Lizzie Alcock

Dechreuodd Lizzie Alcock interniaeth tri diwrnod gyda Discovery, sef elusen a arweinir gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ystod ei thrydedd flwyddyn yn y Brifysgol. Mae hyn wedi datblygu’n ddwy flynedd a hanner o wirfoddoli ar eu prosiectau a chael fy nghyflogi’n Swyddog Recriwtio Gwirfoddolwyr Discovery ar ôl graddio.

A selfie of Lizzie Alcock on the beach at Swansea University

Atgof Lizzie

Roedd Discovery yn rhan bwysig iawn o'm bywyd israddedig ac ôl-raddedig, gan roi'r swydd gyntaf ar ôl graddio i mi fel Swyddog Recriwtio Gwirfoddolwyr.

Wrth i fi ddechrau ar fy nhrydedd flwyddyn o'm gradd mewn Seicoleg, roeddwn i am gael mwy  o'm profiad yn y Brifysgol, a phrin oedd y profiad gwaith a oedd gen i, felly gwnes i interniaeth 3 diwrnod gyda Discovery.

Arweiniodd hyn at ddwy flynedd a hanner o wirfoddoli ar brosiectau Discovery, yn rheoli prosiect a oedd yn cefnogi oedolion ag anableddau a 3 interniaeth arall. Roeddwn i hefyd yn gallu dod i adnabod pobl â meddylfryd tebyg, sydd wedi dod yn ffrindiau gydol oes.

Roedd bod yn rhan o gymuned Discovery fel myfyriwr yn fuddiol i'm hiechyd meddwl, gan fy ngalluogi i i ddatblygu sgiliau arwain drwy fod yn Gydlynydd Prosiect ac yn llywydd myfyrwyr ar eu bwrdd o ymddiriedolwyr, gan roi hwb i'm hyder yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy eraill.

Roedd Discovery yn ddylanwad enfawr arnaf wrth ddewis gwneud fy MSc rhwng 2018 a 2019 oherwydd y gwnaeth ganiatáu i mi barhau i wirfoddoli wrth roi yr hyn yr oeddwn i wedi ei ddysgu ar waith.

Ar ôl graddio, ces i fy nghyflogi gan Discovery am flwyddyn fel Swyddog Recriwtio Gwirfoddolwyr, sef fy swydd gyntaf ar ôl graddio. Roeddwn i'n mwynhau gallu rhoi rhywbeth yn ôl i Discovery a chefnogi’r gwirfoddolwyr myfyrwyr newydd, a sicrhau bod eu teithiau gwirfoddoli’n llawn hwyl ac yr un mor werthfawr â fy un i.

Discovery Volunteers taking part in a pride march

Mae Discovery yn rhoi llawer i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ogystal â'r gymuned ehangach, gan helpu i feithrin perthynas rhwng y myfyrwyr a phreswylwyr lleol. Mae myfyrwyr yn cynnig gweithgareddau a chefnogaeth wythnosol i'r bobl hynny yn y gymuned y mae eu hangen arnynt ac maent yn trefnu ymgyrchoedd glanhau'r traeth misol i gadw Bae Abertawe yn daclus.

Yn gyfnewid, mae Discovery yn helpu myfyrwyr i fagu hyder a sgiliau arwain a rheoli amser, sy'n gwella eu cyflogadwyedd.

A group of Discovery Volunteers at a train station holding a sign that reads

Alla i ddim â dod o hyd i'r geiriau i fynegi cymaint mae Discovery wedi ychwanegu at fy amser yn y Brifysgol, ac rwy'n annog myfyrwyr eraill i gysylltu â nhw os oes ganddynt ddiddordeb mewn gwirfoddoli:

https://discoverysvs.org 

http://www.facebook.com/DiscoverySVS

https://www.instagram.com/discoverysvs/

https://twitter.com/DiscoverySVS 

E-bost: discovery@abertawe.ac.uk

A large group of Discovery volunteers posing with party props, such as glasses on sticks.
A group of Discovery volunteers and community members outside the Harry Potter studios in London.

Kritsanaphong Sangraksa

Fel yn achos llawer o fyfyrwyr, roedd gwirfoddoli gyda Discovery yn un o'r profiadau a ddiffiniodd amser ein cyn-fyfyriwr, Kritsanaphong Sangraksa, yn y brifysgol, gan lywio ei yrfa yn y dyfodol, yn gweithio i elusen i blant.

Kritsanaphong Sangraksa kneeling beside a hand painted Discovery sign and holding up a medal.

Atgof Kritsanaphong

Swyddfa Discovery yw'r lle sy'n diffinio fy amser i ym Mhrifysgol Abertawe. Cwrddais i â chynifer o bobl wych; o'r staff a'r gwirfoddolwyr ymroddedig i'r bobl hyfryd gwnaethom ni eu cefnogi. Llywiodd gwaith gwirfoddol fy llwybr gyrfa, gan newid fy agwedd at waith. Sylweddolais i ei bod hi'n bosib caru'r hyn rydych chi'n ei wneud.

Ar 2 Rhagfyr 2016, bu trobwynt enfawr yn fy mhrofiad yn y Brifysgol. Roeddwn i newydd ddod yn Gydlynydd Prosiect gwirfoddol i Discovery gyda'm ffrind. Fel Cydlynwyr Prosiect, trefnon ni deithiau i bobl ifanc ddiamddiffyn. Mwynheais i bob un daith ac roedd y staff mor gefnogol. Ces i ymdeimlad o ddiben a boddhad ganddo.

Cefais gynifer o gyfleoedd diolch i Discovery ond fy uchafbwynt personol i oedd bod yn ddigon ffodus i fynd i Sivonga yn Sambia. Es i yno gyda Discovery i weithio gyda SNG i ddatblygu dosbarthiadau gweithdy i fenywod a phlant. Roedd yn brofiad bythgofiadwy a chwrddais i â chynifer o bobl llawn ysbrydoliaeth, gan ddysgu am ddiwylliant newydd a hyd yn oed ymweld â Rhaeadrau Fictoria!

Cyn gwirfoddoli, nid oeddwn i byth wedi ystyried bod llwybr gyrfa yn y sector elusennol, ac roedd fy amser gyda Discovery yn agoriad llygad mawr. O 2017 – 2018, gweithiais i fel ei Swyddog Cyllid. Roedd y swydd yn llawn  cyfleoedd a heriau, gan roi cynifer o sgiliau a phrofiad ymarferol i mi dynnu arnynt yn fy swydd bresennol. Yn ogystal, cwrddais i â llawer o bobl hyfryd gyda'r un meddylfryd â mi a gallaf ddweud gyda sicrwydd y gwnes i ffrindiau am oes. Nid oedd yr un diwrnod lle na wnes i edrych ymlaen at weithio yn Swyddfa Discovery.

 

Fel aelod o staff, gallwn i weld bod y gwirfoddolwyr wir yn angerddol dros yr hyn roeddem ni'n ei wneud fel elusen. Roedd yr awydd hwn i helpu eraill roeddem ni i gyd yn ei rannu wedi gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn gryfach dros fy ngwaith. Roedd hyn yn bwysig iawn i mi oherwydd tan y flwyddyn honno, roeddwn i'n disgwyl cael swydd 9-5 ar ôl gadael y brifysgol.

Yn ystod fy lleoliad, gwnaeth Discovery sicrhau lleoliadau cysgodi tymor byr i mi, gan roi'r cyfle i mi fynd i gwmni cyfrifo ac elusen arall yn Abertawe. Gwnaeth hyn roi blas unigryw a diddorol iawn i mi ar y sector elusennol a chyllid ehangach.

A group of Discovery and Siavonga Nutrition Group volunteers in Zambia.

Ar ôl gorffen yn y brifysgol, es i'n syth i weithio ym maes cyllid ar gyfer elusen i blant. Dw i mor ddiolchgar am ddod o hyd i Discovery oherwydd hebddo, ni fyddwn i'n gweithio mewn swydd a sector rwyf wir yn angerddol drostynt.

Enwebais i Discovery am Blac Glas Tywyll oherwydd bydd yn codi ei broffil ymhlith myfyrwyr, gan eu galluogi nhw i roi'n ôl, datblygu sgiliau, gwneud ffrindiau a chael eu hysbrydoli.