Llety addas i chi
Gallwn gynnig:
- Ystafelloedd gwely, ceginau ac ystafelloedd ymolchi wedi eu haddasu
- Ystafelloedd i ofalwyr
- Wardeniaid Lles (myfyrwyr profiadol sy’n byw yn llety’r Brifysgol, yno i’ch helpu chi)
- Cynorthwywyr Bywyd Preswyl (staff profiadol sydd yno i helpu gyda materion llety sy'n cynnwys cyd-breswylwyr, cynnig clust i wrando heb feirniadu etc)
- Llety tawel a di-alcohol
- Ffôn yn yr ystafell
- Gwasanaeth teleofal (cyswllt ffôn 24 awr rhwng eich ystafell chi a chanolfan fonitro)
- Larymau tân sy’n fflachio
- Ysgogwyr personol, synwyryddion cwympo ac epilepsi i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd yn gyflym
- Cyfleusterau ar gyfer cŵn cymorth
- Llety i deuluoedd yn Nhŷ Beck
- Llety i fenywod yn unig
- Llety i siaradwyr Cymraeg yn unig
- Llety sy'n cynnwys lleoedd parcio am ddim a thocyn bws am ddim ym Mhentref y Myfyrwyr
- Llety ar gampws drwy gydol eich amser yn y brifysgol, yn hytrach na'r flwyddyn gyntaf yn unig