Helpwch ni wrth inni gyfoethogi profiad y myfyrwyr, gan helpu unigolion dawnus i gyrraedd uchelfannau newydd.
Lansiodd Prifysgol Abertawe ei Strategaeth Entrepreneuriaeth Myfyrwyr gyntaf ym mis Tachwedd 2018 gyda'r genhadaeth o gefnogi'r HOLL fyfyrwyr i ddod yn raddedigion entrepreneuraidd ac arloesol, sy'n cyfrannu at gymdeithas a'r economi.
Gyda'ch cefnogaeth, gallwn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau mentergarwch a chael mynediad at gymorth ariannol i'w helpu i ddechrau eu busnes mewn amgylchedd diogel.