Cystadleuaeth Adolygu Llyfr 2023

Ar 11 Mai, cyhoeddwyd enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfrau DylanED ar gyfer 2023. Gwnaeth disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau o bob cwr o Abertawe, yn ogystal ag israddedigion o Brifysgol Abertawe, gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2023, gan lunio adolygiadau huawdl, ystyriol a theimladwy o’r llyfrau ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ar gyfer 2023.

Y bobl fuddugol oedd Carys King a Rachel Smith o Goleg Gŵyr; Elleena Sibichen o Ysgol Uwchradd Caerdydd; Iola Raison o Ysgol y Pant; a Izzie Costello o Ysgol Bro Preseli. 

Casglodd yr enillwyr eu tlws a chopi o'r chwe llyfr ar y rhestr fer gan yr awduron ar y rhestr fer a oedd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo.

DylanED book review winners 2023Yn y llun (l-r): Sheena Patel, Carys King (Coleg Gŵyr Abertawe); Arinze Ifeakandu, Rachel Smith (Coleg Gŵyr Abertawe), Izzie Costello (Ysgol Bro Preseli); Warsan Shire; Iola Raison (Ysgol y Pant) a Saba Sams

Y Cofnodion Buddugol