‘Fy Hoff Leoedd ac Ardaloedd’

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas eleni, a ddethlir ar 14 Mai bob blwyddyn, gwahoddodd DylanED ysgolion cynradd o ledled de Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.

Seiliwyd y gystadleuaeth, o’r teitl ‘Fy Hoff Leoedd ac Ardaloedd’ ar Reminiscences of Childhood – atgofion clasurol Dylan Thomas o olygfeydd a seiniau o’i blentyndod.

Gan ddilyn yn olion traed ysgrifennwr a storïwr mwyaf blaenllaw Abertawe, gofynnodd y gystadleuaeth i ddisgyblion rhwng 8 ac 11 oed gyflwyno stori fer (100 o eiriau), cerdd neu lun o’u hoff leoedd ac ardaloedd. 

Cynhaliwyd cyfres o weithdai hwyl ac ymgysylltiol mewn rhai o’r ysgolion a gymerodd ran.  Bu’r gynulleidfa wrth eu bodd yn gwylio’r actor proffesiynol, Mark Montinaro, yn dod â straeon o atgofion ac anturiaethau Dylan o’i blentyndod yn fyw. Dilynwyd hyn gan y bardd a’r awdur Mab Jones, a sbardunodd ddychymyg y disgyblion ymhellach trwy gyfres wych o gemau geiriau dyfeisgar ac ymarferion rhyngweithiol a arweiniodd at ddisgyblion yn amlinellu ac yn llunio drafftiau o’u ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth.

Cyflwynodd bron 800 o ddisgyblion amrywiaeth eang o geisiadau gwych gan ystod o ysgolion ledled de Cymru. Rhoddwyd y dasg anodd iawn o ddewis enillwyr eleni i’r beirniaid!

Meddai prif feirniad y gystadleuaeth, Mab Jones: Rydym wedi dewis Darcy fel yr enillydd cyffredinol am ei bod wedi cyfuno darluniadau ac ysgrifennu creadigol mewn ffordd brydferth ac unigryw iawn. Bu’n anodd iawn i ni gwtogi’r ceisiadau o’r nifer aruthrol o geisiadau o safon uchel a dderbyniwyd i wyth enillydd yn unig, ond bu’r holl feirniaid yn gytûn bod cais Darcy wedi amlygu ei hun o’r cychwyn cyntaf o ganlyniad i’w unigrwydd prydferth. Llongyfarchiadau i bob un a gymerodd ran!

Edrychwch ar enillwyr eleni a'u ceisiadau buddugol isod.