Rho Ni i Stori Pennawd

2019 yw canmlwyddiant Save the Children ac i nodi’r achlysur, trefnwyd cystadleuaeth ysgrifennu creadigol i ysgolion cynradd ardal Bae Abertawe. Trefnwyd hyn mewn cydweithrediad â DylanED, llinyn addysgol Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.

Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth: 
Un i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 ac un i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6.

  • Blwyddyn 3 a 4:  Gofynnwyd i ddisgyblion ysgrifennu paragraff, neu gerdd neu ddeialog, gyda llun a ddarluniwyd â llaw yn seiliedig ar gymeriad maent wedi darllen amdano.
  • Blynyddoedd 5 a 6:Gofynnwyd iddynt greu darn o ysgrifennu dychmygol yn seiliedig ar themâu Gobeithion a Breuddwydion” neu Y Byd Naturiol” neu Y Gofod”,. Roedd modd darlunio llun i gyd-fynd â’r rhain hefyd. Roedd yn bosib ysgrifennu’r cynigion â llaw neu ddefnyddio prosesydd geiriau yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobrau gwych, a gânt eu cyflwyno gan awdur gwadd mewn Cinio Llenyddol ym mis Tachwedd 2019 yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe. Bydd pob ysgol a gymerodd ran yn derbyn tystysgrif a bydd un grŵp blwyddyn o un ysgol lwcus iawn yn ennill taith i Bluestone. Bydd yr ysgol â’r cynigion gorau yn gyffredinol hefyd yn derbyn gwobr.

Roedd ein panel beirniadu o fri yn cynnwys ein prif feirniad Roy Noble OBE, darlledwr radio a theledu y BBC; Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe a Swyddog Gweithredol Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas; Sharon Jones, Pennaeth yr uned Cymorth Cwricwlaidd yng Nghyngor Dinas Abertawe ac Ymgynghorydd Llenyddol Ysgolion; ac Eurgain Haf, awdur Llyfrau Cymraeg i Blant a Rheolwr Cyfathrebu (Cymru) Achub y Plant.

Enillwyr

Gwobrau Arbennig

1. Yr Ysgol Orau'n Gyffredinol ac enillydd y gweithdy drama - rhoddwyd gan ACTS (Arts Collaboration Training and Support).

Ysgol Gynradd Ynys Fach, Resolven

Rhoddwyd enwau'r holl ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth mewn het i ddosbarthu'r holl wobrau eraill.


2. Llyfr fflicio digidol yn cynnwys holl geisiadau'r ysgol ar gyfer 'Rho Stori i ni', rhoddwyd gan Crunch Simply Digital SA1 

Ysgol Gynradd yr Hafod


3. Gwobr Bluestone - taith i Ganolfan Gwyliau Bluestone ar gyfer grŵp o 30 o blant i weld y Pantomeim Nadolig. Darperir cludiant.

Ysgol Gynradd Christchurch

4. Diwrnod o Weithdai Cerddoriaeth Samba, rhoddwyd gan Hannah a Patrick King o Children's Musical Adventures.

Ysgol Gynradd Blaengwarch

Anfonir manylion am yr holl wobrau at yr ysgolion buddugol yn fuan.

Bydd yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth yn derbyn tystysgrif.