Mae ymagwedd gytbwys, gymesur, sy'n seiliedig ar risg Prifysgol Abertawe at sicrhau a gwella ansawdd yn seiliedig ar Gôd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac yn cyd-fynd yn llawn â Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau y DU a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch Astudiaeth achos: Rheoli Rhaglenni a Phortffolios ym Mhrifysgol Abertawe, fel enghraifft o ymagwedd lwyddiannus, ymatebol, sydd wedi'i chyfeirio gan ddata at reoli ei phortffolio academaidd. Mae'r Brifysgol hefyd wedi derbyn pum cymeradwyaeth gan y broses Adolygu Gwella Ansawdd ym mis Tachwedd 202 (adroddiad llawn a chynllun gweithredu: Adroddiad Canlyniadau, Rhagfyr 2020, Cynllun Gweithredu Adroddiad Adolygiad Gwella Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2020), a gafodd ei groesawu wrth ddilysu ymagwedd Prifysgol Abertawe at reoli ansawdd a safonau yn enwedig yn ystod y pandemig. Caiff rheoliadau a strwythur llywodraethu, ansawdd a safonau Prifysgol Abertawe eu rheoli drwy Bwyllgor Addysg y Brifysgol a'i is-bwyllgorau a byrddau cysylltiedig, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol a’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.

Mae'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd hefyd yn datblygu ac yn rheoli ystod o ganllawiau ac adnoddau ar gyfer myfyrwyr a staff, gan gynnwys: