Creu effaith yn lleol ac yn rhyngwladol

Image of Computational Foundry

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY) 2021: Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, sy'n amlygu bod ein hadran yn ymrwymedig i ymwreiddio effaith go iawn ar y byd ym mhopeth a wnawn. Mae 90% o’n hymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol, a gwelwyd cynnydd yn nifer ein cyhoeddiadau sy'n arwain y byd.

Wedi'i leoli yn Ffowndri Gyfrifiadurol gwerth £32.5M ers 2018, mae'r Adran Gyfrifiadureg, yn gartref i ymchwilwyr o'r radd flaenaf, cyfleusterau labordy cain a rhaglenni addysgu rhagorol. 

Ethos yr Adran yw ymgymryd ag ymchwil a fydd o bwys yn y tymor hir, gan ysbrydoli myfyrwyr a'u hannog i helpu i newid y byd.

Ers dros 40 mlynedd bu ymchwilwyr yn Abertawe'n gwneud cyfraniadau diddorol a sylweddol i gyfrifiadureg ym meysydd cyfrifiadureg â ffocws ar ddata, semanteg manylebau ac ieithoedd rhaglennu, dulliau ffurfiol ar gyfer dylunio meddalwedd a chaledwedd, systemau gweithredu, graffeg gyfrifiadurol, cyfathrebu amlgyfrwng, modelu hylifau cymhleth, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron ac effaith gymdeithasol gwyddoniaeth a thechnoleg.

Seminarau a Colocwia

Grwpiau Ymchwil

Deallusrwydd Artiffisial

Mae Grŵp Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe'n dîm bywiog a rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr. Rydym am ddatblygu'r pethau nesaf mewn deallusrwydd artiffisial drwy ddatblygu dulliau, modelau a systemau newydd. Mae ein grŵp yn cydweithio'n eang â byd academaidd, diwydiant a'r sector cyhoeddus i ddarparu atebion effeithiol, effeithlon a moesegol ar gyfer heriau mewn bioleg, peirianneg, gofal iechyd a rhesymu cyfreithiol.

Labordy Diogelwch

Mae Labordy Diogelwch Abertawe yn gyfleuster llawn cyfarpar  yn Ffowndri Gyfrifiadol Abertawe. Mae’r labordy’n darparu cyfarpar ac adnoddau ar gyfer tri phrif faes ymchwil: diogelwch rhwydwaith, diogelwch symudol/y Rhyngrwyd Pethau a phrofi treiddiad. Mae’r labordy’n galluogi i ymchwilwyr a phartneriaid diwydiant osod rhwydweithiau a gwasanaethau arbennig er mwyn archwilio’r gwendidau, y bygythiadau a’r atebion diweddaraf.

RHYNGWEITHIO DYNOL-CYFRIFIADUROL: FIT LAB

Mae Grŵp Ymchwil Cyfrifiadura sy'n Canolbwyntio ar Bobl Prifysgol Abertawe wedi'i leoli mewn cyfleusterau labordy, astudio a gwneuthurwr pwrpasol yn y Ffowndri Gyfrifiadurol. Fe'i sefydlwyd yn 2006 fel Labordy Technoleg Rhyngweithio'r Dyfodol (FIT Lab), ac mae wedi tyfu i gael ei gydnabod yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw yn y byd ar gyfer ymchwil Rhyngweithio rhwng Dynol-Chyfrifiaduron (HCI).

CYFRIFIADURA GWELEDOL A RHYNGWEITHIOL

Mae ein grŵp ymchwil Cyfrifiadura Gweledol yn gweithio ar amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd cyfrifiadura gweledol ers ei sefydlu ym 1992. Mae'r grŵp wedi tyfu i fod yn dîm o 12 o academyddion a mwy na 30 o ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil.

Mae'r grŵp Cyfrifiadura Gweledol wedi cyfrannu casgliad sylweddol o dechnegau newydd a darganfyddiadau pwysig ym meysydd delweddu data, golwg gyfrifiadurol, mwyngloddio data, deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, dadansoddeg weledol, gwyddor data, graffeg gyfrifiadurol, rhyngweithio a rhaglennu GPU.

CYFRIFIADUREG DAMCANIAETHOL

Mae Grŵp Theori Abertawe yn enwog yn rhyngwladol am ei ymchwil mewn Rhesymeg mewn Cyfrifiadureg. Mae meysydd ymchwil gweithredol yn cynnwys: Damcaniaeth Gyfrifiadurol, Cymhlethdod Cyfrifiadurol, Theori Prawf, Theori Math, Theori Gêm, Cydredeg, Deallusrwydd Artiffisial (Datrys Boddhad, Systemau Aml-asiant, Damcaniaeth Dadl, Dysgu Peiriannau, AI a'r Gyfraith), a Dulliau Ffurfiol (Seiberddiogelwch , Technoleg Blockchain, dilysu Systemau Rheoli Rheilffordd).

Addysg, Hanes ac Athroniaeth

Mae'r grŵp Addysg, Hanes ac Athroniaeth yn defnyddio dull cyfannol ac amlddisgyblaethol o ymdrin â chwestiynau o'r fath, gan ddod â gwybodaeth ynghyd mewn meysydd mor amrywiol â, e.e. rhesymeg fathemategol, theori cyfrifiant, peirianneg meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, hanes byd-eang a lleol, athroniaeth glasurol, athroniaeth gwyddoniaeth a thechnoleg, astudiaethau cymdeithasol a'r cyfryngau.

DILYSU RHEILFFORDD

Mae ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar ddatblygu, dilysu a phrofi ffurfiol o fodelau hybrid ar gyfer gwirio diogelwch System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop (ERTMS); ac ar adolygiad peirianneg meddalwedd empirig ac arfarniad economaidd ar gyfer defnyddio technegau dilysu awtomataidd wrth ddylunio rhaglenni Rhesymeg Ysgol ar gyfer cyd-gloi.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.