Rydyn ni’n archwilio silffoedd iâ yr Antarctig i ddeall eu sefydlogrwydd yn y dy

Ice rift from the air

Yr Her

Bydd ymateb i newid yn yr hinsawdd y llenni iâ mawr yn effeithio ar filiynau o bobl mewn cymunedau arfordirol wrth i lefel y môr godi. Yn yr ymchwil hon, byddwn yn archwilio rôl yr ysgafellau iâ - yr estyniadau arnofiol o rewlifoedd o amgylch Antarctica - drwy ddal yn ôl yr iâ ar y tir, ac yn ceisio deall sut bydd hyn yn newid gyda chynhesu cefnforoedd ac atmosfferig.

Y Dull

Gan ddefnyddio delweddu lloeren, geoffiseg maes a modelu cyfrifiadurol, mae aelodau o grŵp rhewlifeg Prifysgol Abertawe gan gynnwys yr Athrawon Adrian Luckman a Bernd Kulessa a Dr Steph Cornford wedi bod yn ymchwilio i Rewlifoedd yr Antartig am dros ddegawd a'u sefydlogrwydd yn y dyfodol. Gan ganolbwyntio ar ysgafell iâ Larsen C, maent wedi gwella ein dealltwriaeth o strwythur a deinameg yr ysgafell iâ ac maent wedi bod yn monitro holltau a thoriadau a allai arwain at golli iâ. Gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau dynodedig, maent wedi ymgysylltu â'r cyfryngau a'r cyhoedd i amlygu prosesau a newidiadau yn systemau'r ysgafellau iâ hyn.

Larsen C Iceshelf

Cyflymiad iceberg Mehefin 2017

Cyflymiad iceberg Mehefin 2017

Cyflymiad iceberg Mehefin 2017

Cyflymiad iceberg Mehefin 2017

Yr Effaith

Y grŵp o Abertawe oedd y cyntaf i ragfynegi ymrannu mynydd iâ A-68 o ysgafell iâ Larsen C, ac ym mis Gorffennaf 2017 y cyntaf i gyhoeddi ei ymraniad.  Drwy eu cyfranogiad yn y cyfryngau a phostiadau ar y wefan, roedd digon o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ystod y broses hollti a nododd arolwg ar-lein a oedd yn cynnwys dros 1500 o bobl fod ymwybyddiaeth o wyddoniaeth begynol wedi gwella. 

Grŵp Ymchwil

Grŵp Ymchwil Rhewlifeg Abertawe

Grŵp Ymchwil Rhewlifeg Abertawe
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
CLimate change UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe