Gall myfyrwyr gael mynediad at y Gwasanaeth Lles ac Anabledd heb dystiolaeth feddygol, ond bydd darparu tystiolaeth yn ein galluogi i roi'r cymorth mwyaf priodol ar waith.

Tystiolaeth Ddefnyddiol: 

Adroddiadau ac asesiadau diagnostig

Adroddiad asesiad diagnostig llawn a gynhelir gan:

  • Ymarferwyr Seicoleg sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), neu
  • athrawon arbenigol sy'n meddu ar Dystysgrif Ymarfer Cyfredol mewn Asesu Anawsterau Dysgu Penodol (ADP) - dylai'r adroddiad gynnwys rhif y dystysgrif a'r corff cyhoeddi

Anableddau a chyflyrau hirdymor

Llythyron gan feddygon teulu, meddygon, ymgynghorwyr ac ysbytai sy'n cadarnhau:

  • Diagnosis/diagnosis dros dro neu ddisgrifiad o’r anawsterau
  • Hyd neu'r dyddiad y dechreuodd y cyflwr
  • Effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd a/neu allu i astudio

Cyflwyno cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)?

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r DU sy'n bwriadu cyflwyno cais am y DSA, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i'ch corff cyllido hefyd. Mae gan gyrff cyllido ffurflenni tystiolaeth feddygol penodol yn aml, a byddem yn eich cynghori i ddefnyddio'r rhain lle bynnag y bo modd i sicrhau nad yw eich cais yn cael ei oedi.

Dylid ysgrifennu pob dogfen yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydyn nhw mewn iaith arall mae angen eu cyfieithu i'r Gymraeg neu'r Saesneg. Dylid gwneud hyn drwy wasanaethau cyfieithu ardystiedig.