Llaw rhywun yn dal darn o gerdyn brown gyda symbol ailgylchu gwyrdd arno

Diweddaru'r Biniau Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwaith yn dechrau'r mis hwn i ddiweddaru'r rhwydwaith o finiau gwastraff ac ailgylchu allanol ar Gampws y Bae.

Mae Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu'r Brifysgol, Fiona Wheatley, wedi sicrhau Grant gwerth £50,680.46 gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru  i gynyddu nifer y biniau yn yr awyr agored, gan gynnwys newid mwy nag 20 o finiau pedrwbl ar Gampws y Bae.

Ym mis Mehefin, bydd gwaith pellach yn dechrau ar y ddau gampws i wella argaeledd cyfleusterau ailgylchu o amgylch ffiniau'r campws. Yn ogystal, caiff 25 o finiau ailgylchu cwpanau coffi newydd eu gosod ar bob campws, i baratoi ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.

Mae Fiona yn angerddol am ailgylchu a chwaraeodd rôl ganolog wrth ennill Dyfarniad Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon i’r Brifysgol yn ôl ym mis Medi. Meddai:

"Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi sicrhau'r cyllid hwn ar ran y Brifysgol. Mae lleihau gwastraff yn gydran allweddol o'n Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd. Yma yn y Brifysgol, rydym ni'n weddol dda am ailgylchu. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei wneud, ond gall pawb wneud yn well. Mae ein gweithredoedd unigol oll yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth mawr. Wrth reswm, mae cynnig y cyfleusterau cywir ar y campws yn ei gwneud hi'n haws i bawb ailgylchu ac mae hynny'n allweddol, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ein cefnogi yn ein hymgyrch i fod yn un o'r prifysgolion gorau o ran ailgylchu."

Yn ogystal, mae'r cyllid wedi galluogi Fiona a'r tîm i ganolbwyntio eu hymdrechion ar y defnydd o blastigion untro mewn labordai. Mae cynyddu swm y plastigion labordy untro sy'n cael ei gasglu yn uchel ar agenda rheoli gwastraff y Tîm Cynaliadwyedd eleni, a bydd dau wasanaeth ailgylchu plastig labordy newydd ar gyfer plastig PP5 a pholystyren Ps06, ynghyd â byrnwr polystyren newydd i drin pecynnu a ddefnyddir yn ein labordai, yn cryfhau ein hymdrechion i ailgylchu deunyddiau labordy'n fawr iawn.

Mae rhagor o wybodaeth am reoli gwastraff yn Abertawe ar gael yma.

Rhannu'r stori