"Mae Abertawe wedi bod gymaint yn fwy na sefydliad academaidd yn unig i mi; mae wedi rhoi cartref, cymuned a theulu i mi. Dwi wrth fy modd yn cael aros yn y Brifysgol a dwi’n llawn gobaith am y dyfodol. Mae Prifysgol Abertawe wedi fy helpu i wireddu breuddwydion doeddwn i byth yn meddwl eu bod yn bosib."
Pan oedd Bronwen Winters, sy’n fyfyriwr Astudiaethau Americanaidd, yn mynd drwy gyfnod anodd, doedd dim rhaid iddi roi’r gorau i’w hastudiaethau diolch i Gronfa Caledi’r Brifysgol. Roedd Bronwen wedi goresgyn llawer o rwystrau i gyrraedd y Brifysgol. Ar ôl bod mewn gofal am y rhan fwyaf o’i bywyd a symud cartrefi dros 30 o weithiau, roedd hi’n wynebu trawma arall pan wrthododd ei banc gynnig gorddrafft iddi.
Diolch i gefnogaeth y tîm Bywyd Campws a’r Cronfeydd Caledi, llwyddodd Bronwen i sicrhau lle mewn llety diogel ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Meddai Bronwen:
“Gwnaeth yr arian a’r gefnogaeth fy ngalluogi i wneud llawer mwy yn fy mywyd nag roeddwn i’n disgwyl.”
Yn ogystal â gwrthod gadael i’r anawsterau ei llethu, daeth Bronwen yn llysgennad ar gyfer ymgyrch Ymestyn yn Ehangach – sefydliad sy’n helpu pobl ifanc o gefndiroedd llai traddodiadol i oresgyn rhwystrau. A hithau’n ymgyrchydd brwd, mae Bronwen hefyd wedi cymryd rhan yn ymgyrchoedd ffonio blynyddol y Brifysgol i godi arian ar gyfer myfyrwyr sy’n wynebu’r un heriau â hi. Ychwanegodd:
“Gwnaeth y gronfa achub fy nyfodol – taswn i wedi cael fy ngorfod i adael y Brifysgol, fyddai ddim wedi bod unrhyw ffordd yn ôl. Mae hyn yn gyfle i mi roi’n ôl mewn ffordd ystyrlon.”
Gwnaeth Bronwen yn rhagorol yn ei gradd Astudiaethau Americanaidd ac mae’n edrych ymlaen at ddechrau ei gradd Meistr mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym mis Medi. Yn anffodus, mae llawer o fyfyrwyr â straeon tebyg i un Bronwen, ac mae 700 o fyfyrwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn cyflwyno cais i’r Gronfa Caledi. Gallant helpu i ddarparu cymorth ar gyfer pethau fel bwyd, biliau, llyfrau, offer, llety a gofal plant. Gwerthfawrogir pob cyfraniad a bydd yn darparu cymorth ariannol hanfodol i bobl fel Bronwen.