Hanes tîm Abertawe ar y trywydd i guro canser

Roedd yn awr buddugoliaeth bur. Mae'r Athro Paul Dyson yn gallu gweld y cyffro ar wyneb Dr Miranda Whitten o hyd, wrth iddi gerdded tuag ato gyda'r canlyniadau o'r labordy yn ei llaw: roedd wedi llwyddo.

Roeddent wedi creu modd atal cenhedlu mewn pryfed.

Efallai fod hyn yn swnio fel dyfais braidd yn anarferol, ond mae ganddi gymwysiadau anhygoel. Roedd Dyson a Whitten yn ymdrechu i atal ymlediad clefyd Chagas, sy'n endemig yn yr Americas. Gall beryglu bywyd ac mae wedi ymledu i bobl drwy'r hyn sy'n cael ei alw'n 'Bryfyn Cusanu' (sy'n enghraifft o gamenw heb os). Gan weithio gyda bacteria symbiotig - sef bacteria sy'n byw yn y pryfyn - nod yr ymchwilwyr oedd cyflwyno gwybodaeth a fyddai'n gwneud y Pryfyn Cusanu benywaidd yn ddiffrwyth i raddau helaeth.

Gwnaeth Dyson a'i dîm leihau perygl Chagas yn sylweddol â'u dull. Dyma'r newyddion roedd Whitten wedi dod i'w gyflwyno, gan afael yn y prawf a oedd mor anodd ei ddarganfod.

Mae Dyson yn gwenu: 'Roedd yn foment eureka.'

Byddai'r darganfyddiad hwn ei hun wedi bod yn ddigon i seilio gyrfa deilwng arno, ond nid dyna natur gwyddonydd. 'Dydych chi byth yn sefyll yn stond gydag ymchwil. Rydych chi bob amser yn edrych tuag at y cam nesaf,' meddai Dyson.

Ar ôl i Brifysgol Abertawe benderfynu rhoi patent ar y dechnoleg, awgrymodd swyddog trosglwyddo technoleg y dylai Dyson ei defnyddio ar gyfer rhywbeth 'ag effaith fwy'.

Arhosodd y geiriau hyn gydag ef. Nifer o fisoedd ar ôl hynny, byddai popeth ar waith. Roedd Dyson ar drên yn teithio'n ôl o Fryste, gan ddarllen cylchgrawn y New Scientist. Gwelodd erthygl a oedd yn rhagweld technolegau'r dyfodol: un o'r meysydd y soniwyd amdanynt oedd atal twf tiwmorau.

Yr Athro Paul Dyson a chydweithredwr Dr Lee Parry, Prifysgol Caerdydd.

Yr Athro Paul Dyson a chydweithredwr Dr Lee Parry, Prifysgol Caerdydd. Maent yn sefyll yn y labordy, yn gwisgo eu cotiau labordy Ymchwil Canser y DU.

Dyma ail foment eureka. Roedd Dyson yn meddwl: a oedd modd dod o hyd i facteria i gytrefu tiwmorau gan ddefnyddio'r un dechnoleg roedd wedi'i defnyddio mewn pryfed? 'Ysgrifennais i'r syniad ar bapur ac enillais grant gan Ymchwil Canser y DU i wneud y gwaith cychwynnol...roedd y canlyniadau'n gadarnhaol iawn.'

Dechreuodd ei dîm dreialon cyn-glinigol. Dywed Dyson: 'Roedd triciau eraill gennym ni.' Un o'r rhain oedd defnyddio bacteria i greu goleuni, er mwyn galluogi delweddu anfewnwthiol i fonitro'r bacteria a oedd yn cytrefu'r tiwmorau.

Mae'r canlyniadau wedi torri tir newydd. Gan ddefnyddio eu technoleg â phatent er mwyn cyflwyno bacteria sy'n bwydo ar y maetholion mewn celloedd canser, mae'r tîm wedi llwyddo i leihau'r tiwmorau ymhen ychydig wythnosau. Gyda rhagor o gyllid, gallai'r ymchwil hon ddarparu triniaethau gwell, mwyaf caredig ar gyfer canser. Byddai'r natur wedi'i thargedu yn golygu ymosod ar gelloedd canseraidd yn unig, gan adael i'r rhai iach fod. Mae'n driniaeth heb sgîl-effeithiau therapïau confensiynol megis cemotherapi.

Ond wrth gwrs, mae Dyson yn dal i chwilio am ei ddarganfyddiad mawr nesaf. Nawr mae'n mynd i'r afael â her fyd-eang ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae Dyson yn cynnal ymchwil i fathau o facteria sy'n gallu creu gwrthfiotigau, sy'n cynnig ateb bosibl i'r problemau gyda meddyginiaethau presennol sy'n cael eu gorddefnyddio.

Dros ddeng mlynedd ar hugain ar ôl ymuno â Phrifysgol Abertawe, mae Dyson yn dal i fod yr un mor uchelgeisiol, sy'n ei alluogi i barhau i newid y dirwedd ymchwil - a'r byd. Wrth gwrs, nid yw’n gwneud hyn ar ei ben ei hun: ei bartneriaeth â Whitten oedd sail rhai o weithiau mwyaf cyffrous ei yrfa. Yna, mae'r cydweithwyr gwerthfawr a phwysig eraill yn Abertawe. Efallai eu bod nhw wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae eu heffaith yn parhau. Hefyd, caiff ymchwil ei hwyluso gan gydweithrediadau gyda chydweithwyr yn lleol, megis yng Nghaerdydd, a mor bell â Lanzhou yn Tsieina. Dyma ymchwil fyd-eang ar ei gorau.

Beth nesaf i Dyson a'i dîm yn Abertawe? Mae'n cydnabod bod 'ennill cyllid ymchwil yn gystadleuol iawn'. 'Bydd unrhyw rodd yn mynd at achos da iawn.' Os bydd y cyllid yn ei ganiatáu, caiff triniaethau Dyson a'i dîm sy'n targedu tiwmorau eu cofio am fod yn drobwynt yn y ras i guro canser.