2019 yw canmlwyddiant Save the Children ac i nodi’r achlysur, trefnwyd cystadleuaeth ysgrifennu creadigol i ysgolion cynradd ardal Bae Abertawe. Trefnwyd hyn mewn cydweithrediad â DylanED, llinyn addysgol Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.
Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth: Un i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 ac un i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6.
- Blwyddyn 3 a 4: Gofynnwyd i ddisgyblion ysgrifennu paragraff, neu gerdd neu ddeialog, gyda llun a ddarluniwyd â llaw yn seiliedig ar gymeriad maent wedi darllen amdano.
- Blynyddoedd 5 a 6:Gofynnwyd iddynt greu darn o ysgrifennu dychmygol yn seiliedig ar themâu “Gobeithion a Breuddwydion” neu “Y Byd Naturiol” neu “Y Gofod”,. Roedd modd darlunio llun i gyd-fynd â’r rhain hefyd. Roedd yn bosib ysgrifennu’r cynigion â llaw neu ddefnyddio prosesydd geiriau yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobrau gwych, a gânt eu cyflwyno gan awdur gwadd mewn Cinio Llenyddol ym mis Tachwedd 2019 yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe. Bydd pob ysgol a gymerodd ran yn derbyn tystysgrif a bydd un grŵp blwyddyn o un ysgol lwcus iawn yn ennill taith i Bluestone. Bydd yr ysgol â’r cynigion gorau yn gyffredinol hefyd yn derbyn gwobr.
Roedd ein panel beirniadu o fri yn cynnwys ein prif feirniad Roy Noble OBE, darlledwr radio a theledu y BBC; Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe a Swyddog Gweithredol Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas; Sharon Jones, Pennaeth yr uned Cymorth Cwricwlaidd yng Nghyngor Dinas Abertawe ac Ymgynghorydd Llenyddol Ysgolion; ac Eurgain Haf, awdur Llyfrau Cymraeg i Blant a Rheolwr Cyfathrebu (Cymru) Achub y Plant.