Polisi Adborth Modiwlau
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Cyflwyniad
1.1 Diben
1.1.1
Mae ethos Adborth Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wrth wraidd llwyddiant y sefydliad mewn perthynas â'r Cyfadrannau Academaidd a'r Gwasanaethau Proffesiynol ac mae'n ymrwymiad allweddol yng Nghynllun Strategol y Brifysgol dan Ymrwymiad 03: Byddwn yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein myfyrwyr fel partneriaid.
1.1.2
Mae'r Strategaeth Ymgysylltu â Myfyrwyr wedi nodi rôl adborth myfyrwyr yn y bartneriaeth ac ymgysylltu â myfyrwyr a'i ddiben allweddol fel ffordd o wella. Yn benodol, mae'r strategaeth yn cyfeirio at gynyddu ymgysylltiad ag adborth modiwlau i staff a myfyrwyr:
Egwyddor Dau: Ymgysylltu â Myfyrwyr a Pherchnogaeth Staff
• Cefnogi'r rhaglen adborth ar fodiwlau yn llawn, gan sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cyfranogi yn y broses, yng nghanol ac ar ddiwedd modiwlau.
Egwyddor Tri: Cynnwys Myfyrwyr mewn Prosesau Sicrhau a Gwella Ansawdd Academaidd
• Ceisio cynyddu cyfranogiad drwy adborth ar fodiwlau, arolygon myfyrwyr a chyfleoedd eraill am adborth ac ymgysylltu, gan sicrhau eu bod yn cynnig cyfleoedd cynhwysol i'r holl fyfyrwyr gyfranogi.
• Sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn adborth arserol a phriodol i'w hatebion i arolygon adborth ar fodiwlau a'r holl arolygon a systemau adborth megis Unitu.
1.1.3
Mae'r diwylliant o weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr wedi'i nodi fel ymrwymiad canmlwyddiant yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2019-2024 y Brifysgol sy'n dweud: "byddwn yn parhau i weithio gyda'n myfyrwyr i ddarparu’r profiad gorau iddynt, gan gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr".
1.1.4
Mae cyngor ac arweiniad Côd Ansawdd y DU o ran ymgysylltiad myfyrwyr yn nodi
disgwyliad ar gyfer ansawdd y "gall myfyrwyr ddarparu adborth, gweithio'n gydweithredol gyda staff a rhanddeilaiid eraill wrth iddynt ystyried adborth a dangosyddion ansawdd eraill a chymryd rôl cyd-lunwyr y cwricwlwm. Bydd y gweithgareddau hyn yn cyfrannu at adolygiadau achlysurol o lunio a chymeradwyo cyrsiau effeithiol a chydnabyddiaeth addysgu o safon." Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd adborth myfyrwyr a rôl myfyrwyr wrth ddefnyddio'r adborth hwn, yn ogystal â rôl staff fel a amlinellwyd yn y cyngor a'r arweiniad ar gyfer dysgu ac addysgu: 'Darperir ymateb i adborth myfyrwyr a/neu cymerir camau arno er mwyn gwella ansawdd y dysgu a'r addysgu'.
1.1.5
Mae'r Brifysgol yn darparu 2 fath o adborth modiwlau:
• Adborth diwedd modiwl: diben hwn yw derbyn adborth gan fyfyrwyr mewn perthynas â'r modiwl cyfan ac amlygu meysydd o arfer da a meysydd i’w gwella. Mae'r arolwg hwn yn canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr o'r modiwl.
• Adborth hyblyg ar fodiwl: diben hwn yw cael adborth gan fyfyrwyr yn ystod y modiwl er mwyn gallu rhoi gwelliannau ar waith a chau'r ddolen adborth gyda myfyrwyr mewn modd amserol. Mae'r arolwg hwn yn canolbwyntio ar asesu dealltwriaeth a dysgu ein myfyrwyr.
1.2 Cwmpas
1.2.1
Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag adborth modiwlau a dderbynnir yn fewnol ym Mhrifysgol Abertawe'n unig. Nid yw'n berthnasol i arolygon eraill y Brifysgol, gan gynnwys Arolygon Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) neu Arolygon Profiad Myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
1.2.2
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Abertawe sy'n casglu adborth ar fodiwlau.
1.3 Egwyddorion
1.3.1
Mae adborth myfyrwyr yn hanfodol er mwyn darparu gwybodaeth o lygad y ffynnon i'r Brifysgol pan ddaw i brofiad myfyrwyr, gan gynnwys adborth academaidd ac allgyrsiol gan fyfyrwyr. Caiff adborth myfyrwyr ei ddefnyddio at ddiben gwella ar lefel modiwl, rhaglen neu Gyfadran, yn ogystal â gwella darpariaeth a swyddogaeth ein Gwasanaethau Proffesiynol.
1.3.2
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i annog a defnyddio adborth myfyrwyr ac felly disgwylir y bydd pob modiwl ar draws y Brifysgol yn casglu adborth modiwlau, gan gynnwys adborth yng nghanol modiwl ac ar ddiwedd modiwl. Bydd y Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn gweithio gyda Chyfadrannau ac yn eu cefnogi i sicrhau bod hyblygrwydd mewn adborth modiwlau a fydd yn diwallu anghenion patrymau addysgu amrywiol.
1.3.3
Bydd ymatebion mewn adborth ac arolygon gan fyfyrwyr yn aros yn ddienw a bydd yn cydymffurfio â Datganiad Preifatrwydd Myfyrwyr y Brifysgol mewn perthynas â phrosesu ac ymdrin â data.
1.3.4
Darperir cyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth ar bob lefel astudio, ar draws yr holl Gyfadrannau. Mae arolygon yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r cylch adborth myfyrwyr yn Abertawe, ac maent yn ei gwneud hi'n bosib i fyfyrwyr ddarparu adborth ar bob lefel astudio, gan gynnwys ar lefel modiwl a rhaglen yn ogystal â'r Gwasanaethau Proffesiynol.
1.3.5
Caiff myfyrwyr eu hatgoffa i gwblhau'r arolwg gan ddefnyddio iaith gadarnhaol. Mae Siarter Myfyrwyr y Brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr drin holl aelodau o gymuned y Brifysgol mewn ffordd gwrtais a pharchus. Mae ymatebion i'r arolwg yn ddienw - ni chaiff enwau na rhifau myfyrwyr eu hatodi i'r ymatebion. Fodd bynnag, os ystyrir bod ymateb myfyriwr i arolwg yn disgyn islaw'r safonau disgwyliedig hyn, caiff anhysbysrwydd yr ymateb arolwg hwnnw ei dynnu a chaiff camau priodol eu cymryd yn erbyn y myfyriwr hwnnw.
1.3.6
Dylid adrodd am gynnwys amhriodol mewn adborth ar fodiwl i’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu priodol i ddechrau, a fydd yn troi at y Tîm Adborth Modiwl sy’n gallu uwchgyfeirio’r cynnwys amhriodol i gymryd camau arno. Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd yn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar sail natur y cynnwys.
1.3.7
Isod, ceir tabl sy’n amlinellu’r cyfleoedd i roi adborth a gynhelir yn ganolog i fyfyrwyr ar bob lefel astudio:
LEFEL ADBORTH MYFYRWYR | AROLYGON | BOD YN RHAN O BROSESAU ANSAWDD | PRESENOLDEB MEWN BYRDDAU A PHWYLLGORAU |
---|---|---|---|
MODIWL | Adborth ar Fodiwlau | Adolygiad Blynyddol Modiwlau | Byrddau Astudio |
RHAGLEN |
Arolwg Eich Profiad Arolygon Cenedlaethol o Fyfyrwyr Arolwg Profiad Myfyrwyr Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil |
Adolygiad Blynyddol Modiwlau Adolygiad Blynyddol Rhaglenni Adolygu Ansawdd |
|
CYFADRAN |
Fforwm Staff a Myfyrwyr Byrddau Astudio Perthnasol Pwyllgorau Cyfadrannau/Ysgolion |
||
PRIFYSGOL |
Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr |
1.4 Diffiniadau
TYMOR | DIFFINIAD |
---|---|
Modiwl | Uned â chredydau mewn rhaglen astudio. |
Adborth ar fodiwlau | Y broses lle darperir cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu hastudiaethau a staff darlithio. |
Adborth diwedd modiwl | Y broses lle gall myfyrwyr roi adborth ar eu modiwlau ar ddiwedd cyfnod dysgu’r modiwl. |
Adborth yng nghanol y modiwl | Y broses lle gall myfyrwyr roi adborth ar eu modiwlau yn ystod cyfnod dysgu’r modiwl, gan ei gwneud hi’n bosib gwneud gwelliannau prydlon i’r modiwl. |
Data meintiol | Y data a gesglir drwy gwestiynau ar raddfa neu gwestiynau un ateb yn yr arolwg adborth modiwlau |
Data ansoddol | Y data a gesglir drwy gwestiynau testun rhydd yn yr adborth modiwlau arolwg |
ADP | Adolygiad Datblygiad Proffesiynol: Cyfle i bob cydweithiwr a’i reolwr llinell adlewyrchu ar yr hyn a gyflawnwyd dros y 12 mis diwethaf ac i edrych tua’r dyfodol a gwneud cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
DPA | Dangosydd Perfformiad Allweddol: metrig a ddefnyddir i fesur perfformiad |
3. Polisi Adborth Modiwlau
3.1 Cam Paratoi
3.1.1
Mae’r Catalog o Fodiwlau yn darparu’r data sy’n nodi pa aelodau staff a myfyrwyr sy’n gysylltiedig â modiwl penodol. Mae hyn yn rhoi gwybod pwy sy’n derbyn yr arolygon adborth modiwl, pa aelodau o staff sydd wedi’u cynnwys yn y cwestiynau am ddarlithwyr penodol a phwy sy’n derbyn yr adroddiadau pan fydd yr arolwg wedi cau.
3.1.2
Cyfrifoldeb y Gyfadran yw sicrhau bod y Catalog o Fodiwlau’n cael ei ddiweddaru. Os na fydd y catalog o fodiwlau’n gywir, gellir cysylltu aelodau anghywir o staff â’r arolwg adborth modiwlau ac adroddiadau cysylltiedig.
3.1.3
Os na fydd Cyfadran wedi diweddaru’r wybodaeth berthnasol yn y Catalog o Fodiwlau cyn agor a chau arolwg, NI CHAIFF yr arolwg ei ail-greu os na fydd yn anghywir.
3.1.4
Os caiff adroddiad am adborth modiwl ei anfon at yr unigolyn anghywir, gellir hysbysu’r Tîm Cyfreithiol rhag ofn bod torri data yn unol â chanllawiau GDPR.
3.1.5
Bydd y Tîm Adborth Modiwlau yn cysylltu â phob Cyfadran cyn pob cylch o adborth modiwlau er mwyn sicrhau eu bod nhw am gynnal arolygon yn yr holl fodiwlau a ddarperir ac i atgoffa’r Cyfadrannau i ddiweddaru’r Catalog o Fodiwlau.
3.1.6
NID oes gan y Tîm Adborth Myfyrwyr yr hawl i ddiweddaru unrhyw wybodaeth yn y Catalog o Fodiwlau.
3.1.7
Mae’r Tîm Adborth Modiwlau yn argymell y dylai cydlynwyr modiwlau drefnu sesiynau adborth yn eu sesiynau addysgu a amserlennir i annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y broses o roi adborth ar fodiwlau. Gellir cefnogi hyn drwy ddefnyddio Porth Cyfranogi EvaMetrics sy’n gallu rhoi cyfraddau ymateb byw ynghyd â delweddau i annog myfyrwyr i ymateb.
3.2 Cam yr Arolwg
3.2.1
Mae adborth diwedd y modiwl yn cynnwys 3 phrif ran: Craidd, Darlithwyr a Thestun Rhydd. Ceir amlinelliad llawn o’r cwestiynau yn ATODIAD 1.
3.2.2
At ddibenion yr Adolygiad Datblygiad Personol (PDR), caiff y cwestiynau canlynol eu defnyddio fel metrigau ar gyfer DPAau ar gyfer y
broses dyrchafu:
• DPA 01: Mae adborth ar fy ngwaith wedi fy helpu i wella fy nysgu
• DPA 02: At ei gilydd, rwy’n fodlon ar ansawdd y modiwl
• DPA 03: Yn gyffredinol, rwy'n fodlon ar fy mhrofiad o addysgu'r darlithydd hwn ary modiwl
3.2.3
Gellir dosbarthu arolygon adborth modiwlau i fyfyrwyr yn ystod y cyfnodau canlynol:
BA1 | BA2 | |
---|---|---|
Adborth ar ddiwedd modiwl | Wythnos 9 ymlaen | Wythnos 8/9 ymlaen |
3.2.4
Gall myfyrwyr gyrchu’r holl arolygon adborth modiwlau byw drwy’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir.
3.2.5
Gall y Porth Cyfranogi EvaSys+ gefnogi staff wrth ennyn cyfranogiad eu myfyrwyr yn y broses rhoi adborth ar fodiwl. Gellir defnyddio’r porth i hysbysu myfyrwyr drwy e-bost fod yr arolwg yn fyw. Caiff yr e-bost hwn ei anfon at fyfyrwyr NAD YDYNT wedi cwblhau eu harolwg adborth modiwl eto a gellir ei anfon sawl tro i annog y rhai nad ydynt yn ymateb i wneud hynny.
3.2.6
Mae’r Tîm Adborth Myfyrwyr yn cynghori yn erbyn agor arolygon adborth ar fodiwlau i garfannau o fyfyrwyr tra y byddant yn sefyll eu harholiadau. Byddai hyn yn rhoi pwysau diangen ar fyfyrwyr sydd eisoes dan straen ar adeg brysur o’r flwyddyn academaidd.
3.2.7
Y targed sefydliadol ar gyfer cyfradd ymateb ar gyfer adborth ar ddiwedd modiwl yw 25%.
3.2.8
Mae cyfraddau ymateb a chanlyniadau ar gael drwy gydol cyfnod yr arolwg drwy'r Borth Cyfranogi EvaSys+. Os nad ydych chi’n gallu cyrchu’r porth, e-bostiwch modulefeedback@abertawe.ac.uk sy’n gallu rhoi'r wybodaeth ofynnol i chi
3.2.9
Mae’r Tîm Adborth Modiwlau yn cynghori yn erbyn agor arolygon adborth modiwlau i garfannau o fyfyrwyr tra y byddant yn sefyll eu harholiadau.Byddai hyn yn rhoi pwysau diangen ar fyfyrwyr sydd eisoes dan straen ar adeg brysur o’r flwyddyn academaidd.
3.2.10
Y targed sefydliadol ar gyfer cyfradd ymateb ar gyfer adborth yn ystod modiwl ac ar ddiwedd modiwl yw 25%.
3.2.11
Mae cyfraddau ymateb a chanlyniadau ar gael drwy gydol cyfnod yr arolwg drwy Borth Cyfranogi EvaMetrics. Os nad ydych chi’n gallu cyrchu’r porth, e-bostiwch modulefeedback@abertawe.ac.uk sy’n gallu rhoi'r wybodaeth ofynnol i chi.
3.3 Y Cam Dadansoddi
3.3.1
Caiff canlyniadau ar gyfer adborth yn ystod modiwlau ac ar ddiwedd modiwlau eu darparu mewn adroddiadau PDF sy’n cael eu creu’n awtomatig yn EvaSys.
3.3.2
Bydd Cydlynwyr Modiwlau’n gallu cyrchu adroddiadau canlyniadau drwy gydol cyfnod yr arolwg drwy'r Borth Cyfranogi EvaSys+. Caiff yr adroddiadau hyn eu hanfon hefyd mewn fformat PDF.
3.3.3
Caiff yr adroddiadau hyn eu hanfon drwy e-bost pan fydd arolwg wedi cau, at yr aelod o staff darlithio a enwyd yn y modiwl pan gafodd ei greu. Bydd Cydlynydd y Modiwl yn derbyn adroddiadau gan yr holl staff darlithio ar y modiwl. Bydd darlithwyr yn derbyn y data sy’n berthnasol iddyn nhw’n unig. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cyrchu data ar gael yn y tabl Rolau a Chyfrifoldebau isod.
3.3.4
Does dim trothwy cyhoeddi ar gyfer ymatebion myfyrwyr ac felly byddwch chi’n derbyn yr holl ddata ansoddol a meintiol.
3.3.5
Ni chaiff sylwadau testun rhydd eu golygu gan y Tîm Adborth Modiwlau ac felly dylid ymdrin â hwy’n ofalus gan Gyfadrannau er mwyn osgoi rhannu’r sylwadau neu beryglu anhysbysrwydd myfyrwyr.
3.4 Cyfrifiadau
3.4.1
Caiff yr holl ddata ansoddol ei dalgrynnu i un lle degol.
3.4.2
Darperir canlyniadau cwestiynau Craidd fel cyfartaledd ar draws yr holl ymatebion ar gyfer y modiwl hwnnw.
3.4.3
Darperir canlyniadau cwestiynau Darlithwyr fel cyfartaledd ar draws yr holl ymatebion ar gyfer yr aelod penodol o staff hwnnw.
3.4.4
Darperir ymatebion Testun Rhydd i Gydlynwyr Modiwl yn llawn.
3.4.5
Mae amlinelliad llawn o gyfrifiadau ar gyfer adroddiadau Adborth Myfyrwyr yn ATODIAD 2.
3.5 Y Cam Cyfathrebu
3.5.1
Datblygwyd cynllun cyfathrebu ar gyfer adborth modiwlau, sydd yn ATODIAD 4.
3.5.2
Dylid rhannu canlyniadau adborth modiwlau â myfyrwyr gan Gyfadrannau er mwyn cau'r cylch adborth. Dylai hyn gynnwys ymatebion i unrhyw adborth sydd wedi arwain at gamau gweithredu, gan gynnwys unrhyw weithredoedd neu geisiadau a godwyd gan fyfyrwyr nad oes modd eu cyflawni.
3.5.3
Gall staff gau'r cylch adborth gyda'u myfyrwyr drwy'r Porth Cyfranogi EvaMetrics. Mae gan y Porth offeryn adfyfyriol sy'n darparu cwestiynau procio i staff y gellir eu hanfon drwy e-bost at fyfyrwyr o fewn carfan modiwl.
3.5.4
Mae Porth Cyfranogi EvaMetrics hefyd yn darparu offeryn ar gyfer darparu myfyrdodau ar adborth myfyrwyr i weddill tîm addysgu'r modiwl, gan amlinellu gweithredoedd a myfyrdodau eto gan ddefnyddio set o gwestiynau procio.
3.5.5
Mae'r defnydd o ddata adborth myfyrwyr a'i ddosbarthu'n gyfyngedig i ddibenion gwella'r brifysgol. Caiff y data adborth modiwlau eu rhannu â'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd i'w defnyddio fel rhan o'r broses adolygu modiwlau a rhaglenni. Yn ogystal, caiff y data ei rannu ag Adnoddau Dynol a'r Gwasanaethau Digidol i'w ddefnyddio yn y broses ADP.
3.5.6
Gellir defnyddio data a thueddiadau ansoddol adborth modiwlau at ddibenion allanol, os cânt eu defnyddio fel ffynhonnell data mewnol. Ni ellir defnyddio sylwadau testun rhydd fel dyfyniadau uniongyrchol at ddibenion allanol. Gellir dim ond eu defnyddio fel crynodeb o adborth myfyrwyr.
3.5.7
Os oes camgymeriadau yn y data ADP mewn perthynas ag Adborth Modiwl, bydd yn rhaid i staff e-bostio modulefeedback@abertawe.ac.uk gyda manylion adborth y modiwl. Sylwer y gellir dim ond addasu data adborth modiwlau am y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
4. Rolau, Cyfrifoldebau a Mynediad at Ddata
SYLWER: ni chaiff unrhyw ddata crai ei ddarparu i UNRHYW aelod o staff yn y Brifysgol ac eithrio MIS at ddibenion ADP.
RÔL | CYFRIFOLDEB | I DDERBYN: |
---|---|---|
MYFYRIWR | • Cael eu hannog i gwblhau arolygon adborth modiwlau. • Darparu ymatebion onest a chywir a pheidio â chynnwys unrhyw iaith ddifenwol mewn ymatebion. |
• diweddariadau gan staff ynghylch newidiadau a chamau gweithredu yn sgîl eu hadborth. • ‘Newidion Ni Gyda'n Gilydd’ negeseuon sy'n dilyn adborth ar fodiwlau. |
CYNRYCHIOLWYR MYFYRWYR | • Hyrwyddo cwblhau arolygon adborth modiwlau ymhlith y carfannau cysylltiedig. | |
DARLITHYDD | • Annog myfyrwyr i gwblhau'r arolygon adborth modiwlau. • Rhoi adborth i fyfyrwyr ynghylch canlyniadau adborth modiwlau a gwelliannau cysylltiedig. • Rhoi adborth i fyfyrwyr drwy negeseuon ‘Newidion Ni Gyda'n Gilydd’ lle bo'n berthnasol. |
• Adroddiadau ar gyfer eu modiwlau perthnasol sy'n cynnwys canlyniadau cwestiynau eu darlithydd nhw'n unig. |
CYDLYNYDD MODIWL | • Annog darlithwyr modiwlau i gymryd rhan yn y broses adborth ar fodiwlau. • Rhoi adborth i fyfyrwyr ynghylch canlyniadau adborth modiwlau a gwelliannau cysylltiedig. • Rhoi adborth i fyfyrwyr drwy negeseuon ‘Newidion Ni Gyda'n Gilydd’ lle bo'n berthnasol. • Rhannu adroddiadau â Chyfarwyddwyr Rhaglenni perthnasol fel y cytunwyd yn y Gyfadran benodol. |
• Adroddiadau llawn ar gyfer adborth yn ystod modiwl ac ar ddiwedd modiwl. |
CYSYLLTIADAU ADBORTH MODIWL Y GYFADRAN |
• Gwirio bod y catalog o fodiwlau'n gyfoes ac yn gywir. Newidiadau i'w gwneud gan y person perthnasol yn y Gyfadran. • Ymgysylltu â darlithwyr a chydlynwyr modiwlau i gadarnhau'r amseroedd gorau i drefnu arolygon. • Annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y broses adborth modiwlau drwy gyfathrebiadau sy'n benodol i'r Gyfadran. • Ymgysylltu â'r Tîm Adborth Modiwlau i gadarnhau pa fodiwlau y bydd angen arolygon adborth modiwlau ar eu cyfer. • Ymgysylltu â'r Tîm Adborth Modiwlau ynghylch unrhyw faterion neu ymholiadau a allai godi. |
• Adroddiadau fel y cytunwyd arnynt gan y Gyfadran unigol. |
CYFARWYDDWR Y RHAGLEN / CYFARWYDDWYR PORTFFOLIO
|
• Annog darlithwyr modiwlau i gymryd rhan yn y broses adborth ar fodiwlau. • Defnyddio data adborth modiwlau i sicrhau bod ansawdd addysgu a gwelliannau perthnasol ar waith ar lefel rhaglen. |
• Adroddiadau fel y cytunwyd arnynt gan y Gyfadran unigol. |
PENNAETH YR ADRAN | • Defnyddio data adborth modiwlau i sicrhau bod ansawdd addysgu a gwelliannau perthnasol ar waith. | • Adroddiadau llawn, ar gais y Gyfadran. |
UWCH-DÎM DYSGU AC ADDYSGU YN Y GYFADRAN/YSGOL | • Defnyddio data adborth modiwlau i sicrhau bod ansawdd addysgu a gwelliannau perthnasol ar waith. | • Adroddiadau trosolwg ar gyfer canlyniadau'r holl adborth ar fodiwlau ar gyfer y Gyfadran, yr Ysgol neu’r Adran berthnasol ar gyfer adborth diwedd modiwlau |
Y TÎM GWASANAETHAU PARTNERIAETH AC YMGYSYLLTU Â MYFYRWYR |
• Ymgysylltu â Chyfadrannau i sicrhau y caiff gwybodaeth berthnasol ei darparu i greu'r arolygon adborth modiwlau. |
|
UNDEB Y MYFYRWYR |
• Hyrwyddo cwblhau arolygon adborth modiwlau drwy system Cynrychiolaeth Myfyrwyr. |
|
GWASANAETHAU ANSAWDD ACADEMAIDD |
• Dadansoddi data adborth modiwlau sy'n gysylltiedig ag adolygiadau modiwl penodol. |
|
ADNODDAU DYNOL A GWASANAETHAU DIGIDOL |
• Cynnwys data adborth modiwlau yn y broses Adolygiad Datblygiad Proffesiynol i hyrwyddo staff academaidd. |
• Data ar gyfer adrannau 'Eich Data' a 'DPA' eich ADP. |
DATA ACADEMAIDD A SYSTEMAU | • Cynnal y Catalog o Fodiwlau sy'n sicrhau bod y system yn ei gwneud hi'n bosib gallu gwneud diweddariadau rheolaidd gan Gyfadrannau. | |
UWCH-REOLWYR | • Annog staff academaidd a Chyfadrannau i gymryd rhan yn y broses adborth ar fodiwlau. | • Adroddiad trosolwg o ganlyniadau adborth modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd. |
RÔL | CWESTIYNAU CRAIDD | CWESTIYNAU AM Y DARLITHYDD | CWESTIYNAU TESTUN RHYDD | TROSOLWG O'R HOLL GWESTIYNAU | ADBORTH YN YSTOD MODIWLAU DATA |
---|---|---|---|---|---|
MYFYRIWR | |||||
CYNRYCHIOLWYR MYFYRWYR | |||||
DARLITHYDD | √ | √ | |||
CYDLYNYDD MODIWL | √ | √ | √ | √ | |
CYSYLLTIADAU ADBORTH MODIWLAU CYFADRAN | √ | √ | √ | ||
CYFARWYDDWR Y RHAGLEN / CYFARWYDDWYR PORTFFOLIO | √ | √ | √ | ||
PENNAETH YR ADRAN | |||||
UWCH-DÎM DYSGU AC ADDYSGU’R GYFADRAN/YSGOL |
√ | √ | √ | √ | |
TÎM GWASANAETHAU PARTNERIAETH AC YMGYSYLLTU Â MYFYRWYR | √ | √ | √ | √ | √ |
UNDEB Y MYFYRWYR | |||||
GWASANAETHAU ANSAWDD ACADEMAIDD | √ | ||||
ADNODDAU DYNOL | √ | √ | |||
GWASANAETHAU DIGIDOL | √ | √ | |||
DATA A SYSTEMAU ACADEMAIDD | |||||
UWCH-REOLWYR | √ |
Atodiad 1
Cwestiynau Adborth Diwedd y Modiwl
MATH | |
---|---|
CRAIDD |
Cafodd cynnwys y modiwl, gan gynnwys ar-lein ac ar y campws, ei gyflwyno mewn ffordd afaelgar |
Gwnaeth Canvas ac adnoddau ar-lein eraill ar gyfer y modiwl hwn gefnogi fy nysgu’n effeithiol (e.e. rhestrau darllen, llyfrau a chyfnodolion, cwestiynau a gweithgareddau, recordiadau o ddarlithoedd) | |
Dangosydd Perfformiad Allweddol 01 Gwnaeth adborth ar fy ngwaith helpu i wella fy nysgu (e.e. adborth ysgrifenedig ar aseiniadau, adborth ar lafar yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau un i un, adborth cyffredinol) | |
Cynigiodd y modiwl lefel briodol o her ddeallusol | |
Gwnaeth rhyngweithio â myfyrwyr eraill helpu i gefnogi fy nysgu (e.e. sesiynau wedi'u hamserlenni, trafodaethau ar-lein, grwpiau astudio, sesiynau un i un, gwaith grŵp) | |
Roedd cymorth priodol ar gael i mi drwy gydol y modiwl | |
Dangosydd Perfformiad Allweddol 02 Ar y cyfan, rwyf yn fodlon ar ansawdd y modiwl | |
DARLITHYDD | Dangosydd Perfformiad Allweddol 03 Ar y cyfan, rwyf yn fodlon ar fy mhrofiad o gael fy addysgu gan y darlithydd hwn ar y modiwl |
TESTUN RHYDD | Nodwch yr agwedd ar y modiwl a gafodd yr effaith fwyaf ar eich dysgu |
Rhowch unrhyw sylwadau pellach sy'n ymwneud â'r modiwl gan gynnwys adborth cadarnhaol ac adborth adeiladol |
Atodiad 2
Adroddiad Enghreifftiol a Chyfrifiadau’r Darlithydd/Adroddiad Cydlynydd y Modiwl
Allwedd y diffiniadau:
- n = nifer yr ymatebion gan fyfyrwyr
- av. = cymedr ymatebion myfyriwr
- dev. = gwyriad safonol: i ba raddau mae'r ymatebion yn amrywio o'r cymedr
- ab. = ymataliadau: bydd unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn ateb cwestiwn graddfa neu'n dewis 'Ddim yn berthnasol' yn cael eu tynnu o'r cyfrifiadau. Bydd y rhif ab hwn yn galluogi staff i weld faint o ymatebion a dynnwyd.
- md. = canolrif yr holl ymatebion: y gwerth canol
Bydd cwestiynau adborth diwedd modiwl yn defnyddio'r raddfa ganlynol:
1 = Anghytuno'n gryf
2 - Yn anghytuno ar y cyfan
3 - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
4 - Yn cytuno ar y cyfan
5 - Cytuno’n gryf Ddim yn berthnasol
Atodiad 3 – Cynllun Cyfathrebu
Digwyddiad | Diben/Neges Allweddol | Cynulleidfa/Rhanddeiliad | Dyddiad/Amlder | Modd cyfathrebu | Bod yn gyfrifol am gyfathrebu | Awdurdod i ryddhau cyfathrebiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
Paratoi arolwg a gwirio data |
Nodyn atgoffa i Gyfadrannau ddiweddaru'r catalog o fodiwlau Nodyn atgoffa i Gyfadrannau gadarnhau'r holl fodiwlau cymwys |
Cysylltiadau adborth ar fodiwlau allweddol ym mhob Cyfadran | Unwaith cyn i bob cylch llunio arolygon ddechrau ar gyfer adborth ar ddiwedd modiwl | E-bost sy'n cynnwys taenlen o fodiwlau byw o'r Catalog o Fodiwlau | Tîm Adborth Myfyrwyr | Tîm Adborth Myfyrwyr |
Arolygon yn agor | Hysbysu myfyrwyr bod adborth y modiwl ar agor ar gyfer eu cwblhau drwy Canvas |
Myfyrwyr Myfyriwr Cynrychiolwyr |
Unwaith ar ddechrau pob
|
E-bostio gyda dolen i
|
Adborth Myfyrwyr Tîm |
Adborth Myfyrwyr Tîm |
Arolygon yn agor | Hysbysu staff bod yr arolygon adborth modiwlau ar agor ac i staff hyrwyddo'r arolygon i'w myfyrwyr | Cydlynwyr modiwlau, cysylltiadau adborth modiwlau allweddol, darlithwyr | Unwaith ar ddechrau pob cylch adborth ar fodiwlau | E-bost | Tîm Adborth Myfyrwyr | Tîm Adborth Myfyrwyr |
Arolygon yn agor | Y gyfadran i hyrwyddo i fyfyrwyr er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn arolygon adborth ar fodiwlau | Timau Gweinyddol Canolog y Gyfadran Arweinwyr Ymgysylltu â Myfyrwyr, Cydlynwyr Modiwlau | Bydd yn amrywio yn unol â Chyfathrebiadau'r Gyfadran; gellir eu cynnal drwy gydol cyfnod y ffenest adborth ar fodiwlau | E-bost Wyneb yn wyneb mewn darlithoedd Cyhoeddiadau ar Canvas |
Cyfadrannau | Cyfadrannau |
Arolygon yn cau | Hysbysu staff bod yr arolwg wedi cau ynghyd â'u hadroddiad am ganlyniadau |
Cydlynwyr Modiwlau, darlithwyr | Unwaith ar ddiwedd pob cylch adborth ar fodiwlau | E-bost awtomatig gan EvaSys gyda ffeil PDF wedi'i hatodi | Y Tîm Adborth Modiwlau i ryddhau adroddiadau | Tîm Adborth Myfyrwyr |
Adroddiadau am Ganlyniadau | Darparu'r adroddiad perthnasol am ganlyniadau i staff ar ffurf PDF | Cydlynwyr Modiwlau, darlithwyr | Unwaith ar ddiwedd pob cylch adborth ar fodiwlau | E-bost awtomatig gan EvaSys gyda ffeil PDF wedi'i hatodi | Y Tîm Adborth Modiwlau i ryddhau adroddiadau | Tîm Adborth Myfyrwyr |
Data datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu trosglwyddo i Gwasanaethau Digidol | Rhoi'r data angenrheidiol i reolwyr llinell er mwyn cael sgyrsiau gwell. | AD Gwasanaethau Digidol | Gorffennaf - Awst | E-bost a gyriant cyfyngedig a rennir | Tîm Adborth Myfyrwyr | Tîm Adborth Myfyrwyr |