Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd
Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i achosion o gamymddygiad academaidd. |
Argymhellion Tywydd Garw
Mae'r argymhellion yn cynnwys cyngor ar arholiadau, addysgu, lleoliadau gwaith a gwaith cwrs y gall amodau tywydd garw effeithio arnynt. Mae'n esbonio y ceir yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar hafan y Brifysgol yn ystod amodau tywydd garw. |
Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth
Nod y polisi hwn yw gwella effeithiolrwydd dulliau asesu, marcio ac adborth i staff a myfyrwyr drwy bennu egwyddorion clir a phendant sy'n arwain ymarfer. |
Asesu yn Gymraeg/mewn Iaith Arall
Canllawiau ar asesu neu arholi yn Gymraeg neu mewn iaith arall ar wahân i'r iaith addysgu |
Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
Nod y polisi hwn yw gwella’r wybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr, cefnogi cydweithwyr wrth gyflwyno darpariaethau addysgu a darparu sylfaen ar gyfer datblygu dysgu ar-lein a chyfunol. |
Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Digidol
Nod y polisi hwn yw helpu i sicrhau bod Technoleg Ddigidol y Brifysgol yn cael ei defnyddio'n rhydd ond yn ddiogel, yn gyfreithlon, yn deg ac yn ystyrlon o eraill. |
Gweithdrefnau Disgyblu
Mae'r Gweithdrefnau hyn yn pennu'r camau gweithredu a gymerir os ceir honiad o dramgwydd disgyblu a'r cosbau y gellir eu rhoi |
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir
Mae'r polisi hwn yn esbonio bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i fonitro cyfranogiad myfyrwyr mewn addysgu ac i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad. Gall y gwaith monitro hefyd nodi myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. |
Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
Mae'r polisi hwn yn esbonio bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i fonitro cyfranogiad myfyrwyr mewn addysgu ac i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad. Gall y gwaith monitro hefyd nodi myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. |
Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)
Mae'r polisi hwn yn esbonio ei bod hi'n ofynnol i Brifysgol Abertawe fonitro cyfranogiad ei holl fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), yn unol â rheoliadau Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) yn ogystal â'r rheolau mewnfudo sy'n rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig. Mae'r polisi a’r gweithdrefnau monitro cyfranogiad ar waith a byddant yn cynorthwyo myfyrwyr wrth ddiogelu eu statws mewnfudo. |
Cyflogaeth - Israddedigion
Mae hyn yn nodi canllawiau'r Brifysgol ar gyfer cyflogi myfyrwyr israddedig amser llawn. |
Cyflogaeth - Ôl-raddedigion a addysgir
Mae hyn yn nodi canllawiau'r Brifysgol ar gyfer cyflogi myfyrwyr ôl-raddedig amser llawn. |
Ymddygiad Cyffredinol
Mae'r datganiad hwn yn esbonio rhwymedigaethau myfyrwyr o ran eu hymddygiad |
Polisi Cadw Cyrsiau'r Amgylchedd Dysgu
Mae'r polisi hwn yn amlinellu cadw a gwaredu data'r amgylchedd dysgu. |
Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys
Mae'r polisi hwn yn nodi sefyllfa'r Brifysgol ar recordio darlithoedd, gweithgareddau dysgu fesul grŵp a chynnwys arall. |
Polisi Adborth Modiwlau
Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag adborth modiwlau a addysgir yn fewnol ym Mhrifysgol Abertawe |
Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
Mae'r fframwaith hwn yn esbonio pwysigrwydd diweddaru data modiwlau a'r broses o ddiweddaru modiwlau drwy gydol y flwyddyn academaidd. |
Polisi ar y System Tiwtora Personol
Mae'rpolisi hwn yn esbonio'r system tiwtora personol. |
Polisi ar gyfer Arholiadau/Asesiadau a Oruchwylir Ar-lein
Nod y polisi hwn yw egluro rolau a chyfrifoldebau Cyfadrannau/Ysgolion a myfyrwyr o ran darparu arholiadau/asesiadau wedi'u goruchwylio ar-lein yn y Brifysgol. |
Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
Nod y polisi hwn yw meithrin amgylchedd dwyieithog a chynnal hawliau myfyrwyr, staff a'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. |
Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol
Mae'r polisi ar amgylchiadau esgusodol yn berthnasol i holl fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dilyn rhaglenni a addysgir neu elfen hyfforddi graddau ymchwil, er mwyn ystyried amgylchiadau esgusodol o ran yr holl asesiadau a addysgir. Mae gan y polisi ddau nod: sicrhau bod myfyrwyr sydd â hawl ddilys o ran amgylchiadau esgusodol yn cael eu trin yn deg ac yn gyson; a diogelu safon dyfarniadau’r Brifysgol. |
Polisi ar Ddosbarthu Tystysgrifau Dyfarniad
Mae'r polisi hwn yn esbonio sut a phryd bydd tystysgrifau dyfarniad yn cael eu rhoi a sut i gael copïau o'r tystysgrifau. |
Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
Mae'r polisi Arsylwi gan Gymheiriaid yn esbonio'r arfer o arsylwi gan gymheiriaid ym Mhrifysgol Abertawe gydag ymagweddau lleol ar lefel Ysgol. |
Polisi ar Gyhoeddi Marciau Myfyrwyr
Mae'r polisi'n esbonio y gall marciau dros dro gael eu haddasu nes iddynt gael eu cyflwyno i Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol a'r Arholwr Allanol er mwyn cadarnhau'r marciau. |
Polisi Prawf-ddarllen
Mae'r polisi hwn yn nodi sefyllfa'r Brifysgol o ran prawf-ddarllen, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu gan drydydd parti, o ran gwaith cwrs (traethodau, adroddiadau, traethodau estynedig etc.) sy'n cael ei gyflwyno i’w asesu mewn rhaglenni a addysgir (israddedig ac ôl-raddedig a addysgir). |
Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu
Mae'r polisi hwn yn nodi ymagwedd y Brifysgol at gefnogi myfyrwyr anabl ac yn ffurfioli'r meysydd cyfrifoldeb. |
Cytundeb Perthynas rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Mae'r Cytundeb Perthynas rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi'i fwriadu i danategu'r berthynas waith ardderchog rhwng partneriaid y cytundeb hwn. |
Polisi Goruchwylio Myfyrwyr Meistr Ôl-Raddedig a Addysgir
Mae'r polisi'n rhoi cyngor ac arweiniad i staff a myfyrwyr gyda'r nod o hwyluso creu safon dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n briodol ar gyfer gradd Meistr a Addysgir |
Siarter Myfyrwyr
Nod y Siarter yw esbonio'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol, sut i wella profiad y myfyrwyr a helpu myfyrwyr i gyrchu amrywiaeth o wybodaeth i'w helpu drwy gydol eu hastudiaethau. |
Polisi Astudio Dramor
Mae'r polisi astudio dramor yn esbonio'r canlynol: cymeradwyo cytundebau cyfnewid myfyrwyr newydd, trosglwyddo credydau a chydnabyddiaeth, monitro gwaith gwerthuso ac adolygu lleoliadau gwaith ac adnewyddu lleoliadau gwaith. |