Cystadleuaeth Ysgolion Cynradd 2018

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, gwahoddodd DylanED ddisgyblion ysgolion cynradd rhwng 8 ac 11 oed yn ardal Bae Abertawe i gymryd rhan mewn cystadleuaeth greadigol hwyl ac ymgysylltiol.

Mae'r gystadleuaeth - Fy Atgofion o'r Gwyliau -  yn seiliedig ar raglen radio Dylan Thomas o 1946, Holiday Memory - atgof Dylan Thomas o olygfeydd a seiniau gwyliau banc heulog gyda'i deulu ar flaendraeth bywiog Abertawe pan oedd yn fachgen bach. 

Gan ddilyn yn olion troed Dylan Thomas, fel rhan o'r gystadleuaeth bu'n rhaid i ddisgyblion gyflwyno stori fer, cerdd neu lun yn portreadu eu hatgofion anwylaf o wyliau. 

Rhoddwyd mewnwelediad cyfareddol i stori'r ysgrifennwr o Abertawe i'r ysgolion a gymerodd ran, gan roi syniad o sut beth oedd bod yn blentyn ar lan y môr yn y 1920au trwy berfformiadau animeiddiedig o'r darn gan yr actor Mark Montinaro a gweithdai'n seiliedig ar eiriau gyda Chydlynydd Diwrnod Dylan a'r bardd Mab Jones. Mae'n debyg bod y sesiynau hyn wedi rhoi'r ysbrydoliaeth berffaith!

Meddai Prif Feirniad y gystadleuaeth, Mab Jones, 'Derbyniwyd cannoedd o gynigion ac roedd aelodau eraill y panel beirniadu a minnau'n llawn edmygedd o'r ffordd yr aeth plant o'n hysgolion lleol ati i gymryd rhan yn y gweithgaredd a darlunio eu hatgofion o wyliau mewn ffordd mor fywiog. Er ein bod wedi cael amser gwych yn darllen straeon gwyliau llawn hiwmor a chael ein synnu gan y darluniadau prydferth, lliwgar, rhoddwyd tasg galed i ni o ran dewis grŵp o enillwyr!' 

DylanED 'My Holiday Memories competition winners 2018'

Enillwyr eleni yw:

Ysgol Gynradd Waunarlwydd
Lowri Burns
Caerwyn Richards
Matthew James
Nicole Mort

Ysgol Gymunedol Gors
Aleena Khurram
Libby Wittey

Enillydd cyffredinol y gystadleuaeth yw Nia Jones, 10 oed, o Ysgol Gynradd Waunarlwydd y llwyddodd ei ffordd ragorol o ailadrodd ei gwyliau llawn heulwen a gweithgarwch mewn carafán ym Mhorthcawl i ennill detholiad mawr o lyfrau ar gyfer llyfrgell yr ysgol. 

Dywedodd Kirsty Williams, Cydlynydd Llythrennedd yn Waunarlwydd, 'Mwynhaodd y plant yn fawr iawn gan ymgysylltu â chyflwyniad Holiday Memory Dylan Thomas. Roedd y gwaith a wnaethant o ganlyniad yn greadigol ac yn llawn dychymyg. Gwyddom fod plant Waunarlwydd yn rhai dawnus iawn, felly mae cael pump o enillwyr gwych yn y gystadleuaeth hon yn gyflawniad ardderchog ac yn amlygu’r talent sydd gan y disgyblion a’r ysgol.'

Dyweddon Ceri Raisbeck, Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymunedol Gors, 'Mwynhaodd ein disgyblion CA2 Ysgol Gymunedol Gors ddysgu mwy am Dylan Thomas a chymryd rhan yn y gystadleuaeth Diwrnod Dylan. Roeddynt wrth eu bodd gyda’u llwyddiant a rhannodd eu cyfoedion eu llawenydd a’u llwyddiant hefyd. Fel ysgol, teimlwn fod y gystadleuaeth wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol ac yn un i edrych ymlaen ati eto.'

Hoffem ddiolch i'r holl ysgolion a’r holl ddisgyblion a gymerodd ran a'u llongyfarch a gobeithiwn y byddwch yn creu rhagor o atgofion melys o wyliau yr haf hwn!