Delweddau o geir rhithwir yn cael eu dylunio

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cael ei weld yn aml fel offeryn i awtomeiddio tasgau a gwneud pobl yn ddiangen, ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn herio'r farn hon, gan ddangos y gall AI hefyd fod yn bartner creadigol sy'n cydweithio â ni ac yn ein hysbrydoli.

Mae tîm o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol wedi cynnal un o'r astudiaethau mwyaf hyd yn hyn o sut mae pobl yn cydweithredu ag AI mewn tasgau dylunio. Cymerodd mwy nag 800 o bobl ran mewn arbrawf ar-lein gan ddefnyddio system wedi'i phweru gan AI a gefnogodd ddefnyddwyr wrth iddynt ddylunio ceir rhithwir.

Yn wahanol i lawer o offer AI sy'n optimeiddio atebion y tu ôl i'r llenni, defnyddiodd y system hon dechneg o'r enw MAP-Elites i greu orielau dylunio gweledol amrywiol. Roedd yr orielau hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyluniadau ceir posib, gan gynnwys enghreifftiau perfformiad uchel, syniadau anarferol a rhai a oedd yn fwriadol amherffaith.

Esboniodd Dr Sean Walton, Cymrawd Turing, Athro Cyfrifiadureg a phrif awdur yr astudiaeth: "Mae pobl yn meddwl am AI yn aml fel rhywbeth sy'n cyflymu tasgau neu'n gwella effeithlonrwydd, ond mae ein canfyddiadau ni'n awgrymu rhywbeth llawer mwy diddorol. Pan ddangoswyd awgrymiadau dylunio a gynhyrchwyd gan AI i bobl, roedden nhw’n treulio mwy o amser ar y dasg, yn cynhyrchu dyluniadau gwell ac roedd eu ffocws yn well. Nid effeithlonrwydd oedd yr unig nod. Roedd hi'n ymwneud â chreadigrwydd a chydweithredu."

Un o ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn  ACM Transactions on Interactive Intelligent Systems, yw y gall ffyrdd traddodiadol o werthuso offer AI fod yn rhy gul. Nid yw metrigau, megis pa mor aml mae defnyddwyr yn clicio ar awgrymiadau neu yn eu copïo yn adlewyrchu dimensiynau emosiynol, gwybyddol ac ymddygiadol ymgysylltu. Mae'r tîm o Abertawe yn dadlau dros ddulliau gwerthuso mwy cyfannol sy'n ystyried sut mae systemau AI yn dylanwadu ar sut mae pobl yn teimlo, yn meddwl ac yn archwilio.

Ychwanegodd Dr Walton: "Mae ein hastudiaeth yn amlygu pwysigrwydd amrywiaeth mewn allbynnau AI. Roedd cyfranogwyr yn ymateb yn fwy cadarnhaol i orielau a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o syniadau, gan gynnwys rhai gwael! Roedd y rhain yn eu helpu i symud y tu hwnt i'w rhagdybiaethau cychwynnol ac archwilio gofod dylunio ehangach.Roedd yr amrywiaeth strwythuredig hon yn eu hatal rhag canolbwyntio ar un syniad yn rhy gynnar ac yn eu hannog i gymryd risgiau creadigol.

"Wrth i AI ddod yn elfen fwyfwy annatod o feysydd creadigol, o beirianneg a phensaernïaeth i gerddoriaeth a dylunio gemau, mae deall sut mae pobl a systemau deallus yn cydweithio'n hanfodol. Wrth i'r dechnoleg ddatblygu, yn lle gofyn beth gall AI ei wneud, mae'n rhaid i ni ofyn sut mae'n gallu ein helpu i feddwl, creu a chydweithio'n fwy effeithiol.”

Darllenwch From Metrics to Meaning: Time to Rethink Evaluation in Human–AI Collaborative Design yn llawn.

Rhagor o wybodaeth am Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori