwmni electroneg, amddiffyn a thelegyfathrebu o’r enw Plessey. Roedd yn gyfarwydd iawn, drwy ei waith, ag ochr ddiwydiannol pethau ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr i fi oherwydd fy mod wedi dilyn y trywydd hwnnw drwy gydol fy ngyrfa. Rwyf wedi dilyn gyrfa yn y byd academaidd ac ym myd diwydiant ochr yn ochr â’i gilydd. Nid wyf wedi gadael y brifysgol erioed; rwyf bob amser wedi gwneud y ddau beth ar yr un pryd.
Sut dechreuoch chi ym Mhrifysgol Caergrawnt?
Roedd yr Athro Aspinall yn adnabod cwpwl o bobl yng Nghaergrawnt ac awgrymodd ef y dylwn i fynd i’w gweld nhw. Felly, ym mis Gorffennaf 1974, dyma fi’n cerdded i mewn ac yn cael cyfweliad. Gofynnon nhw, “Beth hoffech chi ei wneud?” Atebais i, “Dwi ddim yn siŵr, dwi’n hoffi adeiladu pethau a dwi’n hoffi electroneg.” Gofynnon nhw i fi beth oedd fy mhrosiect a dywedais i ei fod yn ymwneud â microbrosesyddion. Y diwrnod nesaf, gwnaethon nhw fy ffonio a chynnig lle i fi.
Clywais i wedi hynny fod rhywun arall wedi canslo ar y funud olaf ac mai fi oedd y person nesaf ar gael i’w galluogi i fodloni telerau’r grant a chael yr arian ymchwil. Diwedd mis Gorffennaf oedd y dyddiad cau ar gyfer yr arian ymchwil. Roedd yn grant SRC, rhagflaenydd yr EPSRC, ac roedd yn rhaid i fi yrru’n ôl ac ymlaen rhwng Abertawe a Chaergrawnt i gyflwyno’r holl waith papur yn bersonol, er mwyn cael lle ar y cynllun grant. Drwy hynny, dechreuais i ddilyn PhD yng Nghaergrawnt ar ôl gadael Abertawe.
Fel rhywun sydd wedi sefydlu sawl menter, o ble daeth y syniadau am eich busnesau? Oedden nhw bob amser yn eich pen neu ydyn nhw wedi deillio o’ch gwaith academaidd?
Mae’n rhaid i chi fod yn yr amgylchedd iawn ac roedd fy nghwrs PhD yng Nghaergrawnt yn ymarferol iawn. Roeddwn i’n rhan o brosiect mwy a oedd yn ymwneud â rhwydwaith cyflymder uchel. Roedd ether-rwyd yn dechrau dod i’r amlwg ac roedd gennym brosiect cystadleuol o’r enw Cambridge Ring. Dechreuodd nifer o gwmnïau fasnacheiddio hynny ac roeddwn i’n rhan o’r broses. Mae gan yr adran (ac rwy’n falch o ddweud y bues i’n bennaeth yr adran honno am 14 o flynyddoedd, tan ddwy flynedd yn ôl) ddiwylliant cryf o gefnogi cydweithrediad â diwydiant.
Ar yr adeg honno – ac i ryw raddau, mae’r un peth yn wir o hyd – roedd yr ochr ddiwydiannol yn cael ei hannog. Roeddech chi’n cyflawni mewn ystyr ehangach na nifer y papurau roeddech chi wedi’u cyhoeddi.
Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn Acorn pan ddechreuais i helpu i lunio’r dechnoleg a wnaeth arwain at ddatblygu’r cwmni ARM, ond roeddwn i yn y brifysgol ar yr un pryd. ARM yw Acorn RISC Machines a RISC oedd cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer y cyfrifiadur, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley. Daeth hyn i’m sylw ac aeth â’m bryd i. Ar y pryd, roedd rhai o’m cyn-fyfyrwyr PhD yn yr Unol Daleithiau. Dywedais i wrthyn nhw i fynd i Berkeley i gael cipolwg. Daethon nhw yn ôl a dweud bod rhywbeth o werth yno sy’n ddiddorol, sef microbrosesydd, ac y gallech chi ei adeiladu. Roedd y cwmni, Acorn, yn ddigon mawr ac roedd wedi cynhyrchu sglodion o’r blaen. Gwnes i siarad â’m partner, y Prif Swyddog Gweithredol, Hermann Hauser, am y syniad a dywedodd ef, “Awn ni amdani. Rydyn ni wedi cyflogi rhai myfyrwyr PhD gwych o’r brifysgol a gallan nhw weithio arno.” Roedd y ffordd y dyluniwyd sglodyn ARM yn deillio’n rhannol o ddiffyg arian; roedd yn rhaid iddo fod yn ynni-effeithlon. Y cyd-destun oedd ein sbardun, yn hytrach nag unrhyw athrylith. Mae angen arian, diwydiant ac elfen academaidd. Mae fy nghwmnïau i gyd wedi cael eu seilio ar yr elfennau hyn, o leiaf o ran y dechnoleg. Rwyf wedi sefydlu o 13 o gwmnïau, ond digwyddodd hynny heb unrhyw fwriad gennyf i fod yn entrepreneur o fri.
Roeddech chi ar flaen y gad ym maes cyfrifiadura yn y DU. Disgrifiwyd Acorn fel Apple Prydain. Sut brofiad oedd bod yn y sefyllfa honno ar y pryd?
Ar y pryd roedd y sefyllfa’n teimlo’n gystadleuol iawn o hyd. Roedd cwmni bach o’r enw Apple ac, wrth ddechrau gweithio ar y microbrosesydd mewn cwmni o’r enw Acorn ar gyfer prosiect o’r enw ARM, roedden ni’n ymwybodol bod Intel (a gynhyrchodd y microbrosesyddion roeddwn i’n eu defnyddio yn Abertawe ym 1971/1972) yn un o’r cewri. Nhw oedd ein cystadleuwyr.
Yn ail, roedd y llwybr cyflymach, rhatach, gwell yn glir a doedd dim llawer o fusnesau eraill yn y farchnad; felly, er ei bod hi’n gystadleuol, roedd craffter yn bwysig. Roedd technoleg Zoom, Skype ac ati yn bodoli 30 o flynyddoedd yn ôl, doedd dim angen dychymyg mawr ar beirianwyr i weld hynny. Ond y craffter i benderfynu pa mor bell dylen ni wthio’r dechnoleg, dyna graffter cynnil nad oes gan lawer o bobl. Mae angen y craffter hwnnw i benderfynu pa mor bell i fynd â’r peth nesaf. Felly, p’un a ydych chi’n sôn am rwydwaith cyflymach, gwell sglodyn ar gyfer cyfrifiadur neu ffrydio amlgyfrwng, craffter sy’n bwysig. Mae’r ffaith bod pawb ar y blaned yn defnyddio Zoom neu Skype neu beth bynnag – er bod hynny wedi digwydd am reswm gwael, sef coronafeirws – wedi mynd ymhellach na’r breuddwydion mwyaf ychydig fisoedd yn ôl, ond mae wedi digwydd ac mae’r byd wedi newid am byth. Felly, i ateb y cwestiwn, roedd yn deimlad gwych ac, er bod y sefyllfa ariannol wedi bod braidd yn frawychus ar adegau, mae’r realiti wedi rhagori ar ein breuddwydion mwyaf.
Dyfarnwyd y CBE i chi yn 2007. Sut deimlad yw cael cydnabyddiaeth o’r fath am eich gwaith?
Mae’n braf iawn ond mae cynifer o bobl sydd yr un mor deilwng, neu sy’n fwy teilwng, o gael eu cydnabod, sydd heb gael anrhydedd. Felly, mae’n rhaid i chi atgoffa eich hun am hynny o dro i dro. Ond, yn y diwylliant hwn, mae’n braf cael y gydnabyddiaeth.
Felly, o’ch safbwynt chi ar flaen y gad ym maes technoleg, beth yn eich barn chi, fydd y datblygiad mawr nesaf?
Rwy’n meddwl bod fframwaith cyfan cyfrifiadura a chynaliadwyedd yn gyffrous iawn. Dychmygwch fynd ati i arsylwi ar ddata yn y seiberofod a bwydo hynny yn ôl i wella cynaliadwyedd y byd. Mewn geiriau eraill, gallai cyfrifiadura rheoli curiad calon y blaned. Mae’r system leoli fyd-eang yn wasanaeth gwych sydd ar gael am ddim yn fyd-eang. Dychmygwch system tymheredd fyd-eang sy’n gallu rhoi tymheredd pob metr sgwâr ar y blaned, mewn amser real, i bawb, yn rhad ac am ddim. Yn fy marn i, byddai cefnogi cynaliadwyedd y blaned drwy gyfrifiadura yn wych a hoffwn weld hynny.