Cystadleuaeth Adolygu Llyfr 2018

Ar 10 Mai, cyhoeddwyd enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfrau DylanED ar gyfer 2018. Gwnaeth disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau o bob cwr o Abertawe, yn ogystal ag israddedigion o Brifysgol Abertawe, gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2018, gan lunio adolygiadau huawdl, ystyriol a theimladwy o’r llyfrau ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ar gyfer 2018.

DylanED Book Review Winners 2018

Y bobl fuddugol oedd Georgia Fearn o Goleg Gŵyr; Maddy Davies o Ysgol y Preseli; Bethan David o Fryn Tawe; a Nina Peric o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt. Enillwyr cystadleuaeth israddedigion Prifysgol Abertawe oedd Polly Manning a Nathan Phillips.

Yn y llun (l-r): Georgia Fearn (Gower College); Nina Peric (Bishopston Comprehensive); Kayo Chingonyi; Polly Manning, (Prifysgol Abertawe); Gwendoline Riley; Maddy Davies (Ysgol Y Preseli); Carmen Maria Machado; Bethan David (Ysgol Bryn Tawe); gyda Hannah Ellis.

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Creu Taliesin, Prifysgol Abertawe, casglodd yr enillwyr eu tlysau a chopi o’r chwe llyfr ar y rhestr fer gan Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, a ddywedodd, ‘Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i bobl ifanc Abertawe arddangos rhai adolygiadau o lyfrau a oedd wedi’u hysgrifennu’n ardderchog. Mewn ychydig o baragraffau byr, gwnaethant ddangos nid yn unig pa mor sylwgar ac ystyriol oeddent, ond hefyd eu bod yn ysgrifenwyr rhagorol. Gwerthfawrogwyd eu geiriau ystyriol yn fawr a chawsant eu canmol gan yr awduron ar y rhestr fer.’

Ariannwyd y digwyddiad gan Gyngor Abertawe, ac roedd yr Arglwydd Faer a’r Arglwydd Faeres yn bresennol.

Dywedodd Dr Elaine Canning, Cyfarwyddwr a Swyddog Gweithredol y Wobr: ‘Roeddem yn falch iawn â safon y ceisiadau a gawsom, a llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr teilwng. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r llinyn addysgol pwysig hwn o weithgareddau’r Wobr ymhellach, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn mynd â DylanED, ynghyd â mentrau newydd eraill, i gymoedd Abertawe yn yr hydref, diolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Mae gennym lawer mwy o leisiau creadigol ifanc i ddod o hyd iddynt.’

Yn y gystadleuaeth i ysgolion a cholegau (pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed), cipiwyd y wobr gyntaf gan; Georgia Fearn o Goleg Gŵyr am ei hadolygiad o My Absolute Darling gan Gabriel Tallent. Nododd Georgia, ‘nid nofel dyfod i oed arferol mo hon. Mae’n holi a allwn fyth ddianc o blentyndod trawmatig’.

Cipiwyd yr ail wobr gan Maddy Davies Ysgol Y Preseli am ei hadolygiad o Her Body and Other Parties gan Carmen Maria Machado. Nododd Maddy, ‘nid yw’r casgliad hwn o storïau i’r gwangalon!’

Cafodd dau gais ganmoliaeth uchel hefyd.

Bethan David o Fryn Tawe  am ei hadolygiad o First Love gan Gwendoline Riley. Dywedodd Bethan ei bod wedi’i ‘tharo gan y tywalltiad clinigol ei naws gan Neve o ran pa mor wenwynig oedd ei pherthynas’. Nina Peric o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt am ei hadolygiad o’s First Love gan Gwendoline Riley. Disgrifiodd Nina allu Riley i gipio calon y darllenydd a deffro pob math o emosiynau: hapusrwydd, tristwch, dicter a llawenydd.

Yn y gystadleuaeth i israddedigion Prifysgol Abertawe, cyflwynwyd y ceisiadau buddugol gan Polly Manning am ei hadolygiad o Her Body and Other Parties gan Carmen Maria Machado; a Nathan Phillips am ei adolygiad o First Love. (Yn anffodus, nid oedd Nathan yn gallu mynychu’r digwyddiad.)