Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg

Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg

Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd

Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i achosion o gamymddygiad academaidd.

Argymhellion Tywydd Garw

Mae'r argymhellion yn cynnwys cyngor ar arholiadau, addysgu, lleoliadau gwaith a gwaith cwrs y gall amodau tywydd garw effeithio arnynt. Mae'n esbonio y ceir yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar hafan y Brifysgol yn ystod amodau tywydd garw.

Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth

Nod y polisi hwn yw gwella effeithiolrwydd dulliau asesu, marcio ac adborth i staff a myfyrwyr drwy bennu egwyddorion clir a phendant sy'n arwain ymarfer.

Asesu yn Gymraeg/mewn Iaith Arall

Canllawiau ar asesu neu arholi yn Gymraeg neu mewn iaith arall ar wahân i'r iaith addysgu

Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau

Nod y polisi hwn yw gwella’r wybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr, cefnogi cydweithwyr wrth gyflwyno darpariaethau addysgu a darparu sylfaen ar gyfer datblygu dysgu ar-lein a chyfunol.

Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnolegau Digidol

Nod y polisi hwn yw helpu i sicrhau bod Technoleg Ddigidol y Brifysgol yn cael ei defnyddio'n rhydd ond yn ddiogel, yn gyfreithlon, yn deg ac yn ystyrlon o eraill.

Gweithdrefnau Disgyblu

Mae'r Gweithdrefnau hyn yn pennu'r camau gweithredu a gymerir os ceir honiad o dramgwydd disgyblu a'r cosbau y gellir eu rhoi

Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir

Mae'r polisi hwn yn esbonio bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i fonitro cyfranogiad myfyrwyr mewn addysgu ac i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad. Gall y gwaith monitro hefyd nodi myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. 

Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil

Mae'r polisi hwn yn esbonio bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i fonitro cyfranogiad myfyrwyr mewn addysgu ac i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad. Gall y gwaith monitro hefyd nodi myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. 

Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)

Mae'r polisi hwn yn esbonio ei bod hi'n ofynnol i Brifysgol Abertawe fonitro cyfranogiad ei holl fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), yn unol â rheoliadau Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) yn ogystal â'r rheolau mewnfudo sy'n rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig.  Mae'r polisi a’r gweithdrefnau monitro cyfranogiad ar waith a byddant yn cynorthwyo myfyrwyr wrth ddiogelu eu statws mewnfudo.

Cyflogaeth - Israddedigion

Mae hyn yn nodi canllawiau'r Brifysgol ar gyfer cyflogi myfyrwyr israddedig amser llawn.

Cyflogaeth - Ôl-raddedigion a addysgir

Mae hyn yn nodi canllawiau'r Brifysgol ar gyfer cyflogi myfyrwyr ôl-raddedig amser llawn.

Ymddygiad Cyffredinol

Mae'r datganiad hwn yn esbonio rhwymedigaethau myfyrwyr o ran eu hymddygiad

Polisi Cadw Cyrsiau'r Amgylchedd Dysgu

Mae'r polisi hwn yn amlinellu cadw a gwaredu data'r amgylchedd dysgu.

Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys

Mae'r polisi hwn yn nodi sefyllfa'r Brifysgol ar recordio darlithoedd, gweithgareddau dysgu fesul grŵp a chynnwys arall.

 

Polisi Adborth Modiwlau

Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag adborth modiwlau a addysgir yn fewnol ym Mhrifysgol Abertawe

Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau

Mae'r fframwaith hwn yn esbonio pwysigrwydd diweddaru data modiwlau a'r broses o ddiweddaru modiwlau drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Polisi ar y System Mentora Academaidd Personol

Mae'rpolisi hwn yn esbonio'r system mentora academaidd personol.

Polisi ar gyfer Arholiadau/Asesiadau a Oruchwylir Ar-lein

Nod y polisi hwn yw egluro rolau a chyfrifoldebau Cyfadrannau/Ysgolion a myfyrwyr o ran darparu arholiadau/asesiadau wedi'u goruchwylio ar-lein yn y Brifysgol.

Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol

Mae'r polisi ar amgylchiadau esgusodol yn berthnasol i holl fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dilyn rhaglenni a addysgir neu elfen hyfforddi graddau ymchwil, er mwyn ystyried amgylchiadau esgusodol o ran yr holl asesiadau a addysgir. Mae gan y polisi ddau nod: sicrhau bod myfyrwyr sydd â hawl ddilys o ran amgylchiadau esgusodol yn cael eu trin yn deg ac yn gyson; a diogelu safon dyfarniadau’r Brifysgol.

Polisi ar Ddosbarthu Tystysgrifau Dyfarniad

Mae'r polisi hwn yn esbonio sut a phryd bydd tystysgrifau dyfarniad yn cael eu rhoi a sut i gael copïau o'r tystysgrifau.

Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid

Mae'r polisi Arsylwi gan Gymheiriaid yn esbonio'r arfer o arsylwi gan gymheiriaid ym Mhrifysgol Abertawe gydag ymagweddau lleol ar lefel Ysgol.

Polisi ar Gyhoeddi Marciau Myfyrwyr

Mae'r polisi'n esbonio y gall marciau dros dro gael eu haddasu nes iddynt gael eu cyflwyno i Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol a'r Arholwr Allanol er mwyn cadarnhau'r marciau.

Polisi Prawf-ddarllen

Mae'r polisi hwn yn nodi sefyllfa'r Brifysgol o ran prawf-ddarllen, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu gan drydydd parti, o ran gwaith cwrs (traethodau, adroddiadau, traethodau estynedig etc.) sy'n cael ei gyflwyno i’w asesu mewn rhaglenni a addysgir (israddedig ac ôl-raddedig a addysgir).

Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Mae'r polisi hwn yn nodi ymagwedd y Brifysgol at gefnogi myfyrwyr anabl ac yn ffurfioli'r meysydd cyfrifoldeb.

Cytundeb Perthynas rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae'r Cytundeb Perthynas rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi'i fwriadu i danategu'r berthynas waith ardderchog rhwng partneriaid y cytundeb hwn.

Polisi Goruchwylio Myfyrwyr Meistr Ôl-Raddedig a Addysgir

Mae'r polisi'n rhoi cyngor ac arweiniad i staff a myfyrwyr gyda'r nod o hwyluso creu safon dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n briodol ar gyfer gradd Meistr a Addysgir 

Siarter Myfyrwyr

Nod y Siarter yw esbonio'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol, sut i wella profiad y myfyrwyr a helpu myfyrwyr i gyrchu amrywiaeth o wybodaeth i'w helpu drwy gydol eu hastudiaethau.

Polisi Astudio Dramor

Mae'r polisi astudio dramor yn esbonio'r canlynol: cymeradwyo cytundebau cyfnewid myfyrwyr newydd, trosglwyddo credydau a chydnabyddiaeth, monitro gwaith gwerthuso ac adolygu lleoliadau gwaith ac adnewyddu lleoliadau gwaith.